Skip to main content

Ymchwil ac arloesedd

Arloesedd trefol yng Nghanada: rhai gwersi

18 Medi 2018
© MaRS Discovery District
© MaRS Discovery District

Ymwelodd yr Athro Rick Delbridge a’r Athro Kevin Morgan â Toronto ac Ottowa i archwilio a dechrau mapio rôl newidiol prifysgolion a dinasoedd mewn rhwydweithiau arloesedd trefol.

“Mae datblygiadau cyfredol o ran arloesedd trefol yn cynnig cyfleoedd ond gallai fod angen ffyrdd newydd o feddwl a gweithredu.”

Mae prifddinas Canada a’i chymydog deheuol yn enghreifftiau addas am fod y ddwy’n ceisio datblygu “llwyfannau arloesedd trefol”.

Mae hyn yn cynnwys cyfuniad o actorion – gan gynnwys bwrdeistrefi, asiantaethau cyhoeddus, prifysgolion, colegau, cwmnïau a deorfeydd – yn cydweithio i lunio “ecosystem arloesedd” leol.

Mae ecosystem arloesedd yn disgrifio’r nifer fawr a natur amrywiol y cyfranogwyr ac adnoddau sydd eu hangen ar arloesedd, ac fe’i mawrygir gan Lywodraeth y DU drwy ei Strategaeth Ddiwydiannol a UK Research and Innovation drwy’r Gronfa Cryfder mewn Lleoedd.

Effaith gymdeithasol a gwerth cyhoeddus

Fel Prifysgol mae angen i ni barhau i ddatblygu ein ‘cysylltedd’ gyda’n rhanbarth, gweithredu’n strategol i ddatblygu partneriaethau allweddol a hefyd buddsoddi mewn ffyrdd sy’n hwyluso ymwneud ar lawr gwlad gan ein myfyrwyr â’n dinasyddion lleol.

Ceir datblygiadau addawol – o fewn y brifysgol ac yn ein trafodaethau gyda phartneriaid allanol, gan gynnwys ein cyngor dinesig cartref a Dinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae angen i ni barhau i ddatblygu ac ehangu’r rhain mewn modd strategol, wrth i ni gysylltu a siarad â’n prif bartneriaid, gan ddechrau gyda’n partneriaid sector cyhoeddus “tirwedd” yn Llywodraeth Cymru, y GIG a BBC Cymru.

Mae’r ail wers yn edrych ar y ffordd mae ymwneud â’r ecosystem arloesedd yn derbyn cefnogaeth y corff myfyrwyr. Un o’r enghreifftiau rydym ni wedi’i chanfod yw Labordy Arloesedd Cymdeithasol Algonquin College.

Gallai datblygu rhywbeth tebyg yng Nghaerdydd greu rhwydwaith ar draws y brifysgol fyddai ar gael i bob coleg ac ysgol ble mae myfyrwyr yn cyfrannu syniadau i amcanion  cenhadaeth ddinesig a gwerth cyhoeddus y brifysgol.

Rhinwedd mawr y Labordy Arloesedd Cymdeithasol yw:

  1. byddai’n manteisio ar egni creadigol ein myfyrwyr;
  2. byddai’n creu cyfleoedd rhyngddisgyblaethol i fyfyrwyr ar draws y brifysgol gyfarfod a gweithio ar draws ysgolion;
  3. byddai’n ddull hynod weladwy i’r brifysgol ymgysylltu â phartïon allanol yn y sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector, gan gyfoethogi effaith gymdeithasol a gwerth cyhoeddus.

Cenedl fach, uchelgais mawr

Y goblygiadau i’r Ddinas-Ranbarth a Chymru’n ehangach yw bod safbwynt ‘ecosystem arloesedd ranbarthol’ yn gallu helpu i feddwl yn fwy uchelgeisiol ac mewn termau mwy cyfannol.

Mae’r Ddinas-Ranbarth yn cynnig cyfle i feddwl a chynllunio ar lefel fwy uchelgeisiol ac integredig.

Mae angen i ni fanteisio ar y cyfle a gyflwynir gan y llinellau cyfathrebu byr mewn cenedl fach a sicrhau ein bod yn gallu gweithredu’n gyflym ac ar y cyd â’n partneriaid allweddol pan fydd cyfleoedd yn codi.

Mae cyfleoedd cyllido cyfredol fel Cronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol a’r Gronfa Cryfder mewn Lleoedd yn cynnig cyfleoedd (yn wir yn galw) am ymagwedd gydweithredol a strategol.

Yr her yw datblygu ffyrdd o weithredu sy’n cyflawni ar y potensial mae ymagwedd o’r fath yn ei gynnig.

Yr Athro Rick Delbridge yw Deon Ymchwil, Arloesedd a Menter y Brifysgol ac Arweinydd Academaidd y Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol arfaethedig.

Yr Athro Kevin Morgan yw Deon Ymgysylltu’r Brifysgol.