Mentrau iechyd meddwl a lles ym maes Addysg Uwch y DU
12 Mawrth 2024Mae Cristina Higuera Martín, Datblygwr Addysg yn y Gwasanaeth Datblygu Addysg yn amlinellu’r dulliau strategol cyfredol ac arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn sector addysg uwch y DU. Eu bwriad yw atal neu fynd i’r afael â materion lles meddwl, a hyrwyddo profiad dysgu ac addysgu iach a chadarnhaol i bawb.
Yn ei blog blaenorol, amlinellodd Cristina y llu o ffactorau sy’n llywio penderfyniadau ynghylch iechyd meddwl a lles ym mhrifysgolion y DU.
Beth sy’n cael ei ystyried yn arfer gorau?
Yng Nghynhadledd Iechyd Meddwl a Lles Advance HE (2023) amlygwyd dulliau prifysgol gyfan fel arferion gorau sy’n hyrwyddo lles trwy gyfrwng:
- Mannau ffisegol
- Presenoldeb ar-lein a
- Profiadau dysgu ac addysgu
Yn ddelfrydol, bydd yr hyn fydd ar gael yn y dyfodol yn adlewyrchu’r cydbwysedd gorau posibl rhwng ystyriaethau ymarferol ac addysgeg, a lles staff a myfyrwyr.
Mentrau cyfredol
Mae ystod eang o fentrau sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu defnyddio yn y sector ar hyn o bryd i gefnogi iechyd meddwl a lles myfyrwyr a staff. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Systemau hyfforddi, mentora a chyfeillio
- sesiynau hyfforddiant (Bordogna a Lundgren-Resenterra, 2023) i oruchwylwyr doethurol a meistr
- rhaglenni mentora hybrid i staff a myfyrwyr
- systemau cymorth cyfeillio myfyrwyr sy’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr gysylltu â myfyrwyr profiadol sy’n gallu rhoi cyngor a chymorth cyfeillgar
- Gwasanaeth galw heibio, cwnsela a chynghorwyr lles
- sesiynau galw heibio hybrid a arweinir gan fyfyrwyr yn seiliedig ar bynciau iechyd meddwl a lles
- gwasanaeth galw heibio a arweinir gan fyfyrwyr, gyda chymorth staff clinigol, sydd ar gael i unrhyw fyfyriwr sy’n teimlo’n unig, yn hiraethus, yn bryderus neu’n ofidus
- pedwar apwyntiad cwnsela rhad ac am ddim ar gyfer ymyriadau byr sy’n canolbwyntio ar atebion, a’r posibilrwydd o gael apwyntiadau ychwanegol drwy atgyfeiriad gan feddyg teulu
- cymorth cynghorydd lles sy’n hwyluso ffyrdd o feithrin sgiliau lles rhagweithiol. Maent hefyd yn cynnig cyngor a gwasanaeth cyfeirio at gynrychiolwyr staff a myfyrwyr, yn ogystal â rhoi cymorth arbenigol i fyfyrwyr sydd â hanes o drawma
- Datblygiad proffesiynol parhaus
- hyfforddiant yn seiliedig ar rôl ym maes goruchwyliaeth adferol (Walker a Jennison, 2023) i diwtoriaid personol a staff ar lawr gwlad
- hyfforddiant gorfodol mewn cymorth bugeiliol i diwtoriaid personol a goruchwylwyr doethurol (Hayball, 2023)
- Proffilio iechyd meddwl
Defnyddir hyn i atal yn ogystal â thargedu a theilwra ymyriadau. Mae data disgrifiadol am fyfyrwyr yn cael ei gasglu, ei glystyru trwy broses fodelu ystadegol, cyn cael ei ddehongli i lywio penderfyniadau.
- Offer hunangymorth
- Arolwg ynghylch gwahanol bynciau sy’n gysylltiedig â lles (Meyer a Sidiropoulou, 2023). Mae’r rheiny sy’n llenwi’r arolwg yn cael adborth, gwybodaeth am strategaethau hunanofal ac argymhellion personol yn seiliedig ar eu hymatebion.
- Deunyddiau ar-lein sy’n ystyried ymwybyddiaeth emosiynol, annog ymddygiad sy’n gofyn am help, cydnabod cyflawniadau a gwerthfawrogi cyfleoedd dysgu (Arferion Digidol Cadarnhaol, 2023).
