Skip to main content

Cymrodoriaethau Addysg

Rhannu Ymarfer Addysgol yn Fyfyriol (RhYAF) yw ein ffordd newydd o gynnal ‘adolygiadau gan gymheiriaid’

30 Ionawr 2023
Cartwn o RSEP

Beth yw RhYAF?

Yn nhîm Cymrodoriaethau Addysg y Brifysgol, rydyn ni bob amser yn ceisio mireinio ein dealltwriaeth o’r hyn rydyn ni’n ei olygu wrth y gair myfyrio, ac yn aml byddwn ni’n edrych ar ddiffiniadau llenyddiaethau ac ymchwil i gefnogi ein hegwyddorion.

Gweithgarwch myfyriol yw Rhannu Ymarfer Addysgol yn Fyfyriol (RhYAF), sef ystyried ymarfer addysgu yn feddylgar, gyda’r bwriad o ddatblygu a gwella profiadau addysgu a dysgu. Mae adolygu gan gymheiriaid yn debyg o ran natur i RhYAF a gellir ei deall yn broses gwella safon sy’n cefnogi ac yn gwella safon yr addysgu drwy rannu arferion da ymhlith y staff academaidd (Advance HE, 2017).

Mae myfyrio yn rhan annatod o’r broses hon a ddeellir yn ‘broses fwriadol a chydwybodol sy’n defnyddio galluoedd gwybyddol, emosiynol a somatig unigolyn i fyfyrio ynghylch gweithredoedd y gorffennol, y presennol neu’r dyfodol yn feddylgar er mwyn dysgu a deall yn well ac efallai wella’r gweithredoedd hyn'(Harvey, Coulson a McMaugh, 2016 a ddyfynnwyd yn Advance HE 2020 t12).

Mae ymarfer myfyriol yn canolbwyntio’n ddwfn ar y broses ddilechdidol sy’n cyfuno’r meddwl â gweithredu, ac yn aml mae’n gysylltiedig â ‘deialog o feddwl a gwneud y deuaf yn fwy medrus yn sgîl eu hymarfer’ (Schon 1987, t31, a ddyfynnwyd yn Osterman 1990 t134).  Gofyniad proffesiynol yw ymarfer myfyriol sy’n gofyn am hunanymwybyddiaeth a gallu’r unigolyn i gydweithio a thrawsnewid ei hun. I fod yn effeithiol, mae’r dull hwn yn canolbwyntio ar fyfyrio ar ymarfer a cholegoldeb y staff, yn hytrach na chanolbwyntio’n unig ar arsylwi neu fod yn ymarfer ticio blychau mecanyddol (Advance HE, 2017). Ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ein bod yn canolbwyntio ar RhYAF yn fath o ffordd ffurfiannol drwy gymheiriaid o wella sesiynau addysgu, rydyn ni’n eich annog i fanteisio ar y cyfle i’w ddefnyddio er mwyn datblygu eich ymarfer addysgu mewn ffordd sy’n gynhwysol ac yn gefnogol.

Sut mae RhYAF yn wahanol i ‘Adolygiad gan Gymheiriaid’?

Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydyn ni wedi dewis canolbwyntio ar RhYAF sydd ar sbectrwm mwy ffurfiannol adolygu a myfyrio o ran ymarfer. Fel yn achos adolygu gan gymheiriaid, mae’n cefnogi ac yn datod elfennau o wneud penderfyniadau addysgegol a’r effaith ar ddysgu myfyrwyr. Fodd bynnag, nid yw’r RhYAF yn canolbwyntio ar feirniadu’r addysgu a wneir, ond yn hytrach ar rannu’r elfennau cadarnhaol a greodd y profiad addysgu a dysgu. Gweithgarwch datblygiadol a wneir ar y cyd rhwng gweithwyr proffesiynol yw RhYAF.

Pam mae RhYAF yn bwysig?

