Popeth am y cwrs ar-lein ‘Ultra in Ultra’
26 Medi 2023Gan Sonia Maurer, Technolegydd Dysgu, Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd.
‘Ultra in Ultra’ yw cwrs Ultra ar-lein mewnol Prifysgol Caerdydd. Mae’n cwmpasu holl brif agweddau platfform Ultra tra hefyd yn eich galluogi i brofi Ultra o safbwynt myfyriwr.
Hanes ac ysbrydoliaeth
Yn hydref 2022, cymerodd rhai o staff Addysg Ddigidol Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd ran yng nghwrs ar-lein, ‘Designing for Digital Teaching and Learning’ Anthology/Blackboard Academy. Roedd hwn yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o blatfform Ultra fel ag y mae ar hyn o bryd ac roedd yn offeryn defnyddiol iawn i wella sgiliau Ultra’r tîm.
Roedd yn arbennig o ddiddorol i ni gael profiad o Ultra o safbwynt myfyriwr. Ond, a ninnau’n Dechnolegwyr Dysgu, fe wnaethon ni ei dynnu’n ddarnau wrth i ni weithio trwyddo serch hynny! Roedd gan fy nghydweithiwr, Nan Zhang, a minnau ddiddordeb arbennig yn y cwrs – a phan gododd y cwestiwn a ddylid ei gynnig i staff y Brifysgol yn gyffredinol, roedd hyn yn teimlo fel her i ni greu ein cwrs ein hunain yn lle hynny. Yn ein barn ni, roedden ni’n y gallu meddwl am rywbeth mwy cryno, wedi’i deilwra i’n cyfluniad penodol ym Mhrifysgol Caerdydd gan gynnwys systemau integredig megis Panopto a Turnitin. Cyfeirion ni at gwrs eithriadol Anthology ei hun, sef Rubric, i sicrhau bod ein cwrs yn adlewyrchu arfer gorau a argymhellir o ran cynllunio cyrsiau, rhyngweithio a chydweithio, asesu a chymorth i ddysgwyr.
Dyluniad y cwrs
Roedd cwrs Anthology, er ei fod yn gynhwysfawr, yn codi ofn ar rai o’n cydweithwyr prysur! Roedd yr amcangyfrif o 36 i 40 awr i’w gwblhau, a recordiad fideo hir ar gyfer aseiniad terfynol yn ei wneud yn dasg ddifrifol. Yn gyntaf, roedden ni wedi ystyried ei gwtogi, er mwyn cael y trosolwg mwyaf effeithlon posibl ar gyfer staff prysur.
Mae modd cwblhau’r naw uned o Ultra in Ultra mewn tua 10 awr. Maent wedi’u strwythuro’n glir ac wedi’u rhannu’n segmentau hawdd, felly gall cyfranogwyr ddewis p’un ai i weithio o’r dechrau i’r diwedd neu ddim ond i daro i mewn ac allan yn ôl yr angen. Mae testun, delweddau, fideos, ac adrannau ‘rhoi cynnig arni eich hun’ yn cefnogi dewisiadau dysgu lluosog. Gan fod Nan a minnau eisoes yn goruchwylio’r gwaith o gynhyrchu Ultra Essentials, sef y prif adnodd Ultra y byddai staff Prifysgol Caerdydd yn gyfarwydd ag ef, roedd yn naturiol i ni ymgorffori hyn yn sail i’r deunyddiau craidd. Felly, nodau deuol y cwrs yw dysgu hanfodion Ultra i gyfranogwyr, a sut i gael cymorth pellach pan fo angen.
