Arloesedd trefol yng Nghanada: rhai gwersi
18 Medi 2018Ymwelodd yr Athro Rick Delbridge a’r Athro Kevin Morgan â Toronto ac Ottowa i archwilio a dechrau mapio rôl newidiol prifysgolion a dinasoedd mewn rhwydweithiau arloesedd trefol.
“Mae datblygiadau cyfredol o ran arloesedd trefol yn cynnig cyfleoedd ond gallai fod angen ffyrdd newydd o feddwl a gweithredu.”
Mae prifddinas Canada a’i chymydog deheuol yn enghreifftiau addas am fod y ddwy’n ceisio datblygu “llwyfannau arloesedd trefol”.
Mae hyn yn cynnwys cyfuniad o actorion – gan gynnwys bwrdeistrefi, asiantaethau cyhoeddus, prifysgolion, colegau, cwmnïau a deorfeydd – yn cydweithio i lunio “ecosystem arloesedd” leol.
Mae ecosystem arloesedd yn disgrifio’r nifer fawr a natur amrywiol y cyfranogwyr ac adnoddau sydd eu hangen ar arloesedd, ac fe’i mawrygir gan Lywodraeth y DU drwy ei Strategaeth Ddiwydiannol a UK Research and Innovation drwy’r Gronfa Cryfder mewn Lleoedd.
Effaith gymdeithasol a gwerth cyhoeddus
Fel Prifysgol mae angen i ni barhau i ddatblygu ein ‘cysylltedd’ gyda’n rhanbarth, gweithredu’n strategol i ddatblygu partneriaethau allweddol a hefyd buddsoddi mewn ffyrdd sy’n hwyluso ymwneud ar lawr gwlad gan ein myfyrwyr â’n dinasyddion lleol.
Ceir datblygiadau addawol – o fewn y brifysgol ac yn ein trafodaethau gyda phartneriaid allanol, gan gynnwys ein cyngor dinesig cartref a Dinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae angen i ni barhau i ddatblygu ac ehangu’r rhain mewn modd strategol, wrth i ni gysylltu a siarad â’n prif bartneriaid, gan ddechrau gyda’n partneriaid sector cyhoeddus “tirwedd” yn Llywodraeth Cymru, y GIG a BBC Cymru.
Mae’r ail wers yn edrych ar y ffordd mae ymwneud â’r ecosystem arloesedd yn derbyn cefnogaeth y corff myfyrwyr. Un o’r enghreifftiau rydym ni wedi’i chanfod yw Labordy Arloesedd Cymdeithasol Algonquin College.
Gallai datblygu rhywbeth tebyg yng Nghaerdydd greu rhwydwaith ar draws y brifysgol fyddai ar gael i bob coleg ac ysgol ble mae myfyrwyr yn cyfrannu syniadau i amcanion cenhadaeth ddinesig a gwerth cyhoeddus y brifysgol.
Rhinwedd mawr y Labordy Arloesedd Cymdeithasol yw:
- byddai’n manteisio ar egni creadigol ein myfyrwyr;
- byddai’n creu cyfleoedd rhyngddisgyblaethol i fyfyrwyr ar draws y brifysgol gyfarfod a gweithio ar draws ysgolion;
- byddai’n ddull hynod weladwy i’r brifysgol ymgysylltu â phartïon allanol yn y sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector, gan gyfoethogi effaith gymdeithasol a gwerth cyhoeddus.
Cenedl fach, uchelgais mawr
Y goblygiadau i’r Ddinas-Ranbarth a Chymru’n ehangach yw bod safbwynt ‘ecosystem arloesedd ranbarthol’ yn gallu helpu i feddwl yn fwy uchelgeisiol ac mewn termau mwy cyfannol.
Mae’r Ddinas-Ranbarth yn cynnig cyfle i feddwl a chynllunio ar lefel fwy uchelgeisiol ac integredig.
Mae angen i ni fanteisio ar y cyfle a gyflwynir gan y llinellau cyfathrebu byr mewn cenedl fach a sicrhau ein bod yn gallu gweithredu’n gyflym ac ar y cyd â’n partneriaid allweddol pan fydd cyfleoedd yn codi.
Mae cyfleoedd cyllido cyfredol fel Cronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol a’r Gronfa Cryfder mewn Lleoedd yn cynnig cyfleoedd (yn wir yn galw) am ymagwedd gydweithredol a strategol.
Yr her yw datblygu ffyrdd o weithredu sy’n cyflawni ar y potensial mae ymagwedd o’r fath yn ei gynnig.
Yr Athro Rick Delbridge yw Deon Ymchwil, Arloesedd a Menter y Brifysgol ac Arweinydd Academaidd y Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol arfaethedig.
Yr Athro Kevin Morgan yw Deon Ymgysylltu’r Brifysgol.
- Mawrth 2024
- Ebrill 2023
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Rhagfyr 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018