Skip to main content

Hyrwyddwyr MyfyrwyrYmgysylltu a myfyrwyr

Prosiect Hyrwyddwyr Myfyrwyr y Mis: Chwefror

3 Mawrth 2022

Ysgrifennwyd gan Jade Tucker ac Uzair Ahmed

Mae LinkedIn Learning yn blatfform dysgu ar-lein cyffrous gydag amrywiaeth eang o gynnwys proffesiynol i gefnogi eich datblygiad o sgiliau proffesiynol, creadigol a thechnegol fel myfyrwyr a darpar weithwyr proffesiynol!

Ar hyn o bryd, rydw i a Jade Tucker yn gweithio fel hyrwyddwyr myfyrwyr ar y prosiect LinkedIn Learning ochr yn ochr â’n cyrsiau gradd. Mae ein gwaith yn ymwneud â hyrwyddo’r platfform i fyfyrwyr drwy blogiau a thrwy amlygu a chyflwyno cynnwys cyffrous sy’n seiliedig ar themâu amserol.

Hyd yma, mae’r gwaith y mae Jade wedi ei wneud fel rhan o’r prosiect yn cynnwys profi’r gwasanaeth drwy ddefnyddwyr, yn ogystal â manylu ar ei phrofiadau o ddefnyddio’r platfform mewn blog a gyhoeddwyd yn ddiweddarach ar fewnrwyd y myfyrwyr. Ar hyn o bryd, rydw i a Jade yn gweithio gyda Rebecca Ferriday o’r Academi Dysgu ac Addysgu ar wella presenoldeb cyfryngau cymdeithasol LinkedIn Learning.

Rydw i wedi bod yn gweithio ar amlygu’r cynnwys perthnasol ac amserol sydd ar LinkedIn Learning a grwpio’r cynnwys hwnnw mewn llwybrau dysgu wedi’u curadu i’w lanlwytho ar LinkedIn Learning.  Er enghraifft, creais lwybr dysgu yn ddiweddar am awgrymiadau ar gyfer chwilio am dŷ, i gyd-fynd â’r rhuthr mawr gan fyfyrwyr wrth iddyn nhw geisio gwneud yn siŵr eu bod nhw’n cael y denantiaeth hollbwysig honno ar gyfer y flwyddyn nesaf! Fe wnes i ddod o hyd i fideos ar sut i reoli straen, cyllidebu, datrys gwrthdaro a rhentu eiddo.

Wrth symud ymlaen, rydym yn gobeithio parhau i ddod o hyd i ffyrdd cyffrous o ymgysylltu â myfyrwyr â phopeth sydd gan LinkedIn Learning i’w gynnig i gefnogi myfyrwyr ar eu teithiau academaidd a phroffesiynol.