Gwasanaeth Cynnyrch Cyfryngau’r Academi Dysgu ac Addysgu: Sut mae’n gweithio?
30 Ionawr 2023
Beth yw Gwasanaeth Cynnyrch Cyfryngau’r Academi Dysgu ac Addysgu?
Ac yntau wedi’i sefydlu ym mis Awst 2022, mae Gwasanaeth Cynnyrch Cyfryngau’r Academi Dysgu ac Addysgu yn gweithio ar y cyd ag ysgolion/academyddion i greu cynnwys aml-gyfrwng pwrpasol sy’n canolbwyntio ar ddysgu ac addysgu.
Nod y gwasanaeth yw rhoi cyngor arbenigol am bob agwedd ar gynnyrch y cyfryngau a grymuso staff i greu eu cynnwys eu hunain pryd bynnag y bo modd. Hyd yn oed os nad yw eich syniad neu’ch prosiect yn rhan o’n cylch gwaith, efallai y byddwn ni’n gallu rhoi’r cyfarpar, y lle neu’r hyfforddiant i’ch helpu i greu cynnwys o safon.
Enghraifft o hyn fyddai darparu hyfforddiant ymarferol ichi wrth ddefnyddio ein stiwdios hunanwasanaeth recordio Panopto.
I bwy mae’r gwasanaeth?
Anelir y gwasanaeth at aelodau o staff sydd naill ai eisiau arweiniad ar wella’u cynnwys amlgyfrwng, neu’r rheini sydd â syniadau ar gyfer cynnwys na fydden nhw fel arall yn gallu ei greu ar eu pennau eu hunain.
Ynglŷn â phrofiad Lewis o’r Gwasanaeth Cynnyrch Cyfryngau
Drwy fod yn rhan o Wasanaeth Cynnyrch Cyfryngau’r Academi Dysgu ac Addysgu, dw i wedi gallu ymdrochi yn niwylliant anhygoel dysgu ac addysgu Prifysgol Caerdydd. Mae’r amryw o brosiectau a’r heriau rwy’n dod i gysylltiad â nhw drwy’r gwasanaeth hwn wedi fy ngrymuso i arfer fy sgiliau datrys problemau a hwyluso yn ogystal â fy sgiliau creadigol a rhwydweithio, a hynny’n barhaus.
Yn y cyfnod byr rwy wedi bod yn gweithio gyda’r gwasanaeth rwy wedi cael y pleser o rwydweithio a chydweithio gyda thimau amrywiol megis Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth (CPLS), yr Ysgol Meddygaeth (Ysbyty Rhithwir Cymru), Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, yr Ysgol Archaeoleg, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP), Rhwydwaith Ymchwil y Brifysgol a llawer mwy.
Yr agwedd ar y gwasanaeth rwy’n ei mwynhau fwyaf yw cynorthwyo aelodau o’r staff i ail-ddylunio neu ddiweddaru cynnwys dyddiedig neu o safon wael. Yn aml, mae prosiectau amlgyfrwng yn cael eu cwblhau ar sail ‘gwnewch y jobyn chi eich hun’, sef mae’r syniadau’n anhygoel ond maen nhw’n cael eu rhoi ar waith yn wael. Rwy’n mwynhau ail-beiriannu a chynorthwyo pobl i droi’r syniadau hyn yn allbynnau o safon.
Dywedwch wrthym am rai o’ch prosiectau eraill
Un prosiect rwy’n gweithio arno ar hyn o bryd yw cynorthwyo’r Ganolfan Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol i ddiweddaru ei harholiadau clywedol ar gyfer ei Chynllun Achredu Cynrychiolwyr yr Heddlu. Roedd y prosiect hwn yn golygu recordio sawl senario wedi’u sgriptio gydag actorion llais er mwyn eu defnyddio mewn arholiadau ar-lein o dan oruchwyliaeth. Dim ond un yw hwn o blith nifer o brosiectau rydyn ni wedi gallu eu cynorthwyo.
Os hoffech chi gael cymorth i greu cynnwys cyfryngau at ddibenion dysgu ac addysgu, edrychwch ar ein tudalen ar y fewnrwyd neu cysylltwch â ni drwy anfon cais cynnyrch cyfryngau.
Os hoffech chi gael cyngor a chymorth cyffredinol ynghylch creu eich cynnwys eich hun ar gyfer y cyfryngau, neu os hoffech chi ystyried eich opsiynau, cysylltwch â’r Ganolfan Cymorth Addysg Ddigidol: digedsupport@caerdydd.ac.uk.