Skip to main content

Ein tîm

Cwrdd â Kat Harris, ein Swyddog Gweinyddol

13 Medi 2023
Person smiling in a field

Mae Kat Harris, Swyddog Gweinyddol yn y tîm Prosiectau a Gweithrediadau yn dweud wrthym am ei rôl a’r prosiectau y mae’n gweithio arnynt yn yr Academi Dysgu ac Addysgu.

Beth mae eich rôl yn ei gynnwys a pha mor hir ydych chi wedi bod yn y rôl?

Ymunais â’r Academi Dysgu ac Addysgu ym mis Ionawr eleni. Mae fy rôl yn rhan o dîm Prosiectau a Gweithrediadau yr Academi Dysgu ac Addysgu.

Ffocws fy rôl yw cefnogi’r cynllun Interniaethau Ar y Campws (y llinynnau Dysgu ac Addysgu ac Ymchwil) a’r Gronfa Arloesedd Addysg.

Pa brosiectau/tasgau ydych chi’n gweithio arnynt o fewn eich rôl ar hyn o bryd?

Mae Interniaethau Haf eleni yn dod i ben, ac ar hyn o bryd rwy’n cynllunio ar gyfer yr Arddangosfa Poster Interniaeth ar y Campws, a gynhelir ym mis Tachwedd, ac yn paratoi ar gyfer cylch galwadau 2024 yr Interniaethau Ar y Campws.

Dywedwch wrthym am hanes eich gyrfa

Cyn ymuno â Phrifysgol Caerdydd bûm yn gweithio mewn rolau amrywiol i Heddlu De Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Beth ydych chi’n ei wneud yn eich amser sbâr?

Yn fy amser hamdden fe welwch fi allan yn crwydro De Cymru gyda fy nau gi. Rwyf hefyd yn mwynhau rhoi cynnig ar fwytai newydd, ac rwyf bob amser yn chwilio am baned dda o goffi!

Dewch i gwrdd â mwy o aelodau o’r Academi Dysgu ac Addysgu

Dewch i gwrdd â Charis Francis, Swyddog Ymgysylltu Myfyrwyr yn y tîm Ymgysylltu â Myfyrwyr yn yr Academi Dysgu ac Addysgu sy’n dweud wrthym am ei rôl, ei phrosiectau a hanes ei gyrfa.