Skip to main content

Ein tîm

Dyma Emmajane Milton, Partner Academaidd newydd

23 Tachwedd 2022
Person smiling

Rydw i wedi gweithio ym maes addysg ers dros 20 blynedd ac wedi mwynhau dal amrywiaeth eang o swyddi yn y byd academaidd, ym maes datblygu polisïau ac yn y sector ysgolion statudol. Yn ddiweddar, des i’n Athro (mewn Ymarfer Addysgol), a fi yw cadeirydd presennol Cymdeithas Datblygiad Proffesiynol Rhyngwladol Cymru (IPDA Cymru). Roeddwn i’n falch iawn o dderbyn Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol gan Advance-HE yn 2018. Yn ddiweddar, rydw i wedi sefydlu rhwydwaith cenedlaethol i gydweithwyr ar draws y DU ar gontractau sy’n canolbwyntio ar addysgu (gyda Kath Jones o Brifysgol Caerdydd a Hannah Cobb o Brifysgol Manceinion).

Mae fy niddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar ddysgu proffesiynol; ymarfer addysgol, ymholiadau athrawon, mabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar y dysgwr; mentora addysgol a recriwtio a chadw gweithwyr addysg proffesiynol.

Beth fydd eich rôl newydd yn Bartner Academaidd?

Yn fy rôl newydd yn Bartner Academaidd ar gyfer DPP Academaidd a Chymrodoriaethau, bydda i’n cefnogi’r gwaith o gyflawni amcanion strategol yn rhan o thema Athrawon sy’n Ysbrydoli’r Portffolio Addysg a Phrofiad Myfyrwyr.

Bydda i’n gweithio’n strategol ac ar y cyd ag ysgolion, colegau a thimau arbenigol eraill ar draws y Brifysgol er mwyn parhau i ddatblygu a hyrwyddo arferion dysgu ac addysgu rhagorol a gefnogir gan DPP academaidd o ansawdd uchel, gan gynnwys cyfleoedd i gydnabod a gwobrwyo.

Beth yw eich blaenoriaethau yn eich rôl newydd?

  • Gwrando ar anghenion y staff o ran sut y gallwn eu cefnogi orau i ddatblygu a mireinio eu hymarfer yn addysgwyr
  • Gwneud yn siŵr bod rhagoriaeth staff mewn ymarfer addysgol yn cael ei chydnabod, ei dathlu a’i gwobrwyo
  • Hyrwyddo a dadlau dros werth gweithgareddau/cyfleoedd dysgu proffesiynol o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar wella profiadau ein holl ddysgwyr ym Mhrifysgol Caerdydd

Beth wnaeth eich denu at y rôl hon?

Rydw i’n credu’n gryf bod addysgu’n anrhydedd ac yn fraint, ac y gall profiadau addysgol o ansawdd uchel fod yn bwerus o ran tanio dychymyg a chwilfrydedd myfyrwyr am y byd. Mae hefyd yn hanfodol ar gyfer datblygu ein priod feysydd, meithrin gwybodaeth a thorri tir newydd. Felly, ges i fy nghyffroi gan y cyfle i gyfrannu at y gwaith pwysig hwn ar draws y Brifysgol.

Ers faint rydych chi wedi bod yn gweithio yn y Brifysgol?

Ym mis Ionawr 2023, bydda i wedi bod yn gweithio yn y Brifysgol ers 10 mlynedd – yr amser hiraf y bydda i wedi gweithio yn unrhyw le!!

Rhagor am Emmajane Milton

Roeddwn i wedi treulio bron i 10 mlynedd yn gweithio ym myd y theatr yn rheolwr llwyfan llawrydd cyn ailhyfforddi i fod yn athrawes. Hyfforddais i yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a bûm yn gweithio/teithio yn y DU ac yn rhyngwladol. Rydw i’n fam i fy mab hyfryd (‘gwyn y gwêl’, yn amlwg) sy’n 12 oed. Rydw i’n dysgu ganddo’n barhaus, ac mae ein teulu’n mwynhau coginio, gwersylla gyda ffrindiau a theithio.