Skip to main content

Economi sylfaenol

Gallai ffocws newydd ar sylfaeni economi’r DU helpu’r rhanbarthau tlotaf ar ôl Brexit

27 Mawrth 2019
Fe adwaenir hyn fel yr economi sylfaenol, a’r “hanfodion” hyn yw’r holl nwyddau a gwasanaethau sy’n darparu’r isadeiledd materol a chymdeithasol i’r gymdeithas.

Yn ein post diweddaraf, mae Dr Dylan Henderson yn gweithio gyda Dr Laura Reynolds, cyn-ymgeisydd PhD yn Ysgol Busnes Caerdydd, i drafod sut gallai ffocws newydd ar yr economi sylfaenol ateb rhai o broblemau anghydraddoldeb rhanbarthol y DU.

Ymysg yr holl ansicrwydd y mae Brexit yn ei achosi, mae pryderon wedi codi ynghylch y modd y gallai fod yn gwaethygu problem berthnasol anghydraddoldeb. Mae tystiolaeth gynyddol sy’n dangos y bydd yr anghyfartaleddau economaidd a chymdeithasol rhwng y rhanbarthau cryfach a gwannach yn y DU yn ehangu.

Gan edrych ar nifer o sefyllfeydd posib, amcangyfrifir y gallai’r rhanbarthau tlawd fod rhwng 20% i 60% mwy agored i effeithiau’r risgiau economaidd na Llundain. Mae Cymru a gogledd-ddwyrain Lloegr ymysg y rhanbarthau sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio am eu bod nhw’n dibynnu cymaint ar allforio bwyd a nwyddau i Ewrop.

“Ond tra bo gadael yr UE yn anochel, efallai, nid oes rhaid i’r bobl a’r sectorau yn y rhanbarthau hyn gael eu hesgeuluso.”

Mae gwaith yn mynd rhagddo bellach i ddarganfod sut gallwn gefnogi’r economïau lleol hyn yn genedlaethol. Tra bo denu busnesau newydd i wahanol ranbarthau yn bwysig, mae gwneuthurwyr polisi a busnesau sefydledig hefyd yn ystyried sut gallai cefnogi anghenion sylfaenol economi’r wlad – a ffurfir gan bethau megis rhwydweithiau cyfleusterau, bwyd, a gwasanaethau iechyd – warchod yr ardaloedd hyn rhag problemau economaidd wedi Brexit.

Fe adwaenir hyn fel yr economi sylfaenol, a’r “hanfodion” hyn yw’r holl nwyddau a gwasanaethau sy’n darparu’r isadeiledd materol a chymdeithasol i’r gymdeithas. Mae hynny’n cynnwys darpariaeth adnoddau cynradd (er enghraifft, gwasanaethau iechyd, gofal ac addysg) yn ogystal â’r isadeiledd sy’n galluogi cymdeithas i weithredu (rhwydweithiau cyfleusterau, telathrebu, band llydan), a gweithgareddau defnyddio beunyddiol (bwyd, twristiaeth, lletygarwch, manwerthu). Gyda’i gilydd, mae’r tair cydran hyn yn gyfrifol am gyflogaeth 63.8% (17.6%, 26.2% a 20% yr un) o holl gyflogeion y DU. Maent yn gyfrifol am hyd at 30% o wariant wythnosol y cartref. Er bod y rhain yn rhan fawr o’r economi, caiff y sectorau hyn eu hanwybyddu’n aml wrth i weithgareddau gwerth uchel megis gwasanaethau ariannol, gweithgynhyrchu uwch a’r gwyddorau bywyd hawlio mwy o sylw.

Yn draddodiadol, mae polisi cyhoeddus wedi anwybyddu’r economi sylfaenol. Yn rhannol oherwydd ei chyflogau isel, lefelau sgiliau isel, a’i chyfansoddiad gwerth isel tybiedig. Serch hynny, mae’n lleol gan mwyaf, a phrin y caiff ei phrynu neu ei gwerthu y tu hwnt i’r DU – sy’n golygu bod y sectorau hyn yn wydn yn wyneb ysgytwadau economaidd megis Brexit.

Nad yw allforion a mewnforion yn effeithio ar sy sectorau sylfaenol i’r fath raddau.

Wrth fesur effeithiau economaidd y DU yn gadael yr UE, gwneir rhagfynegiadau ar sail dibyniaeth ar fasnach â’r UE. Gan nad yw allforion a mewnforion yn effeithio ar sy sectorau sylfaenol i’r fath raddau, gobeithir y gallent liniaru ar bethau yn ystod y cyfnod pontio.

