Skip to main content

Cysylltiadau cyflogaeth

Deall dynameg cadwyni cyflenwi byd-eang

18 Medi 2018

Yn 2008, aeth Dr Jean Jenkins i ddarlith yn Llundain a drefnwyd gan Labour behind the Label, lle roedd y siaradwr, Suhasini Singh, yn egluro’r gwaith a oedd yn cael ei wneud dros hawliau gweithwyr dillad gan Cividep India, sefydliad anllywodraethol yn Bangalore, India.

O ganlyniad i’r cyfarfod hwnnw, aeth Jean i ymweld ag India i ymchwilio i waith Cividep yn uniongyrchol, ac felly dechreuodd perthynas ymchwil sydd wedi ffynnu dros gyfnod o tua deng mlynedd.

Yn 2018, roedd Ysgol Busnes Caerdydd wrth ei bodd i allu gwahodd Gopinath Parakuni, Prif Swyddog Gweithredol Cividep, a Ms Yashodha P. Huchanna o Munnade a’r Undeb Llafur Dillad, i fynd i 31ain Cynhadledd yr Uned Ymchwil Cyflogaeth fel prif siaradwyr ynglŷn ag amodau yn y gadwyn gyflenwi dillad ryngwladol.

Bydd yr Ysgol yn parhau i gydweithio â Cividep, India dros y blynyddoedd nesaf, gyda chymorth dyfarniad o Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Yn y cyfweliad hwn, bydd Jean a Gopi yn trafod pam mae eu gwaith cydweithredol wedi bod mor bwysig, ac yn edrych ymlaen at lawer mwy o flynyddoedd o gydweithio cynhyrchiol.

Mae Dr Jean Jenkins yn Ddarllenydd mewn Cysylltiadau Cyflogaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Gopinath Parakuni yw Ysgrifennydd Cyffredinol Cividep India.