Skip to main content

Datblygu cwricwlwm

Proffil Tiwtor Personol: Emiliano Treré, Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant

10 Tachwedd 2020

Dywedwch ychydig amdanoch chi eich hun wrthym, pa ysgol rydych yn Uwch-diwtor Personol ynddi ac ers faint rydych wedi bod yn cynnig Tiwtora Personol?
Fy enw i yw Emiliano Treré, ymunais â’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC) yn 2017 ac rwyf wedi bod yn rhan o sicrhau ansawdd Uwch -diwtoriaid Personol ers mis Medi 2019. Yn ystod fy mlynyddoedd fel Athro Cyswllt yn Mecsico bues i hefyd yn Uwch-diwtor yn ystod y tair blynedd ac mae gen i brofiad helaeth o gydwethio â myfyrwyr mewn gwahanol ieithoedd ac o wahanol gefndiroedd.

Beth sydd wedi bod y peth mwyaf buddiol am fod yn Diwtor Personol hyd yn hyn?
Fy enw i yw Emiliano Treré, ymunais â’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC) yn 2017 ac rwyf wedi bod yn rhan o sicrhau ansawdd Uwch -diwtoriaid Personol ers mis Medi 2019. Yn ystod fy mlynyddoedd fel Athro Cyswllt yn Mecsico bues i hefyd yn Uwch-diwtor yn ystod y tair blynedd ac mae gen i brofiad helaeth o gydwethio â myfyrwyr mewn gwahanol ieithoedd ac o wahanol gefndiroedd.

Beth ydych chi wedi sylweddoli fwyaf arno o ran yr effaith y gall Tiwtor Personol ei chael ar fyfyrwyr?
Dysgu sut i ddefnyddio fy mhrofiad fel ysgolhaig rhyngwladol a myfyriwr er mwyn eu helpu gyda’u taith academaidd.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i gydweithwyr sy’n dechrau ym maes Tiwtora Personol?
Byddwch yn onest, yn barchus, yn glir ac yn hyblyg bob amser.

Pa 5 peth y byddech yn eu hargymell fel arferion da ar gyfer Tiwtoriaid Personol? 
1) ewch ati i adnabod eich myfyrwyr a gwybod pa adnoddau sydd yn eich Ysgol
2) dysgwch ba gymorth y gallwch ac y dylech ei ddarparu (a’ch cyfyngiadau)
3) dysgwch bwy i gysylltu ag ef i roi’r help a’r cymorth na allwch chi ei roi
4) dysgwch o brofiad ac o’ch camgymeriadau eich hun ac o gamgymeriadau eich cydweithwyr
5) siaradwch â thiwtoriaid personol eraill a dysgwch ganddynt

Mae’r Adnodd Tiwtora Personol Ar-lein nawr yn fyw ac ar gael i’r holl Diwtoriaid Personol, Uwch Diwtoriaid Personol a’r rhai sy’n helpu i gefnogi’r System Tiwtora Personol. Cadwch lygad ar flog CESI am fwy o wybodaeth.

Mae’r pecyn yn cynnwys: 

• Adnodd Tiwtora Personol Ar-lein wedi’i ddiweddaru 
• Cronfa o Astudiaethau Achos sy’n Seiliedig ar Sefyllfaoedd
• Cyfres Bodlediad Tiwtora Personol o Bell
• Tiwtora Personol o Bell- adnoddau fideo gyda thema