Polisi sy’n dod i’r amlwg

“Mae gwneuthurwyr polisi yng Nghymru eisoes wedi dechrau mabwysiadu rhai o egwyddorion yr economi sylfaenol.”

Fe wnaeth Cynllun Gweithredu Economaidd Ffyniant i Bawb 2018 ymgorffori pedwar “sector sylfaenol”. Sef twristiaeth, manwerthu, bwyd a gofal. Gan adeiladu ar hyn, rhyddhaodd Llywodraeth Cymru £1.5 miliwn ym mis Chwefror 2019 i gyllido prosiectau arbrofol sy’n herio ffyrdd confensiynol o ysgogi cynhyrchedd a thwf yn y sectorau hyn. Mae cymhellion dros y newidiadau hyn yn cynnwys yr angen i gyflwyno swyddi gwell yn nes y cartref a sbarduno datblygiad economaidd rhanbarthol.

Mae arwyddion bod yr economi sylfaenol yn brigo mewn trafodaethau gwleidyddol yn y DU hefyd. Ar lefel ranbarthol, mae’n dechrau cael sylw yn y strategaethau diwydiannol lleol arloesol. Mae’r polisïau hyn, sy’n seiliedig ar leoliadau penodol, wedi adeiladu ar symudiad llywodraeth y DU tuag at ddulliau lleol parthed datblygiad diwydiannol a thwf economaidd. Mae drafft cyntaf strategaeth Awdurdod Cyfunedig Manceinion Fwyaf, er enghraifft, yn nodi bod y sylfaeni’r economi yn un o’i brif amcanion.

Mae arloesiadau technolegol eisoes yn newid y modd y mae busnesau yn gweithredu.

Ond er bod angen polisi i annog rhagor o drafod ar yr economi sylfaenol, nid dyma’r unig beth a fydd yn ei helpu i dyfu. Mae ein hymchwil ni, er enghraifft, yn dangos fod technoleg yn hanfodol er mwyn annog datblygiad y sectorau hyn.

“Mae arloesiadau technolegol – gan gynnwys deallusrwydd artiffisial, biotechnoleg, data mawr, technoleg gwmwl, rhyngrwyd y pethau, roboteg a thechnoleg y gofod – eisoes yn newid y modd y mae busnesau yn gweithredu.”

A thra bo’r datblygiadau hyn yn cael eu dathlu amlaf yn rhannau gwerth uchel yr economi, gallant hefyd helpu rhannau mwy cyffredin yr economi.

Mae ein hymchwil ni, er enghraifft, yn dangos fod technoleg yn hanfodol er mwyn annog datblygiad y sectorau hyn. Mae arloesiadau technolegol – gan gynnwys deallusrwydd artiffisial, biotechnoleg, data mawr, technoleg gwmwl, rhyngrwyd y pethau, roboteg a thechnoleg y gofod – eisoes yn newid y modd y mae busnesau yn gweithredu. A thra bo’r datblygiadau hyn yn cael eu dathlu amlaf yn rhannau gwerth uchel yr economi, gallant hefyd helpu rhannau mwy cyffredin yr economi.

Er y bydd heriau, mae ein harwyddion cynnar yn dangos y bydd buddsoddi mewn technoleg a gefnogir gan ffibr hynod gyflym a thechnolegau band llydan ar gyfer dyfeisiau symudol yn arwain at newidiadau cynyddrannol hir-dymor cadarnhaol ar draws y sectorau sylfaenol. Mae’r rhain yn cynnwys mwy o arloesedd, effeithlonrwydd busnes, a gwerth ar gyfer cwsmeriaid.

Er na fydd ffocws newydd ar yr economi sylfaenol yn datrys holl broblemau anghydraddoldeb rhanbarthol y DU wedi Brexit, gall twf addawol yn y sectorau hyn helpu. Ond dim ond cyhyd ag y bo rhagor o bolisi yn cael ei roi ar waith i gefnogi hyn. Bydd rhaid i’r wlad ymgorffori’r nwyddau a gwasanaethau hyn a gymerir yn ganiataol yn aml mewn polisi ac arfer cenedlaethol. Dim ond y pryd hynny y gall eu gwerth gael ei lawn sylweddoli, yn enwedig mewn tirwedd economaidd, wleidyddol a thechnolegol ansicr.

Mae’r Athro Dylan Henderson yn Uwch-gymrawd Ymchwil yn Uned Ymchwil Economi Cymru yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar The Conversation UK, ac fe’i hysgrifennwyd gyda Dr Laura Reynolds, Dadansoddwr Data a Pholisi ym Mhrifysgol Birmingham.