Skip to main content

Addysg DdigidolHeb gategori

LinkedIn Learning – ein cyrsiau poblogaidd mis diwethaf

3 Tachwedd 2021

Ar ddechrau’r flwyddyn, dyma ni’n gwneud LinkedIn Learning ar gael yn rhad ac am ddim i ein holl staff a myfyrwyr trwy drwydded Prifysgol gyfan.

Ers hynny, mae nifer o ein staff a myfyrwyr wedi bod yn defnyddio’r platfform. Gallwch ddarllen mwy am brofiad un myfyriwr o ddefnyddio LinkedIn Learning drwy’r blog yma.

Bob wythnos trwy gydol mis Hydref, rydym wedi bod yn adolygu’r cyrsiau mwyaf poblogaidd ar y platfform gyda’n staff a’n myfyrwyr ac yn eu rhannu ar ein tudalennau mewnrwyd. Os nad ydych chi wedi gweld y rhain, rydym wedi coladu ein dewis i chi ei adolygu ar eich amser eich hun:


Cwrs 1: Help gydag Office 365

Casgliad o gyrsiau i’ch helpu os ydych chi’n anghyfarwydd â Microsoft Word, Excel a PowerPoint.

Cyrchwch y cyrsiau 


Cwrs 2: Siarad yn hyderus ac yn effeithiol

Yn y cwrs hwn, wedi’i addasu o’r podlediad How to Be Awesome at Your Job, dysgwch sut i adeiladu ar eich sgiliau cyflwyno i ennill mantais gystadleuol yn eich gyrfa.

Cyrchwch y cwrs hwn 


Cwrs 3: Meddwl yn feirniadol

Yn y cwrs hwn, mae’r hyfforddwr arweinyddiaeth a’r arbenigwr Mike Figliuolo yn amlinellu cyfres o dechnegau i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau meddwl beirniadol.

Cyrchwch y cwrs hwn


Actifadu eich cyfrif

Os nad ydych wedi actifadu eich cyfrif eto, gallwch wneud hynny trwy ddilyn y tri cham hyn:

  1. ewch i wefan LinkedIn Learning
  2. nodwch eich cyfeiriad e-bost neu dewiswch yr opsiwn ‘Mewngofnodi gyda chyfrif sefydliad’
  3. Mewngofnodwch hefo’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Prifysgol Caerdydd

Darllenwch fwy ar ein tudalen mewnrwyd