Rhyngweithio a chydweithio
Un o gryfderau Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) megis Ultra yw’r potensial ar gyfer rhyngweithio anghydamserol wedi’i drefnu’n strategol i gefnogi’r dysgu. Roedden ni’n teimlo’n gryf y gallem wneud defnydd da o Ultra Discussions, ac mae Ultra in Ultra yn cynnwys chwe bwrdd trafod wedi’u hintegreiddio i’r llif gwaith. Mae’r rhai sy’n dewis cymryd rhan yn canfod ei fod yn dod â’r cwrs yn fyw ar unwaith:
Dyfyniad: ‘Wrth blymio i mewn i’r trafodaethau go iawn yn Ultra, rwyf wedi sylweddoli’n gyflym mai dyma’r un nodwedd sy’n bwysig i mi yn anad dim!’
Mae’r elfennau rhyngweithiol eraill yn fwy ar wahân, ond maen nhw’n darparu dulliau amgen eraill o ymgysylltu â’r cynnwys. Mae pob uned o waith yn cynnwys adran ‘Rhowch gynnig arni eich hun’, lle caiff cyfranogwyr eu hannog i roi tro ar dasgau ymarferol yn eu modiwlau neu eu hardaloedd profi eu hunain, tra bod y tri phrawf cwestiwn amlddewis yn cynnig cyfle mwy ffurfiol i atgyfnerthu’r dysgu, gan gwmpasu’r holl ddeunyddiau dysgu craidd.
Asesu
Roedden ni’r farn ei bod yn bwysig cynnwys elfen asesu yn Ultra in Ultra, yn rhannol i fodelu’r Llyfr Graddau a gwahanol fathau o asesu. Fodd bynnag, roedd angen i ni gael cydbwysedd hefyd, gan fod yr asesiad yn ddewisol ac wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Penderfynon ni bwysoli’r Llyfr Graddau gydag 80% ar gyfer yr holl brofion cwestiynau amlddewis ac 20% ar gyfer cyfraniadau i 5 o’r 6 trafodaeth. (Dangoswyd y gall hyd yn oed marc enwol ysgogi cyfranogiad mewn trafodaeth.) Gall cyfranogwyr ddewis sut i ddefnyddio’r cwestiynau amlddewis i gefnogi eu dysgu, gan fod hawl rhoi cynnig cynifer o weithiau â phosibl, a chaiff adborth manwl ei roi ar unwaith. Mae’r sgôr diweddaraf yn cyfrif tuag at y radd derfynol. Mae’r holl gyfranogwyr sy’n cyflawni gradd derfynol o 60% o leiaf yn cael eu hachredu ar CORE.
Cymorth i ddysgwyr a gwelliannau parhaus
Roedd yn brofiad diddorol i ddarparu cwrs mewn gwirionedd , yn hytrach na chefnogi rhywun arall i’w wneud! Amlygodd i ni bwysigrwydd datblygiad parhaus – a’r anhawster o gael pethau’n iawn y tro cyntaf! Rydyn ni wedi gwneud ymdrech i fodelu arfer dda o ran cael cyswllt â thiwtor a defnyddio templed y sefydliad, ac rydym yn croesawu unrhyw adborth ar y cwrs. Fe wnaeth adborth ein hysgogi yn arbennig i ychwanegu rhagor i fideo i’r deunyddiau dysgu.
Yn wreiddiol, fe wnaethon ni ddylunio’r naw Modiwl Dysgu i gyfranogwyr eu cwblhau ar eu cyflymder eu hunain. Fodd bynnag fe sylweddolon ni yn fuan fod y cyfranogwyr yn brin o fomentwm ar ôl cofrestru. Felly, fe benderfynon ni awgrymu amserlen 5 wythnos i helpu pobl i’w hymgorffori i’w bywyd gwaith prysur, a dechreuon ni anfon negeseuon ac ebyst wythnosol i ysgogi pobl a chefnogi hyn. Mae’r data yn dangos bod y negeseuon hyn mewn gwirionedd yn gwthio nifer o gyfranogwyr yn ôl i ymgysylltu bob wythnos.
Bydd Ultra in Ultra yn parhau i fod ar gael y tymor hwn i holl staff Prifysgol Caerdydd – cliciwch yma i gofrestru.