Skip to main content

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

#BalanceforBetter

8 Mawrth 2019

I nodi Diwrnod Rhyngwladol Menywod 2019, mae’r Athro a Deon Rachel Ashworth yn tynnu sylw at y cyfraniad sylweddol y mae menywod wedi ei wneud, ac yn parhau i’w wneud, at lwyddiant a diwylliant Ysgol Busnes Caerdydd, gan esbonio prosiect diweddar a ddyluniwyd er mwyn egluro gwerthoedd yr Ysgol.

Y thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Menywod eleni yw ‘Cydbwysedd er Gwell’ (‘Balance for Better’). Mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf, ond er gwaethaf yr ymdrechion gorau, mae cyflymder y newid yn parhau i fod yn rhwystredig o araf.

Yn wir, clywsom ym mis Chwefror 2019 fod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn ehangu yn hytrach na lleihau, er gwaethaf deddfwriaeth newydd gan Lywodraeth y DU.  Rydym hefyd yn gwybod bod menywod yn dal i gael trafferth cyrraedd safleoedd uwch mewn sefydliadau busnes, er gwaethaf eu cyflawniadau academaidd rhagorol ym meysydd busnes, cyfrifeg, ac economeg.

Mae’r ymchwil yn dangos yn eglur pam a sut y mae cydbwysedd yn arwain at welliant. Mae fy ymchwil fy hun gyda chydweithwyr, a oedd yn canolbwyntio ar ein gwasanaethau cyhoeddus, yn dangos bod sefydliadau gyda chydbwysedd gwell rhwng y rhywiau yn perfformio yn well ac yn weithleoedd mwy cynhwysol. Mae hefyd yn dangos y gall cyflogwyr sy’n buddsoddi mewn menywod gyda lefelau is o gyfalaf dynol gynyddu deilliannau eu gyrfaoedd yn sylweddol.

“Ceir bob tro anawsterau wrth roi cydraddoldeb ar waith, ond dengys ein hymchwil bod dull prif-ffrydio rhywedd yn galluogi sefydliadau i fynd i’r afael â degawdau o wahanu galwedigaethol a lleihau eu bylchau cyflog.”

Y thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Menywod eleni yw ‘Cydbwysedd er Gwell’.

Mae hefyd ddigon o dystiolaeth i ddangos y gwerth y mae menywod yn ei ychwanegu at wneud penderfyniadau mewn sefydliadau, yn enwedig ar lefel bwrdd. Yn ein hachos ni, dangoswyd hyn drwy brosiect gwerthoedd diweddar y buom yn ymgymryd ag ef, dan arweinyddiaeth Bwrdd Rheoli Cysgodol yr Ysgol.

Cychwynnwyd y Bwrdd gan ddau gydweithiwr Gwasanaethau Proffesiynol benywaidd – Karen Jones a Vikki Burge – ac fe’i dyluniwyd er mwyn ehangu amrywiaeth a chymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae’r gwerthoedd uchelgeisiol a ddeilliodd o’r Bwrdd yn adlewyrchu amrywiaeth o ran y rhywiau, gan dynnu sylw at sut mae angen i’n Hysgol fod yn gydymdeimladol, cydweithredol, dewr, a myfyrgar.  

Rydym wedi creu cyfres fer o ffilmiau i egluro ein gwerthoedd. Mae’r ffilmiau hyn yn cynnwys rhai o’r menywod hynod sydd gennym yma yn Ysgol Busnes Caerdydd, ac yn dangos y gwahaniaeth y maent yn ei wneud i’r byd yn unol â strategaeth Gwerth Cyhoeddus yr Ysgol. Mae gwaith Jean Jenkins yn canolbwyntio ar gamfanteisio yn y gadwyn gyflenwi fyd-eang; mae Shumaila Yousafzai yn cefnogi entrepreneuriaid benywaidd; tra bo Melanie Jones yn cynghori llywodraethau ynglŷn â bylchau cyflog yng nghyswllt menywod a phobl anabl. Mae gan Eleri Rosier rôl ganolog yng ngwaith ymgysylltu Prifysgol Caerdydd yn Grangetown; mae Dimitrinka Stoyanova yn tynnu sylw at waith ansefydlog yn ein diwydiannau creadigol; mae Yingli Wang yn angerddol dros dlodi bwyd; tra bo Sue Bartlett wedi gwneud yn siŵr bod gan ein holl fyfyrwyr fynediad at y cyfleoedd cyflogadwyedd sydd eu hangen arnynt.

Mae llawer mwy o waith i’w wneud o hyd, ond yn Ysgol Busnes Caerdydd byddwn yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2019 drwy ddathlu campau’r menywod hyn a rhai eraill sy’n parhau i fynd i’r afael â rhagfarn, sy’n codi ymwybyddiaeth am fanteision amrywiaeth, ac sy’n gweithredu dros gyfartaledd. Rwy’n gobeithio y byddwch chi i gyd yn gwneud yr un peth.

Rachel Ashworth yw Deon fenywaidd gyntaf Ysgol Busnes Caerdydd ac mae’n Athro Rheoli Gwasanaethau Cyhoeddus.

Thema allweddol yn ei hymchwil yw cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus.