Skip to main content

Cymrodoriaethau Addysg

Dysgwch am Launchpad

10 Ionawr 2023
Rocket launch

Gan Dr Alyson Lewis, Ddarlithydd mewn Datblygu Addysg.

Beth yw eich rôl yn y brifysgol?

Yn ddiweddar, ymunais â Thîm y Gymrodoriaeth o fewn yr Academi Dysgu ac Addysgu (Academi DacA) felly rwy’n newydd iawn i’r brifysgol. Rwy’n gyffrous i fod yn gweithio yn yr Academi DacA gan ei fod yn cynnig gwasanaeth rhagorol ar draws y brifysgol er mwyn rhoi profiadau dysgu ac addysgu o ansawdd uchel i’r myfyrwyr. Mae’n wych bod yn rhan o Dîm y Gymrodoriaeth, i gyflwyno’r rhaglenni achrededig Advance HE a gweithio gyda chydweithwyr i ddatblygu arferion dysgu ac addysgu effeithiol.

Beth yw’r Launchpad?

Mae’r gweithdy Launchpad yn weithdy datblygiad proffesiynol pwrpasol sydd wedi’i gynllunio i roi cymorth i diwtoriaid Ymchwil Ôl-raddedig, arddangoswyr a’r rhai sy’n newydd i addysgu mewn Addysg Uwch i ddylunio, cyflawni a myfyrio ar addysgu a chefnogi dysgu. Mae’r gweithdy yn cynnig cyflwyniad defnyddiol i arferion addysgu effeithiol gyda’r themâu allweddol canlynol:

  • arferion cynhwysol
  • dylunio a chynllunio sesiynau addysgu
  • asesiad ac adborth effeithiol

Dyddiadau Launchpad

  • Dydd Mawrth 10 Ionawr 2023 (gwyneb-i-wyneb) 
  • Dydd Gwener 27 Ionawr 2023 (arlein)  

Beth yw eich cysylltiad â’r Launchpad?

Yn ddiweddar rydw i wedi cymryd yr awenau i fod yn arweinydd Launchpad yn lle Dr Michael Willett. Mae’r rôl yn cynnwys cynllunio a pharatoi deunyddiau ar gyfer y gweithdy a chysylltu â chydweithwyr eraill yn yr Academi Dysgu ac Addysgu, megis y tîm Addysg Ddigidol sy’n cyflwyno segment byr ar ddysgu cyfunol yn y gweithdy.

Rhan bwysig arall o fy rôl yw datblygu cymuned ymarfer ar gyfer cyfranogwyr Launchpad, er mwyn iddynt deimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu taith o ddysgu ac addysgu cynhwysol, llwyddiannus. Rwyf am i gyfranogwyr deimlo cysylltiad ag eraill ar draws y brifysgol a chael lle i fynd i ofyn cwestiynau, datblygu a rhannu eu harferion. Er mwyn helpu i gyflawni’r cysylltiad hwn, rydw i wedi datblygu tudalen Microsoft Teams gydag OneNote wedi’i hymgorffori sydd â ‘man cydweithio’ cyffrous lle gallwn rannu adnoddau a digwyddiadau diddorol ac mae ‘gofod personol’ yno hefyd ar gyfer myfyrio.

Awgrymiadau defnyddiol Launchpad

  1. Mwynhewch fod gyda’ch myfyrwyr a chreu profiadau dysgu cadarnhaol.
  2. I gael cefnogaeth barhaus, ymgysylltwch â’r dudalen Teams bwrpasol a cheisiwch gadw mewn cysylltiad â chyfranogwyr eraill Launchpad.
  3. Byddwch yn ddewr ac amrywio’ch gweithgareddau dysgu ac addysgu.