Skip to main content

Heb gategori

Dewisiadau yn lle arholiadau ysgrifenedig ffurfiol – prosiect ymchwil dan arweiniad myfyrwyr

25 Tachwedd 2021

Roedd pandemig COVID-19 yn golygu newid cyflym o arholiadau ffurfiol wedi’u hamseru ar y campws i asesiadau wedi’u hamseru yn y cartref.

Beth yw manteision cudd y newid sydyn hwn, a beth ddylai ein prifysgol ei ddysgu o’r newidiadau hyn i systemau arholiadau?

Arweiniodd y myfyrwyr Jodie Lewis, Anna Moller a Louise Stack brosiect ymchwil Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd (Academi DA) yn ymchwilio i effeithiau cyflwyno arholiadau i’w sefyll gartref oherwydd COVID-19. Gan ddefnyddio cyfuniad o dros 200 o arolygon, 10 grŵp ffocws, cyfweliadau unigol a dadansoddi data mewnol yng Ngholeg y Dyniaethau, gweithiodd y prosiect gyda staff a myfyrwyr i ystyried effaith gymharol arholiadau i’w sefyll gartref ar eu llwyth gwaith, datblygu sgiliau, lles a straen. Roeddent hefyd yn edrych ar yr effaith ar fyfyrwyr a staff ag anableddau a chyfrifoldebau gofalu.

Prif ganfyddiadau

Dangosodd ymchwil y prosiect yn glir fod arholiadau i’w sefyll gartref yn llai o straen i staff a myfyrwyr: Profodd 81% o fyfyrwyr ar draws Coleg y Dyniaethau lai o straen a phryder gydag arholiadau i’w sefyll gartref. Nododd staff gweinyddol hefyd lwyth gwaith ysgafnach na’r arholiadau ffurfiol wedi’u hamseru. Dywedodd 83% o fyfyrwyr y Dyniaethau fod arholiadau i’w sefyll gartref yn cefnogi eu datblygiad sgiliau yn well nag arholiadau ffurfiol.

Canfu’r prosiect hefyd fod y newid i arholiadau i’w sefyll gartref, gyda chyfnodau amser rhwng 24 awr a 5 diwrnod, yn llawer mwy cynhwysol a hygyrch i fyfyrwyr ag ystod eang o anableddau. Roedd 71% o fyfyrwyr yn ei chael yn haws creu atebion yn electronig, a dywedodd myfyrwyr ag anableddau niwrolegol a chorfforol fod arholiadau i’w sefyll gartref yn caniatáu iddynt weithio mewn amodau hygyrch, cefnogol, ac i ddefnyddio technegau canolbwyntio a seibiannau gorffwys nad oeddent yn bosibl mewn amodau arholiad ffurfiol. Roedd y newid hefyd yn helpu myfyrwyr sydd â gwaith â thâl a/neu gyfrifoldebau gofalu.

Mae mwyafrif sylweddol o’r staff (69%) a myfyrwyr (87%) ar draws y Dyniaethau am barhau i sefyll arholiadau yn y cartref. Cytunodd staff a myfyrwyr fod y pandemig wedi rhoi cyfle i ni ailystyried strategaethau asesu a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau. Cawsom ystod eang o syniadau yn yr ymatebion i adeiladu ar lwyddiant yr arholiadau i’w sefyll gartref. Roedd y rhain yn cynnwys mathau creadigol eraill o asesu; datblygu cysondeb mewn canllawiau ar draws y brifysgol ar gyfer arholiadau i’w sefyll gartref; ac ehangu a rhoi gwybod am y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr yn ystod tymor yr arholiadau.

Ysgrifennwyd gan Nicki Kindersley