Ymgysylltu â myfyrwyr yn 2020
4 Tachwedd 2020Sut mae digwyddiadau eleni wedi newid y ffordd y mae angen i ni ymgysylltu â myfyrwyr?
Mae cydweithredu â myfyrwyr i helpu i lunio eu profiad prifysgol yn fwy pwysig nag erioed yn yr amseroedd cythryblus hyn.
Craidd ymgysylltu â myfyrwyr yw cynnwys myfyrwyr wrth lunio eu profiad prifysgol. Pan fydd myfyrwyr yn gallu rhannu eu hadborth a gweld newidiadau sy’n deillio o’u hadborth, maent yn ymwneud yn fwy â’u profiad dysgu eu hunain, yn ogystal â bywyd ehangach y brifysgol.
Pan fydd staff a myfyrwyr yn gweithio gyda’i gilydd, gan ganolbwyntio ar gyflawni nodau penodol a rhannu diweddariadau yn rheolaidd, mae myfyrwyr yn ymgysylltu mwy, ac yn fwy tebygol o fwynhau eu profiad prifysgol.
Gosod yr olygfa ar gyfer ymgysylltu â myfyrwyr
Yn gyntaf, mae angen i’ch myfyrwyr wybod bod lleoedd lle gallant rannu eu hadborth, fel Arolygon Myfyrwyr a Gwerthuso Modiwlau. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn y flwyddyn academaidd 20/21: dylai myfyrwyr gael cyfle i fynegi eu meddyliau – ac unrhyw deimladau negyddol – a ysgogwyd gan y cyd-destun dysgu newidiol sy’n deillio o’r pandemig COVID-19.
Yn ail, dylech egluro sut mae ymgysylltu â myfyrwyr yn gweithio yng Nghaerdydd. Er mwyn cefnogi llais myfyrwyr effeithiol, bydd angen gwybodaeth gyd-destunol ar fyfyrwyr ynghylch beth yw ymgysylltiad myfyrwyr. Amlinellwch sut mae graddfa Likert yn gweithio, a’r gwahanol lefelau o adborth yn y sefydliad, yn gynnar yn y tymor.
Mae egluro’r gwahaniaeth rhwng gwerthuso modiwlau ac arolygon sefydliadol yn swnio’n syml, ond bydd yn rhoi fframwaith i fyfyrwyr ddeall sut y gweithredir ar eu hadborth, a bydd yn eu helpu i sicrhau bod yr adborth a roddant mewn gwahanol arolygon yn mynd i’r tîm sydd yn y sefyllfa orau i weithredu arno.
Ymgysylltu â myfyrwyr yn eu dysgu
Bydd deall yr hyn y mae eich myfyrwyr yn ei werthfawrogi yn eich helpu i’w cynnwys yn yr ystafell ddosbarth – yn enwedig ystafell ddosbarth ar-lein, lle mae gwahanol heriau i adeiladu perthnasoedd a hunaniaeth carfan.
Mae myfyrwyr yn gwerthfawrogi gallu dod i adnabod ei gilydd – a’u staff addysgu! – yn ystod sesiynau. Gallwch gynnwys eich myfyrwyr mewn amgylchedd dysgu cymdeithasol gwych trwy:
- Gwneud amser ar gyfer sgwrs anffurfiol cyn i’r sesiwn gychwyn.
- Rhoi diweddariadau llafar i’ch myfyrwyr o unrhyw newyddion cyn i chi ddechrau dysgu.
- Defnyddio torwyr iâ i ddod i adnabod eich myfyrwyr.
- Cynnwys trafodaethau am ddeunydd cwrs mewn sesiynau dosbarth.
Mae gan y Tîm Ymgysylltu â Myfyrwyr gyfoeth o ddeunyddiau hyfforddi ac adnoddau ar gael i’ch cefnogi chi yn y gwaith hwn. Am gefnogaeth bellach, cysylltwch â studentengagement@caerdydd.ac.uk a bydd y tîm yn hapus i helpu.