Learning and Teaching Conference 2021- My conference experience
23 July 2021Written by Bex Ferriday, CESI Digital Education Team
I was able to view the CESI Learning and Teaching Conference through a variety of lenses this year, which was quite an eye-opener. ‘Lenses’. ‘Eye-opener’. See what I did there? But enough of the optical allusions…
Sitting on an online committee and helping to organise an online conference was a genuinely refreshing change. The shift to digital in all aspects of life since last March meant that a theme for the conference: building on the lessons from a year of blended and online learning presented itself before we even began. However, hosting the conference online presented some specific issues. On the plus side: no having to book a venue or spend money on lunch, saving a load of money. On the minus side: the risk of losing those brilliant real life networking opportunities that can be had between sessions, while simultaneously making the conference nothing more than a ‘Death by Zoom’ experience for attendees already tired with staring into screens all day.
On the other minus side: no free lunch. Or pens.
Online conferences demand that we who work in technology practice what we preach and look for innovative ways to present information (did I mention Death by Zoom?). Committee meetings were lively and funny, and friendly, and it was quickly decided that blended and asynchronous elements should be mixed with more traditional ‘live’ content. Online galleries for academic posters, digital breakout rooms for networking and discussions and the opportunity for academics to ‘show and tell’ their digital education-based successes from the past year, were all agreed upon quickly, along with Teams channels for people to wander in and out of at their leisure before, during and after the event. For me, one of the most ‘fun’ decisions was to include ‘Pecha Kucha’ presentations this year.
At 20 slides and twenty seconds per slide, a Pecha Kucha is the presentation equivalent to bungee jumping. Slides, ideally, should be image-based, with little or no text and the total time of six minutes and 40 seconds forces the presenter to be clear, cohesive, and succinct. Who said PowerPoint was dull? Being a foolhardy idiot of some repute, I sent my proposal for a Pecha Kucha, and it was accepted. (Independently of me being on the conference committee I should say. If my idea was rubbish, the rest of the group would have told me, and it would have been rejected.)
I co-chaired a couple of sessions on day one of the conference. That was fun, because nothing went wrong, and I wasn’t really needed, so I could sit back and enjoy the presentations. Which I did. Because: wow – there’s some really innovative and pedagogically sound stuff going on in our Schools. Note to the CESI: we need to do more ‘show and tell stuff’. Sharing successes – and ideas – around digital education with peers is the best way to get engaged, get confident, and keep this innovation snowball going.
I also presented my Pecha Kucha on day one. Called ‘Welcome to LinkedIn Learning’, I needed to let the audience know that all staff and students have free LinkedIn Learning licences (which you can activate here if you haven’t done so already: use your university email address to activate your account), and give a guided tour of the site to familiarise the audience. I also wanted to go beyond the usual ‘click here and this happens’ style of presentation and concentrate on the cool bits of LinkedIn Learning (content curation, communities of practice, and the student voice). Between you and me, LinkedIn Learning, for all its many splendours, is not the most interesting of subjects to talk about. Therefore, challenging myself to get all of that across in a little over six minutes meant that I wouldn’t run the risk of boring people – or making it look like some sort of corporate sales pitch. I think it went pretty well, but, as always, gave myself a C+ and a ‘could do better’.
Day two arrived, and this time I got the chance to chair a session, which meant remembering to press the ‘Record’ button, introducing the presenters, making sure they kept to time, and preparing questions in case the audience were shy. As with the previous day, the presenters were enthusiastic, personable, and erudite, and all are clearly being incredibly imaginative and thoughtful around their online practices. I honestly wish they had all had longer than fifteen minutes to present; something I don’t say lightly, having sat in hundreds of lengthy, wordy, and exhausting presentations over the years.
There may have been no free pens, coffee or crisps, but that really didn’t matter. And there may have been no opportunities for meeting in real life (other than in the pub afterwards!), and yes; Zoom and Teams ARE exhausting. But it worked, And it worked brilliantly. And I’m looking forward to next year already.
Ysgrifennwyd gan Bex Ferriday, Tîm Addysg Ddigidol CESI
Llwyddais i weld Cynhadledd Dysgu ac Addysgu CESI o nifer o safbwyntiau, neu lensys gwahanol eleni, ac roedd yn agoriad llygad. ‘Lensys’. ‘Agoriad llygad’. Sylwoch chi ar beth wnes i yno? Ond dyna ddigon o’r cyfeiriadau optegol…
Roedd eistedd ar bwyllgor ar-lein a helpu i drefnu cynhadledd ar-lein yn newid braf. Roedd y newid tuag at fyw ein bywyd yn ddigidol ers mis Mawrth diwethaf yn golygu bod un thema amlwg yn cynnig ei hun ar gyfer y gynhadledd: adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd ar ôl blwyddyn o ddysgu cyfunol ac ar-lein. Fodd bynnag, roedd cynnal y gynhadledd ar-lein yn codi rhai materion penodol. Ond i fod yn gadarnhaol: nid oedd angen trefnu lleoliad na gwario arian ar ginio ac felly fe wnaethom arbed llwyth o arian. Ar y llaw arall: mae yna risg ein bod yn colli cyfleoedd rhwydweithio gwych rhwng sesiynau, a bod cynulleidfa’r gynhadledd yn cael eu llethu gan Zoom, wedi blino ar ôl syllu ar eu sgriniau drwy’r dydd.
Yn ogystal â hynny: dim cinio am ddim. Na phennau ysgrifennu.