- Mannau tawel ym myd natur
Mae wedi dod i’r amlwg bod mannau tawel ar gyfer ysgrifennu traethawd Meistr (Stevenson, 2020) yn gwrthsefyll straen a theimladau o unigedd ymhlith myfyrwyr wrth iddynt wneud eu traethodau hir.
- Cylchlythyrau a thaflenni wedi’u targedu
- Mae cylchlythyrau’n cael eu hanfon at fyfyrwyr ar adegau pwysig i’w cynorthwyo yn ystod cyfnodau o newid, fel mynd trwy asesiadau crynodol.
- Mae taflenni’n cael eu defnyddio i geisio lleihau niwed. Maent yn cynnwys canllawiau sy’n targedu defodau ymuno â chymdeithasau myfyrwyr.
- Pecynnau cymorth
- dulliau strategol o greu strategaeth iechyd meddwl yn y brifysgol yn unol â Stepchange (Universities UK, 2020)
- arferion digidol cadarnhaol mewn cysylltiad â hunaniaethau dysgwyr, cymunedau digidol ac addysgeg gadarnhaol (Arferion Digidol Cadarnhaol, 2023)
- Modiwlau lles
- modiwl ar-lein i fyfyrwyr, yn meithrin ffyrdd tosturiol o feddwl am eu hunain ac eraill (Meyer a Murgatroyd, 2023)
- modiwl ar-lein sy’n arwain myfyrwyr i gael gwybod am Arferion Digidol Cadarnhaol (2023) a’u deall yn well
Cymerwch ran
Rydym yn awyddus i glywed eich barn am yr effaith a’r ymdrech sydd eu hangen i roi’r mentrau iechyd meddwl a lles hyn ar waith ar lefel prifysgol gyfan.
Rhagor o wybodaeth
Advance HE (2023) Cynhadledd iechyd meddwl ym maes AU 2023: rhoi theori ar waith – creu dull sy’n gofalu am les myfyrwyr a staff ar lefel prifysgol gyfan | Advance HE (advance-he.ac.uk).
Bordogna, C. M., a Lundgren-Resenterra, M. (2023) Integreiddio a normaleiddio hyfforddiant fel arfer cyffredin mewn goruchwyliaeth ddoethurol. International Journal of Doctoral Studies, 18, 99-118. https://www.researchgate.net/deref/https%3A%2F%2Fdoi.org%2F10.28945%2F5096
Prifysgol Caerdydd (2020) Galluogi Llwyddiant: Strategaeth i Greu Prifysgol sy’n Iach yn Feddyliol
Hayball, J. (2023) Hyfforddiant cymorth bugeiliol i diwtoriaid personol a goruchwylwyr doethurol https://www.advance-he.ac.uk/Mental-Wellbeing-23
Meyer, D., a Murgatroyd, C. (2023) Y cwricwlwm arwain sy’n gwneud gwahaniaeth: Ymgorffori cymuned dan arweiniad myfyrwyr er mwyn creu gwir deimlad o berthyn, lles a dysgu’n llwyddiannus https://www.advance-he.ac.uk/Mental-Wellbeing-23
Meyer, D., a Sidiropoulou, MD. (2023) Deall eich teclyn hunangymorth lles – astudiaeth achos o ddull prifysgol gyfan o ymdrin â myfyrwyr a staff https://www.advance-he.ac.uk/Mental-Wellbeing-23
Prosiect Arferion Digidol Cadarnhaol (2023) – Arferion Digidol Cadarnhaol (weebly.com)
Stevenson, N. (2021) Datblygu lles academaidd trwy fannau tawel ar gyfer ysgrifennu.
Journal of Further and Higher Education, 45 (6), 717-729. https://doi.org/10.1080/0309877X.2020.1812549
Universities UK (2020) Stepchange: Prifysgolion sy’n iach yn feddyliol Stepchange: prifysgolion sy’n iach yn feddyliol (universitiesuk.ac.uk)
Walker, J., a Jenninson, L. (2023) A all goruchwyliaeth adferol gael effaith gadarnhaol ar les emosiynol darlithwyr sefydliadau addysg uwch ym maes gofal iechyd? https://www.advance-he.ac.uk/Mental-Wellbeing-23