Skip to main content

Gwerth cyhoeddus

Adeiladu cymuned ddigidol

19 Medi 2018

I baratoi at lansio blog Ysgol Busnes Caerdydd, gwnaethom eistedd gyda’r Athro a Deon Martin Kitchener sy’n gadael, a’r Athro a Deon Rachel Ashworth sy’n cyrraedd, i sgwrsio am eu dyheadau ar gyfer y platfform newydd.

Yn debyg i nibenodi’r fenyw gyntaf i fod yn Ddeon yn ddiweddar mae’r blog yn rhywbeth newydd i Ysgol Busnes Caerdydd. Allwch chi ddweud ychydig wrthym am yr hyn a wnaeth gymell ei lansio?

MK: Mae’r Ysgol wedi bod yn rhoi ei Strategaeth Gwerth Cyhoeddus ar waith am ychydig dros ddwy flynedd erbyn hyn. Roedd o hyd yn fwriad i ni geisio ymgysylltu ag ystod eang o bartneriaid a rhanddeiliaid sy’n rhannu ein hymrwymiad i hyrwyddo gwelliannau economaidd a chymdeithasol.

Mae’r blog yn un ffordd i ni ddechrau cael gwahanol fathau o sgyrsiau gydag ystod ehangach o bobl ynglŷn â themâu gwerth cyhoeddus.

Yr Athro Martin Kitchener oedd Deon Ysgol Busnes Caerdydd rhwng 2012 a 2018 ac fe gyflwynodd y strategaeth Gwerth Cyhoeddus yn ystod y cyfnod hwn.

RA: Mae gennym nifer o themâu trawsbynciol sydd wedi codi hyd yn hyn o ganlyniad i ddatblygiad y strategaeth.

Er enghraifft, pynciau megis gwaith gweddus, cynhwysiant cymdeithasol a datblygiad cynaliadwy – wedi’u gyrru gan syniadau am economi sefydliadol. Ceir hefyd cryn ddiddordeb mewn ‘busnes wedi’i ailfodelu’ lle rydym yn canolbwyntio ar ffurfiau poblogaidd ac adfywiedig o sefydliadau fel mentrau cydweithredol, mentrau cymdeithasol, perchnogaeth gweithwyr a micro-fusnesau, a meddwl am y rôl bosibl y gallant ei chwarae wrth fynd i’r afael â heriau cymdeithasol.

“ A ydynt yn cynnig atebion a dulliau newydd? Neu, a ydym yn gweld yr un math o broblemau?”

Gall Gwerth Cyhoeddus fod yn derm academaidd ac ensyniadol iawn, beth fydd y blog yn ei wneud er mwyn gwneud y cysyniad hwn yn fwy perthnasol a hygyrch i gynulleidfaoedd?

MK: Ydw, rwy’n credu mai syniad y blog yw ehangu cyd-destun y drafodaeth ac amrywiaeth y cyfranogwyr.

“Hyd yma, rydym wedi bod yn siarad yn bennaf â chydweithwyr academaidd a phobl sydd mewn swyddi sy’n ymgymryd â’r gwaith o wneud polisïau. Wrth symud ymlaen, hoffwn gynnwys ystod llawer ehangach o syniadau, safbwyntiau a chyfraniadau gan bobl y mae gwerth cyhoeddus yn golygu pethau gwahanol iddynt.”

Mae hyn yn gofyn i ni gyrraedd ein cydweithwyr yn y gwasanaethau proffesiynol, cydweithwyr ymchwil ac addysgu yn yr Ysgol, a phobl sydd mewn swyddi rheoli ac arwain yn y sector Addysg Uwch. Bydd angen i ni edrych y tu hwnt i’r sector Addysg Uwch hefyd, i’n cymuned o randdeiliaid a phartneriaid yn y trydydd sector, y sector cyhoeddus a’r sector preifat, a gweld sut maen nhw’n dod i delerau â chyfres debyg o bryderon o ran cyflawni gwerth cymdeithasol a gwerth economaidd.

“Yn amlwg, mae’r heriau hyn yn mynd i fod yn wahanol mewn gwahanol rannau o’r economi, gwahanol leoliadau daearyddol a chyd-destunau diwylliannol gwahanol, er enghraifft.”

Daeth yr Athro Rachel Ashworth yn Ddeon benywaidd cyntaf Ysgol Busnes Caerdydd ym mis Medi 2018.

RA: Y pwynt arall fan hyn yw bod gennym lawer o fecanweithiau ar gyfer rhoi llais i’r myfyrwyr, ond maen nhw’n tueddu i ganolbwyntio ar bethau penodol o brofiad y myfyrwyr.

“Rwy’n credu y bydd y blog yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fyfyrio yn fwy eang am rôl addysg, ystyried problemau cymdeithasol mewn ystyr ehangach a’u helpu i gyrraedd cynulleidfa wahanol iawn y tu hwnt i’w cyd-fyfyrwyr.”

Felly yn yr ystyr hwnnw, rwy’n gobeithio y bydd yr hyn y bydd y myfyrwyr yn ei gyflwyno ar y blog ynghyd â’r cyflwyniadau gan bartneriaid a rhanddeiliaid yn ein herio o ran ein syniadau am werth cyhoeddus, a all fwydo’n uniongyrchol i’r broses o wneud gwelliannau i’r profiad addysgol.

Yn fwy a mwy, mae ein myfyrwyr yn mwynhau cyfleoedd symudedd gyda ni, yn cymryd amser i astudio dramor neu gymryd rhan mewn lleoliadau gwaith. Bydd y blog yn gyfrwng arall iddynt rannu’r profiadau hynny ac annog neu gefnogi myfyrwyr eraill a allai fod yn ystyried cymryd y camau hynny.

A hefyd, wrth gwrs, annog a chymell darpar fyfyrwyr, yn enwedig y rhai hynny sy’n ansicr am y brifysgol i weld y profiadau amrywiol i fyfyrwyr sy’n cael eu cynnig yn Ysgol Busnes Caerdydd yn cael eu cyfleu drwy blatfform fel hyn.

Felly, er eich bod yn lansio’r blog heddiw ar gyfer Ysgol Busnes Caerdydd, mewn gwirionedd, gwahoddiad ydyw i’n cymuned i gymryd rhan, rhannu, ymgysylltu a chyfrannu. A yw hynny’n wir?

RA: Yn bendant. Pan wnaethom benodi ein Entrepreneuriaid Gwerth Cyhoeddus Preswyl, cawsom rywfaint o adborth nad oeddent wedi cysylltu â’r Brifysgol a’r Ysgol Busnes. Mae rhai ohonynt yn byw yng Nghaerdydd, felly maen nhw’n ymwybodol ohono i ryw raddau, ond nid yw’n tueddu i gael effaith ar eu bywydau.

Gwnaethom gydnabod hynny, a threulio llawer o amser yn meddwl am sut rydym yn ymgysylltu ag ystod o gymunedau.

“A gallai hynny olygu estyn allan yn lleol iawn, yng Nghaerdydd, ei chyffiniau a gweddill Cymru. Gogoniant y blog yw y gallwch adeiladu cymuned ddigidol ochr yn ochr ag ef, sy’n cwmpasu gweddill y genedl a’r byd hefyd.”

Rachel Ashworth yw Athro Rheoli Gwasanaethau Cyhoeddus a Deon Ysgol Busnes Caerdydd.

Martin Kitchener yw Athro Rheoli Gwasanaethau Cyhoeddus a Pholisi yn Ysgol Busnes Caerdydd.