“Dyna’r cyfan am y tro!” Neu oes rhagor? Myfyrdodau ar ddiwedd ‘Dysgu Addysgu’
21 Gorffennaf 2023Mae Michael Willett, Uwch Ddarlithydd ac arweinydd y Rhaglen Cymrodoriaeth Gysylltiol a achredwyd gan AdvanceHE a Chynllun Datblygu Cymrodyr yn myfyrio ar ddiwedd ‘Dysgu i Addysgu’, gan ganolbwyntio ar y Rhaglen Cymrodoriaeth Gysylltiol.
Gyda’r Rhaglen Cymrodoriaeth Gyswllt ymhell i mewn i’w hail flwyddyn o fod ar waith yn llawn, a gweithdy ‘Launchpad’ llwyddiannus ar fin dod yn hyfforddiant gorfodol i bob tiwtor graddedig newydd ac arddangoswr graddedig o fis Medi 2023, byddai’n hawdd anghofio pa mor bell y mae’r Brifysgol wedi dod o ran rhoi cymorth i ôl-raddedigion sy’n ymwneud ag addysgu ac arddangos. Mae’n anodd credu, dair blynedd yn ôl, nad oedd darpariaeth ledled y Brifysgol i roi cymorth i’r rheiny a oedd ar gamau cynharaf eu gyrfaoedd academaiddi ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r cymwyseddau i lwyddo i greu profiadau deniadol, effeithiol a chynhwysol ar gyfer eu dysgwyr.
Hyd yn hyn, mae’r Rhaglen Cymrodoriaeth Gyswllt wedi cael ei chynnal 11 o weithiau, gan ddyfarnu statws Cymrodoriaeth Gyswllt yr Academi Addysg Uwch (AFHEA) i 116 o unigolion adeg ysgrifennu’r blog hwn. I barhau â’r trosiad o ba mor bell rydym wedi dod, bellach mae ei thaith wedi hen ddechrau. Ond yn gynharach eleni, daeth ei bartner hŷn, ‘Dysgu Addysgu’, i ben ei thaith ei hun, pan gwblhaodd y garfan olaf o ôl-raddedigion a gofrestrodd ar y cwrs eu portffolios a chael statws AFHEA. Roedd Dysgu Addysgu yn rhaglen arloesol mewn sawl ffordd. Wedi’i chreu yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yn 2008, o dan arweiniad Dr Heather Worthington, Dr Elizabeth Staddon a’r Athro Martin Coyle, hon oedd y ddarpariaeth gyntaf yn y Brifysgol â’r nod benodol o roi cymorth i ôl-raddedigion i ddatblygu eu sgiliau addysgu a darparu llwybr a oedd yn eu helpu i gyrraedd statws Cymrodoriaeth Gyswllt, a oedd ar y pryd yn gymharol newydd. Roedd yn cynnig cydnabyddiaeth ym mhob rhan o’r sector o ymrwymiad y rheiny a oedd yn cymryd rhan i gyflawni safonau proffesiynol a datblygu eu hymarfer addysgu. Er ei bod ychydig y tu ôl i gynigion tebyg ym Mhrifysgolion Bryste a Chaerwysg, roedd Dysgu Addysgu ymhell ar y blaen i lawer o ddarpariaethau eraill yn y sector. Roedd y rhaglen hefyd yn arloesol o ran ei dull asesu. Yn hytrach na gofyn am un ‘adroddiad myfyriol o ymarfer’ – sef yr hyn sy’n ofynnol o ran ceisiadau uniongyrchol i’r Academi Addysg Uwch (Advance HE bellach), mabwysiadodd Dysgu Addysgu ddull portffolio. Roedd hyn wedi’i ysbrydoli gan lawer o ddarpariaethau TAR, gan rannu’r asesiad yn ystod o weithgareddau. Roedd y rhain yn cynnwys adroddiadau myfyriol byr, adolygiadau gan gymheiriaid, cynlluniau sesiynau a dadansoddiadau o adborth myfyrwyr. Y syniad y tu ôl i hyn oedd ysgogi dull ‘ychydig ac yn aml’ o fyfyrio a fyddai’n arwain at ddatblygiadau gweladwy o ran ymarfer, gan osgoi’r demtasiwn i unigolion ysgrifennu un adroddiad o’u buddugoliaethau. Roedd hon yn rhaglen wedi’i seilio’n gadarn ar ymarfer, gan roi sylfaen i ddatblygu sgiliau a ffyrdd o weithioochr yn ochr âdatblygu gwybodaeth am gysyniadau damcaniaethol. Mae bob amser yn anodd cael y cydbwysedd hwn yn iawn mewn rhaglen fel hon (gweler y drafodaeth yn Allen, 2009; Resch, Schrittesser a Knapp, ar ddod).
Wrth i mi gymryd yr awenau ddiwedd 2014 daeth momentwm newydd. A minnau’n gynfyfyriwr y rhaglen, roeddwn yn awyddus i gynnwys dysgwyr yn fwy cyflawn yng ngwaith cynllunio a hwyluso’r cwrs, ac i ddatblygu’r gymuned ddysgu ymhellach trwy ddarparu cyfleoedd mwy sylweddol i ôl-raddedigion rannu rhai o’r arferion a’r dulliau addysgu diddorol — ac arloesol yn aml — yr oeddent yn eu defnyddio. I’r perwyl hwn, gan dynnu ar addysgeg megis gwaithHealey, Flint a Harrington (2014)ar ‘fyfyrwyr-yn-bartneriaid’, rhoddais ar waith gyfres o weithgareddau dysgu newydd ym mhob un o’r gweithdai, megis sesiwn fer ‘dulliau addysgu arloesol’, lle byddai’r rheiny a oedd wedi cwblhau’r cwrs ac ennill eu statws AFHEA yn dychwelyd i ennyn diddordeb dysgwyr mewn arddangosiadau rhyngweithiol 5 i 10 munud o hyd o ddulliau neu weithgareddau newydd yr oeddent wedi’u datblygu. Wrth i bob blwyddyn fynd heibio, enillodd y cwrs enw da iawn am ragoriaeth a boddhad dysgwyr, a daeth â diddordeb cynyddol gan ôl-raddedigion y tu hwnt i’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth. Ym mis Medi 2017, o dan gyfarwyddyd Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol (AHSS) Damian Walford Davies, roedd Dysgu Addysgu ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig ym mhob un o ddeg Ysgol yr AHSS. Roedd y seilwaith yn ei le ar gyfer darpariaeth ledled y Brifysgol, ac ym mlwyddyn academaidd 2019-20, dechreuwyd datblygu ein hystod newydd o raglenni Cymrodoriaethau.
Rwy’n falch o fod wedi bod yn arweinydd rhaglen Dysgu Addysgu o 2014 tan iddi ddod i ben eleni, a bod y tasglu mawr y tu ôl i ddatblygu’r rhaglenni Cymrodoriaethau wedi cydnabod cryfderau’r cwrs. Mae’r rhain yn cynnwys canolbwyntio’n benodol ar ymarfer, asesu portffolio, a datblygu cymuned ddysgu ystyrlon sy’n meithrin rhyngweithio â chyfoedion ac ymdeimlad gwirioneddol o berthyn. Mae’n galonogol bod y nodweddion hyn wedi cael eu trosglwyddo i ddatblygiad ei holynydd, a’u bod wedi cael eu derbyn yn gadarnhaol a’u dogfennu’n dda mewn adborth gan ddysgwyr. Rwy’n edrych yn ôl gyda hoffter ar y datblygiadau arloesol mae’r rheiny sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen wedi’u rhannu, ac rwyf wedi mwynhau defnyddio ac addasu llawer o’r rhain yn rhan o fy ymarfer fy hun. Dyma rai enghreifftiau arbennig o gofiadwy:
- ‘Yr olygfa o fy ffenestr’, math newydd o ymarfer ‘dod i adnabod pobl’ ar gyfer addysgu ar-lein a ddatblygwyd yn ystod pandemig COVID-19 – diolch i Anya Richards yn JOMEC
- Annog myfyrwyr i ddefnyddio hoff lun i fyfyrio ar brofiad penodol – diolch i Stephen Jennings yn SOCSI
- Defnyddio Skittles (mae losin eraill ar gael) i ddysgu myfyrwyr am fodelu ariannol – diolch i Evelina Kazakeviciute yn CARBS
- Cynnal dadl yn y ddosbarth yn arddull cynhadledd ffug COP i ddysgu sgiliau trafod a’r broses o ddod i benderfyniad mewn ffordd ddiplomyddol – diolch i Rosa Maryon yn LAWPL
- Defnyddio caneuon Beyoncé i helpu myfyrwyr i ddeall barddoniaeth – diolch Anna-Marie Young yn ENCAP
Yn anad dim efallai, fy mhwynt dysgu allweddol yw ei bod yn hanfodol ysbrydoli, annog a chefnogi arloesedd. Mae arloesedd yn bodoli ar sawl ffurf, a does dim angen iddo olygu arferion sy’n arwain neu’n newid y sector sydd heb eu gweld erioed o’r blaen. Yn hytrach, gall arloesedd olygu rhywbeth newydd i’n hymarfer ein hunain; rhywbeth nad ydym eto wedi’i roi ar waith yn ein cyd-destunau ein hunain. Ar yr amod bod rhesymeg glir a phrofiad dysgu’r myfyrwyr yn ganolog iddo, mae arloesi ein hymarfer yn hanfodol i’n llwyddiant yn addysgwyr.
Yn olaf, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i’r nifer fawr o bobl a roddodd o’u hamser i helpu â Dysgu Addysgu dros y blynyddoedd, yn benodol:
Anna Field | Angela Parry | Catherine Camps |
Clare Kell | Damian Walford Davies | Elizabeth Staddon |
Elizabeth (Bettie) Heatley | Emily Blewitt | Emmajane Milton |
Heather Worthington | Iain Mossman | Kara Johnson |
Martin Coyle | Martin Jephcote | Martin Kayman |
Nathan Roberts | Neil Harris | Robert Gossedge |
Sarah Robertson | Sarah Williamson | Stephen Rutherford |
Hoffwn hefyd ddiolch i’r 200 o ôl-raddedigion AHSS a gwblhaodd y rhaglen gyda mi ac a enillodd eu statws AFHEA rhwng 2014 a 2022. Rwy’n mawr obeithio eich bod wedi mwynhau’r cwrs a’i fod wedi bod yn ddefnyddiol. Mae eich adborth yn sicr yn awgrymu hyn.
Dyma edrych ymlaen at y 10 mlynedd nesaf o fyfyrio, arloesi a rhannu ymarfer da!
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r Rhaglen Cymrodoriaeth Gyswllt, mae dwy ffordd i gofrestru. Os ydych yn gallu cyrchu CoreHR, cewch ddod o hyd i’r rhaglen a chofrestru ar ei chyfer gan ddefnyddio’r cod TEAC9600. Os nad ydych yn gallu cyrchu CoreHR, anfonwch ebost at y Tîm Cymrodoriaethau yn uniongyrchol i gofrestru: educationfellowships@caerdydd.ac.uk
Ar hyn o bryd, mae’r rhaglen yn derbyn unigolion newydd mis Medi, mis Tachwedd a mis Ionawr bob blwyddyn academaidd. Nid oes ffi ymuno ar gyfer y Rhaglen Cymrodoriaeth Gyswllt, ac mae’n agored i bob tiwtor graddedig, arddangoswr graddedig a staff a gyflogir gan Brifysgol Caerdydd (gan gynnwys y rheiny ar gontractau anrhydeddus a chontractau cysylltiol, megis staff y GIG sy’n ymwneud ag addysgu’r Brifysgol).
Cyfeirnodau
Allen, J. (2009) “Valuing practice over theory: How beginning teachers re-orient their practice in the transition from the university to the workplace”. Teaching and Teacher Education, 25 (5): 647-654.
Healey, M, Flint, A, a Harrington, K. (2014) ‘Engagement through partnership: students as partners in learning and teaching in higher education’. York: Higher Education Academy. Ar gael ar-lein yma https://www.advance-he.ac.uk/knowledge-hub/engagement-through-partnership-students-partners-learning-and-teaching-higher, cyrchwyd 01.06.2023.
Resch, K., Schrittesser. I, a Knapp, M (ar ddod) “Overcoming the theory-practice divide in teacher education with the ‘Partner School Programme’. A conceptual mapping”. European Journal of Teacher Education. https://doi.org/10.1080/02619768.2022.2058928