Mae cynadleddau ar-lein yn mynnu ein bod ni sy’n gweithio ym maes technoleg yn rhoi’r hyn rydyn ni’n ei arddel ar waith ac yn edrych am ffyrdd arloesol o gyflwyno gwybodaeth (wnes i sôn am gael eich llethu gan Zoom?). Roedd cyfarfodydd pwyllgor yn fywiog, doniol a chyfeillgar, a phenderfynwyd yn gyflym y dylid manteisio ar yr elfennau cyfunol ac anghydamserol ochr yn ochr â chynnwys ‘byw’ mwy traddodiadol. Cytunwyd yn gyflym ar orielau ar-lein ar gyfer posteri academaidd, ystafelloedd sgwrsio digidol ar gyfer rhwydweithio a thrafodaethau a’r cyfle i academyddion ‘ddangos a dweud’ eu llwyddiannau o ran addysg ddigidol y llynedd, ynghyd â sianeli Teams i bobl eu harchwilio yn eu hamser eu hunain cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad. I mi, un o’r penderfyniadau gorau oedd cynnwys cyflwyniadau ‘Pecha Kucha’ eleni.
Mae cyflwyniad Pecha Kucha yn cyfateb i wneud naid bynji, 20 sleid, 20 eiliad yr un. Dylai sleidiau, yn ddelfrydol, fod yn seiliedig ar luniau, heb fawr o destun, os o gwbl, ac mae’r terfyn amser o chwe munud a 40 eiliad yn gorfodi’r cyflwynydd i fod yn glir, yn gydlynol ac yn gryno. Pwy ddywedodd fod PowerPoint yn ddiflas? Gan fy mod yn berson ffôl, byrbwyll, anfonais fy nghais am Pecha Kucha, ac fe gafodd ei dderbyn. (Dylwn i nodi nad oedd y penderfyniad yn gysylltiedig â’r ffaith fy mod ar bwyllgor y gynhadledd. Pe bai fy syniad yn un gwael, byddai gweddill y grŵp wedi dweud wrthyf, a byddai wedi cael ei wrthod.)
Fe wnes i gyd-gadeirio cwpl o sesiynau ar ddiwrnod cyntaf y gynhadledd. Roedd hynny’n hwyl, oherwydd aeth popeth yn iawn, ac nid oedd fy angen mewn gwirionedd, felly gallwn eistedd yn ôl a mwynhau’r cyflwyniadau. A dyna wnes i. Oherwydd: waw – mae yna bethau gwirioneddol arloesol ac addysgol gadarn yn digwydd yn ein Hysgolion. Nodyn i’r CESI: mae angen i ni wneud mwy o bethau ‘dangos a dweud’. Rhannu llwyddiannau – a syniadau – ynghylch addysg ddigidol gyda chyfoedion yw’r ffordd orau i ymgysylltu, dod yn hyderus, a chadw’r belen eira arloesi hon i droi.
Hefyd, fe wnes i gyflwyno fy Pecha Kucha ar y diwrnod cyntaf. Enw’r cyflwyniad oedd ‘Croeso i LinkedIn Learning’, ac roeddwn am roi gwybod i’r gynulleidfa fod gan yr holl staff a myfyrwyr drwyddedau Dysgu LinkedIn am ddim (gallwch eu gweithredu yma os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes: defnyddiwch eich cyfeiriad ebost prifysgol i actifadu eich cyfrif). Fe wnes i dywys y gynulleidfa o amgylch y wefan fel ei bod yn dod yn gyfarwydd â hi. Roeddwn hefyd eisiau mynd y tu hwnt i’r dull cyflwyno ‘cliciwch yma a bydd hyn yn digwydd’ arferol a chanolbwyntio ar y pethau cŵl am LinkedIn Learning (curadu cynnwys, cymunedau ymarfer, a llais y myfyrwyr). Rhyngoch chi a fi, nid LinkedIn Learning, er yr holl bethau gwych sydd arno, yw’r pwnc mwyaf diddorol i siarad amdano. Felly, roedd herio fy hun i gyfleu’r cyfan mewn ychydig dros chwe munud yn golygu na fyddwn mewn perygl o ddiflasu pobl – na gwneud iddo edrych fel rhyw fath gyflwyniad gwerthu corfforaethol. Rwy’n credu aeth pethau’n eitha’ da, ond, fel bob amser, rhoddais C+ a ‘gallai fod yn well’ i mi fy hun.
Erbyn yr ail ddiwrnod, cefais gyfle i gadeirio sesiwn, a oedd yn golygu cofio pwyso’r botwm ‘Record’, cyflwyno’r cyflwynwyr, gwneud yn siŵr eu bod yn cadw at amser, a pharatoi cwestiynau rhag ofn bod y gynulleidfa’n swil. Yn yr un modd â’r diwrnod blaenorol, roedd y cyflwynwyr yn frwdfrydig, yn ddymunol a’n hyddysg, ac mae’n amlwg bod pob un ohonynt wedi rhoi llawer o feddwl a dychymyg yn eu harferion ar-lein. Yn wir, byddwn wedi hoffi petaent wedi cael mwy na phymtheg munud i roi eu cyflwyniadau; a dydw i ddim yn dweud hynny heb feddwl, ar ôl eistedd mewn cannoedd o gyflwyniadau hirfaith a blinedig dros y blynyddoedd.
Efallai nad oedd unrhyw bennau ysgrifennu, coffi na chreision am ddim, ond doedd dim ots am hynny. Ac efallai na fu unrhyw gyfleoedd i gwrdd â’n gilydd go iawn (heblaw am yn y dafarn wedyn!), ac ydyn; MAE Zoom a Teams yn flinedig. Ond fe weithiodd, Ac fe weithiodd yn wych. Ac rwy’n edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf yn barod.