Skip to main content

Iechyd a Lles

4 awgrym Winnie* i gadw’n iach

28 Chwefror 2019
Er na allaf i feddwl am ddim byd gwell na llarpio cyflenwad diddiwedd o selsig, mae’n bwysig dilyn diet iach a chytbwys

Yn ein post diweddaraf, mae Winnie, ein Ci Anwes  fel Therapi, yn rhannu pedwar awgrym i’ch helpu i gadw’n iach.

Rwyf i wedi cyfarfod â nifer ohonoch chi ar fy nheithiau o gwmpas yr Ysgol Busnes ar Ddyddiau Mercher Winnie, a rhag ofn nad oeddech chi’n gwybod, byddaf i’n ôl yn fy lle arferol yn y Ganolfan Addysgu Graddedigion rhwng 12.30 a 1.15pm.

Dewch draw i ddweud shwmai.

Wel dyma ni ddiwedd mis Chwefror – sut ddigwyddodd hynny?

“Wrth i chi ailafael yn eich astudiaethau, dyma gyfle i chi fanteisio ar fy noethineb gydag ambell awgrym ar gyfer iechyd a lles.”

Efallai fod y dyddiau’n mynd yn hirach, ond mae dipyn o ffordd i fynd cyn i’r gwanwyn gyrraedd – brrr!

1. Bwyta’n iach

Er na allaf i feddwl am ddim byd gwell na llarpio cyflenwad diddiwedd o selsig, mae’n bwysig dilyn diet iach a chytbwys.

Dwyf i ddim yn dweud na ddylech chi fwynhau tecawe o dro i dro, ond mae sawl mantais yn deillio o goginio eich bwyd eich hun. Gallwch wneud prydau iach a gall arbed arian i chi yn y pen draw!

Mae digon o wefannau ar gael yn llawn ryseitiau rhagorol. Synnwch eich ffrindiau a’u gwahodd i swper.

Gwahoddwch y giang draw am fwyd a diod

2. Yfwch ddigon o ddŵr

Pan fyddwn ni’n flinedig neu’n llwglyd, gallai olygu ein bod yn brin o ddŵr. Felly yn hytrach na mynd yn ôl i’r gwely, neu goginio pryd mawr, yfwch wydraid o ddŵr gyntaf.

A gwnewch yn siŵr eich bod yn yfed digon o ddŵr drwy gydol y dydd i gadw’ch sylw ar yr holl stwff deallusol yna rydych chi’n ei ddysgu mewn darlithoedd a seminarau.

3. Ymarfer corff

Does dim rhaid i hyn olygu oriau bwy gilydd yn y gampfa! Gallwch fynd am dro rhwng darlithoedd a thiwtorialau.

“Beth am fynd am dro yn y parc i fwynhau ennyd o dawelwch?”

Mae’r parc Bute-iffwl hwn ar draws y ffordd i’n Hysgol ni

Mae buddiannau ymarfer corff yn rhyfeddol, nid i’ch cael chi’n ffit yn unig, ond hefyd i’ch iechyd a’ch lles meddyliol.

4. Sgwrsio

Gwnewch eich gorau i gadw cysylltiad gyda’ch ffrindiau a’ch teulu.

Gall hyn fod yn anodd a chithau i ffwrdd yn y brifysgol. Ond mae’n gyfle hefyd i gyfarfod â phobl newydd a dechrau perthnasoedd newydd.

“Mae cymaint o’n graddedigion yn dweud wrthym ni eu bod wedi gwneud ffrindiau oes yng Nghaerdydd.”

Gallwch gyfarfod am baned sydyn, ffonio adref neu wahodd ffrindiau am fwyd.

Ar hyd y lle yn chwilio am wiwerod.**

Edrychaf ymlaen at eich gweld chi i gyd yn y PTC amser cinio ar ddyddiau Mercher dros y misoedd nesaf.

A dyna ddod â’r golofn gyngor, crynodeb, doethineb llesiant gyntaf – beth bynnag rydych chi am ei alw – gan Winnie ar ddydd Mercher, i ben.

Y cyfan sydd ar ôl yw i mi sôn wrthych chi am ein Canolfan Cefnogi Myfyrwyr.

Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth

Mae gennym ni amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogaeth i Fyfyrwyr Rhyngwladol.

Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr yn 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.

Cewch ragor o wybodaeth am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor, ac ati, ar Fewnrwyd y Brifysgol.

Denise Brereton yw’r Cynghorydd Cymorth Myfyrwyr yn Ysgol Busnes Caerdydd a gellir dod o hyd iddi ar Lawr Daear Adeilad Aberconwy.

*Ci Anwes  fel Therapi

**Ni chafodd unrhyw wiwerod eu hanafu wrth ysgrifennu’r blog hwn. Mae anifeiliaid eraill ar gael i redeg ar eu hôl.