Skip to main content

Cymrodoriaethau Addysg

Pontio i’r brifysgol: heriau (ail)becynnu gwybodaeth

20 Medi 2023
Student studying

Croeso i themâu misol y Cymrodoriaethau Addysg.

Drwy gydol y flwyddyn academaidd byddwn yn cydnabod ac yn ymgysylltu ag ystod o themâu addysgu a dysgu trwy gydol ein postiadau blog, fideos awgrymiadau da, DPP a World Café’s. Byddwn yn myfyrio ar sut mae’r themâu yn effeithio ar ein harfer addysgu ac yn rhannu awgrymiadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar sut y gellir eu defnyddio i wella dysgu ac addysgu ymhellach.

I ddechrau’r flwyddyn, rydym yn edrych ar y thema Sefydlu a Phontio.

Mae’r post blog yma gan Dr Katy Jones, Uwch Ddarlithydd yn y Ganolfan Ymchwil ar Iaith a Chyfathrebu, sylfaenydd a Chyfarwyddwr y Ganolfan Datblygu Ysgrifennu yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ac Arweinydd Academaidd Rhaglen Uwch Gymrodoriaethau Prifysgol Caerdydd.

Gall y cyfnod pontio o addysg uwchradd i brifysgol fod yn heriol.

  • […] mae symud i’r brifysgol yn fuddsoddiad personol o ran yr hyn a gronnwyd yn ddiwylliannol felly trwy addysg ysgol a choleg. Mae hefyd yn ddadleoliad cymdeithasol sylweddol, a all fod yn fwy dwys fyth pan fo’r myfyriwr yn aeddfed, y cyntaf yn eu teulu i fynd i’r brifysgol, neu’n perthyn i grŵp ethnig sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ym mhoblogaeth y brifysgol (Briggs et al. 2012, p3-4)

Yn fwy penodol:

  • Yn gynyddol mae myfyrwyr, yn enwedig myfyrwyr o gefndiroedd sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ym maes AU yn draddodiadol felly, yn ei chael hi’n anodd newid o amgylchedd dysgu mwy rheoledig i astudio annibynnol (Kyndt et al. 2017; Thompson et al. 2021)​
  • Mae myfyrwyr yn teimlo’n nad ydynt wedi’u paratoi ar gyfer y disgwyliadau o ran cyfrifoldeb ac ymgysylltu rhagweithiol, ac arddulliau ysgrifennu anghyfarwydd, mathau o asesiadau, a safonau o ran marciau a graddau (Thompson et al. 2021)​
  • Mae myfyrwyr yn teimlo pwysau’n gynyddol felly i ‘lwyddo’ yn ystod eu hamser yn y brifysgol (ac wedi hynny); mae’n debygol mai pryderon ynghylch ffioedd, yr argyfwng costau byw, a dyled hirdymor sydd wrth wraidd hyn (Thompson et al. 2021)​

Yn amlwg, mae llawer o’r uchod y tu hwnt i’n rheolaeth ni’r addysgwyr, ond gadewch i ni ystyried y ddau bwynt cyntaf. Mae Baker (2018) yn trafod y gwahaniaethau rhwng Safon Uwch a phrifysgol o ran y ffordd y caiff gwybodaeth ei phecynnu a’i gwerthfawrogi, a’r effaith mae’r newid hwn yn ei chael ar ddarllen ac ysgrifennu wrth i fyfyrwyr bontio i’r brifysgol. Wrth astudio Safon Uwch, caiff gwybodaeth ei phecynnu’n daclus mewn gwerslyfr, sy’n ffynhonnell llawn gwybodaeth, yn hygyrch, hawdd ei rheoli a chyfleus gydag atebion ‘cywir’. Gofynnir i fyfyrwyr arddangos eu gwybodaeth, fel arfer drwy gyflawni darnau ysgrifenedig sy’n defnyddio strwythur a chynnwys y cafwyd cryn arweiniad yn eu cylch. O fewn cwta bedwar mis, mae myfyrwyr yn wynebu:

  • cynnydd yn nghyfaint, cymhlethdod a dyfnder gwybodaeth ​
  • cynnydd yn yr ystod o fathau o destunau
  • newidiadau o ran yr ysgrifennu ar yr ‘wyneb’ fel petai (e.e. lefel ffurfioldeb)
  • newidiadau mewn arferion ysgrifennu ‘arferol’ (e.e. gwneud nodiadau manwl ynghylch ffynonellau)
  • newidiadau wrth ymgysylltu â gwybodaeth (e.e. disgwyliadau ynghylch gwneud gwaith darllen ehangach a datblygu eu dealltwriaeth eu hunain, gan weithio gyda gwybodaeth eraill)

(Baker 2018)

Mae’r newid hwn, o wybodaeth sy’n cael ei chyflwyno i wybodaeth fel rhywbeth sydd angen ei chanfod a’i hadeiladu (Baker 2018, t405) yn rhywbeth y gallwn ni, addysgwyr prifysgol, fod yn ymwybodol ohono ac yn ei gefnogi’n weithredol o ran ein myfyrwyr.

Rydym yn asesu gwybodaeth ein myfyrwyr, yn bennaf, trwy ddulliau ysgrifenedig. Felly, mae ysgrifennu’n ‘dda’ yn dod yn ddangosydd ar gyfer ‘llwyddiant’ – yr hyn y mae Lillis a Scott (2007) yn ei alw’n ysgrifennu ‘llawer yn y fantol’. Felly dylai datblygu pob math o lythrennedd ymhlith ein myfyrwyr fod yn flaenoriaeth i ni o’r diwrnod cyntaf.

Sut? Dyma enghreifftiau:

  • annog siarad: mae siarad yn helpu i ddirnad/ail-becynnu gwybodaeth a threfnu/deall syniadau’n fwy trwyadl, felly cynigiwch gyfleoedd i fyfyrwyr siarad am ysgrifennu cyn iddynt ysgrifennu
  • dangoswch beth yw ‘da’: gan weithio gydag enghreifftiau, da a drwg. Cofiwch annog myfyrwyr i ‘sylwi’ ar arddull a chywair yr ysgrifennu yn eu maes pwnc/disgyblaeth
  • cael gwared ar yr ofn: gwnewch le yn y dosbarth ar gyfer ysgrifennu darnau ‘heb lawer yn y fantol’ sy’n fyr ac amrywiol
  • ceisiwch annog gweithgareddau ysgrifennu cymorth/adborth gan gymheiriaid
  • cofiwch gynnig cyfleoedd yn gynnar ar gyfer adborth ffurfiannol
  • cofiwch annog hunanfyfyrio ac ymateb myfyrwyr i adborth

Mae angen i ni symud oddi wrth y disgwyliad y dylai addysg cyn prifysgol baratoi myfyrwyr ar gyfer y gwaith meddwl ac ysgrifennu llawer mwy manwl sydd ei angen yn y brifysgol. Mae gofyn i ni ddeall lle mae myfyrwyr arni nawr, nid lle y ‘dylent’ fod, a thrwy hynny wneud y newid i fywyd prifysgol yn haws.

Cyfeirnodau

Baker, S. 2018. Shifts in the treatment of knowledge in academic reading and writing: Adding complexity to students’ transitions between A-levels and university in the UK.  Arts & Humanities in Higher Education, 17(4), 388–409.

Briggs, A.R.J., Clark, J. a Hall, I. 2012. Building bridges: understanding student transition to university. Quality in Higher Education, 18(1), 3–21.

Kyndt, E., Donche, V., Trigwell, K. a Lindblom-Ylanne, S. 2017. Higher Education Transitions: Theory and Research. Llundain: Routledge.

Lillis, T. a Scott, M. 2007. Defining academic literacies research: Issues of epistemology, ideology and strategy. Journal of Applied Linguistics, 4(1), 5–32.

Thompson, M., Pawson, C. ac Evans, B. 2021. Navigating entry into higher education: the transition to independent learning and living. Journal of Further and Higher Education, 45(10), 1398-1410.

Continuing Professional Development

Mae Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd (Academi DA), yn cynnal cyfleoedd Datblygiad Professiynol Parhaus (DPP) sy’n agored i’r holl staff, gan gynnwys y rhai sy’n cefnogi dysgu ar-lein a chyfunol.

Mae ein rhaglen DPP yn ategu ein Rhaglen Cymrodoriaethau Addysg Advance HE achrededig a’n hadnoddau ar-lein ac anghydamserol ac mae’r holl weithdai wedi’u mapio i Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU (UK PSF).

Thema’r mis nesaf fydd: Ymgysylltiad myfyrwyr