  • A ninnau’n weithwyr proffesiynol ac yn addysgwyr, mae’n datblygu’r broses ddysgu yn ogystal â gwella profiad dysgu’r myfyrwyr
  • mae’n rhoi cyfleoedd i ddeall yn well y penderfyniadau addysgegol y bydd pobl eraill yn eu gwneud a myfyrio ar ein harferion ein hunain
  • mae’n datblygu arferion dysgu cynaliadwy drwy ein helpu i fyfyrio ar ein penderfyniadau, gan greu’r sylfaen ar gyfer gwneud penderfyniadau yn y dyfodol
  • Mae RhYAF yn ofyniad ar gyfer portffolios Cymrodoriaeth Addysg ar bob lefel

Sut mae RhYAF yn gweithio?

Cam 1: Mae partneriaid yr RhYAF yn cyfarfod i drafod adnodd neu ddeunydd a ddewiswyd gan bawb yng ngrŵp yr RSEP. Bydd hyn yn rhywbeth y bydd pob un ohonoch chi wedi’i greu i gefnogi sesiynau dysgu megis PowerPoint, darlith wedi’i recordio, asesiad ac ati. Chi yn eich tro fydd yr adolygydd a’r adolygai.

Cam 2: Pan mai chi yw’r ‘adolygydd’, mae hyn yn golygu adolygu adnodd/deunydd eich partner RhYAF drwy ymdrin ag ef a thrafod ei oblygiadau addysgegol gyda’ch partner RhYAF cyn ysgrifennu am eich myfyrdodau ar yr hyn y mae hyn yn ei olygu i’ch ymarfer eich hun, h.y., sut y gall eich ymarfer eich hun wella o gymryd rhan yn yr ymarfer hwn? Pan mai chi yw’r ‘adolygai’, mae hyn yn cynnwys ysgrifennu am yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu yn sgîl yr adborth gan eich partneriaid, a sut y bydd hyn yn effeithio ar eich ymarfer yn y dyfodol. Yn y Cymrodoriaethau Addysg, bydd ffurflen sy’n cefnogi ac yn arwain y drafodaeth yn cefnogi’r broses hon.

Beth galla i ei ddefnyddio’n ysgogiad yn y dasg RhYAF?

  • deunyddiau dysgu (e.e. sleidiau PowerPoint, gweithgaredd dysgu, cynllun ar gyfer y sesiynau)
  • arsylwi sesiynau addysgu neu gefnogi dysgu ar-lein neu wyneb yn wyneb
  • asesiad rydych chi wedi’i lunio
  • asesiad rydych chi wedi’i farcio/darparu adborth ar ei gyfer
  • recordiad fideo o sesiwn/gweithdy/darlith
  • adnodd dysgu drafft rydych chi’n ei ddatblygu/meddwl am ei ddefnyddio

Awgrymiadau Defnyddiol

  • meddyliwch yn ofalus am ba agwedd ar eich ymarfer yr hoffech chi iddi fod yn ganolbwynt y myfyrio a beth fyddai o fudd i chi a’ch myfyrwyr
  • siaradwch â’ch mentor am eich syniadau ar gyfer yr RhYAF i’ch helpu i benderfynu ar y ffocws
  • cysylltu/cyfathrebu â’ch partneriaid (dau neu dri o bobl) yn gynnar i roi digon o amser i chi gwblhau’r RhYAF er mwyn cyflwyno’ch portffolio.

I gael rhagor o wybodaeth am RhYAF, cysylltwch â educationfellowships@caerdydd.ac.uk a byddwn ni’n gwneud ein gorau i’ch cefnogi.

Cyfeiriadau

Peer review of teaching: A rapid appraisal | Advance HE (advance-he.ac.uk) 

Osterman, K. F. (1990). Reflective Practice: A New Agenda for Education. Education and Urban Society, 22(2), 133–152. https://doi.org/10.1177/0013124590022002002 

AdvanceHE (2020) Reflection for learning: a scholarly practice guide for educators. Available from: https://www.advance-he.ac.uk/knowledge-hub/reflection-learning-scholarly-practice-guide-educators
Schön, DA (1987). Educating the reflective practitioner. San Francisco: Jossey-Bass