Myfyrio ar ein digwyddiad Chwefror yng nghyfres seminarau Cymrawd Addysgu Cenedlaethol (NTF) gydag Emmajane Milton
12 Mawrth 2024Gan Dr Nathan Roberts, Rheolwr Rhaglen y Cymrodoriaethau, LTA a’r Athro Emmajane Milton, Athro Ymarfer Addysgol
Cawson ni sesiwn drafod arall a oedd yn ysgogi’r meddwl ar 21 Chwefror 2024 yn nghyfres rhwydweithio a thrafod reolaidd Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol (NTF) y Brifysgol.
Yn sesiwn Emmajane o’r enw “Mae’n rhan o bopeth a wnawn …. sef cyfrifoldeb a braint” gofynnwyd cydweithwyr i ystyried eu teithiau addysgu eu hunain … rhywbeth sy’n taflu goleuni bob amser yw ymchwilio i’r cysylltiadau rhwng y profiadau a’r bobl sydd wedi ein hysbrydoli, yn ogystal â’r ffyrdd rydyn ni hwyrach yn ein haddysgu ein hunain. Yn y sesiwn soniwyd am ba mor bwysig yw cofio ein bod mewn sefyllfa i gael effaith fawr ar ddysgwyr a bod yn rhaid inni arfer hyn gyda chryn ofal a chyfrifoldeb. Yn y drafodaeth, soniwyd am y tarfu a gafwyd ar bob dysgwr yn ystod y blynyddoedd diwethaf a byddwn ni’n ymateb i ôl-effeithiau COVID am gryn amser i ddod … felly mae’n rhaid i’r ffordd ymlaen olygu ein bod yn modelu ffordd gynhwysol ac agored ar y cyd wrth ymwneud â’r myfyrwyr.
Gofynnon ni i Emmajane hefyd am ei myfyrdodau:
“Bydda i bob amser wrth fy modd yn cael y cyfle i weithio gyda chydweithwyr o ystod o ddisgyblaethau a chamau gyrfaol gan fy mod i bob amser yn teimlo wedyn fy mod i wedi dysgu llawer ac wedi meddwl am bethau o safbwyntiau gwahanol.”
Roedd y sawl a gymerodd ran yn gwerthfawrogi:
- Natur ryngweithiol y sesiwn drafod
- Y cyd-destun croesawgar yng nghwmni’r uwch-academyddion
- Cael gwrando ar bobl ar gamau mor wahanol yn eu gyrfa
- Cael yr amser a’r lle i feddwl a bod yn ddysgwr.
- Yr elfennau deniadol a rhyngweithiol a oedd wedi hwyluso’r trafodaethau byw ymhlith y sawl a gymerodd ran, gan wneud y sesiwn yn fwy hwyliog a deinamig.
- Cyfle i drafod pynciau hynod berthnasol i heriau addysgol cyfredol, yn enwedig wrth addasu i newidiadau yn sgil y pandemig
- Y ffocws ar addysgeg gynhwysol a gofalu am les a dysgu myfyrwyr
Ymunwch â ni yn ein seminar nesaf
Rydyn ni’n eich gwahodd yn gynnes i ymuno â ni yn seminar nesaf y Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol ar 20 Mawrth rhwng 13.00 a 15.00 ar gampws Cathays yn adeilad Morgannwg am -1.80.
Bydd ein digwyddiad nesaf “Rhagoriaeth mewn addysgu – ydyn ni hyd yn oed ar yr un cae chwarae?” gyda’r Athro James Field o’r Ysgol Deintyddiaeth ac enillydd y Gymrodoriaeth yn 2018.
Cadwch eich lle ar y System AD gan ddefnyddio’r côd: TEAC9691
Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld yno.