Skip to main content

Datblygu cwricwlwm

Proffil Tiwtor Personol: Samantha Holloway, Ysgol Feddygaeth

9 Tachwedd 2020

Dywedwch ychydig amdanoch chi eich hun wrthym, pa ysgol rydych yn Uwch-diwtor Personol ynddi ac ers faint rydych wedi bod yn cynnig Tiwtora Personol?
Rydw i’n gweithio yn y Ganolfan Addysg Feddygol, i’r Ysgol Meddygaeth. Fi yw’r Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer y radd Meistr ym maes Iacháu Clwyfau a Thrwsio Meinweoedd ac rwyf hefyd yn Diwtor ar y rhaglen Meddygol Israddedig. Rwyf wedi bod yn Diwtor Personol am 8 mlynedd ac yn Uwch-diwtor Personol ar gyfer rhaglenni Ôl-raddedig a addysgir ers 2016.

Beth sydd wedi bod y peth mwyaf buddiol am fod yn Diwtor Personol hyd yn hyn?
Gwybod y byddwch yn gallu gwneud gwahaniaeth i ddatblygiad myfyriwr. Mae gallu cefnogi myfyrwyr drwy eu hastudiaethau a’u gweld yn Graddio yn wobrwyol iawn!

Beth ydych chi wedi sylweddoli fwyaf arno o ran yr effaith y gall Tiwtor Personol ei chael ar fyfyrwyr?
Pa mor bwerus y gall y berthynas fod rhwng yr unigolyn sy’n cael ei diwtora a’r Tiwtor Personol o ran magu hyder, hunan-barch a hunaneffeithiolrwydd mewn myfyriwr os rydych yn ei reoli’n dda

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i gydweithwyr sy’n dechrau ym maes Tiwtora Personol?
Mae Tiwtora Personol yn broses ddwy-ffordd lle dylai’r myfyriwr deimlo fel bod ganddo bŵer i ymgysylltu â’r broses ond efallai bydd angen amser arnynt i deimlo’n gyfforddus gyda’r berthynas rhwng y Tiwtor a’r unigolyn dan sylw. Felly, mae’n bwysig gosod ffiniau, rheoli disgwyliadau a meithrin perthynas er mwyn meithrin amgylchedd o ymddiriedaeth a pharch. Mae mwy i Diwtora Personol na rhoi cyngor ac ‘achub’ myfyrwyr sy’n ei chael hi’n anodd

Pa 5 peth y byddech yn eu hargymell fel arferion da ar gyfer Tiwtoriaid Personol? 

  • Dewch i adnabod eich myfyrwyr a’u rhaglen astudio
  • Gwrando ddylai fod y nodwedd amlycaf mewn rhyngweithiadau Tiwtora Personol
  • Ystyriwch bryderon myfyrwyr a cheisiwch feithrin amgylched sy’n galluogi myfyrwyr i siarad am yr heriau sy’n peri pryder iddynt
  • Hwyluswch arfer myfyriol i gefnogi myfyrwyr i nodi beth sy’n mynd yn dda a beth sydd ddim, fel y gallant nodi amcanion realistig
  • Ceisiwch gymorth gan gydweithwyr

Mae’r Adnodd Tiwtora Personol Ar-lein nawr yn fyw ac ar gael i’r holl Diwtoriaid Personol, Uwch Diwtoriaid Personol a’r rhai sy’n helpu i gefnogi’r System Tiwtora Personol. Cadwch lygad ar flog CESI am fwy o wybodaeth.

Mae’r pecyn yn cynnwys: 

• Adnodd Tiwtora Personol Ar-lein wedi’i ddiweddaru 
• Cronfa o Astudiaethau Achos sy’n Seiliedig ar Sefyllfaoedd
• Cyfres Bodlediad Tiwtora Personol o Bell
• Tiwtora Personol o Bell- adnoddau fideo gyda thema