Skip to main content

Ymgysylltu a myfyrwyr

Fy Mhrofiad Dathlu Interniaethau Myfyrwyr ar y Campws – gan Claire Morgan

25 Tachwedd 2022
Student exhibition event

Fel Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, ro’n i’n falch iawn o weld cymaint o fyfyrwyr a chydweithwyr yn dod ynghyd i ddathlu’r myfyrwyr sydd wedi bod ar leoliad Interniaeth ar y Campws yr haf hwn.

Ar 2 Tachwedd, arddangoswyd dros 80 o bosteri arddangos ymchwil yn adeilad sbarc | spark, gyda mwy na 100 o fyfyrwyr yn mynychu, gyda’r goruchwylwyr o’u rhaglen a sawl aelod arall o staff.

Yma ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym nid yn unig yn gwerthfawrogi safbwynt y myfyrwyr, rydym hefyd wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â’n myfyrwyr. Rydym am rymuso ein myfyrwyr i wneud cyfraniadau dilys i’r ymchwil a’r ysgolheictod o safon uchel sy’n digwydd yma, a chael mewnbwn uniongyrchol i’n hymarfer dysgu ac addysgu.

Ers lansio ein cynllun lleoliadau gwreiddiol yn 2008, CUROP (Cynllun Cyfleoedd Ymchwil i Israddedigion Prifysgol Caerdydd) rydym wedi cefnogi dros 1200 o fyfyrwyr â lleoliadau haf yng Nghaerdydd, gan fuddsoddi dros £1.5m yn y profiad myfyrwyr

Yn dilyn seibiant o 2 flynedd yn ystod y pandemig, roeddem yn falch iawn o allu cynnal y cynllun yn llawn yr haf hwn. Rydym wedi buddsoddi dros £400,000 yn y cynllun lleoliadau i alluogi dros 170 o fyfyrwyr i gymryd rhan.

Mae gennym bedwar ffrwd i’r rhaglen, a phob un o’r rheiny yn rhoi profiad unigryw i’n myfyrwyr yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn y Brifysgol:

Rhoddwyd y newidiadau i’n ffordd o weithio ar waith yn ystod ein cynllun lleoliadau dros yr haf, gan roi cyfle i lawer o’n myfyrwyr ymgymryd â lleoliad o bell neu gyfunol. Gall hyn ond cryfhau eu profiad wrth chwilio am gyfleoedd ar ôl cwblhau eu hastudiaethau gyda ni.

Fe wnaethom hefyd gynnig cyfle i’n graddedigion sy’n gadael yn 2022 gwblhau lleoliad yr haf hwn gan eu bod wedi colli allan yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf.

Roedd y digwyddiad dathlu yn gyfle i staff a myfyrwyr fyfyrio ychydig mwy ar brofiadau ei gilydd a chael gwybod am y gwahanol brosiectau.

Diolch

Rwyf am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl oruchwylwyr ac ysgolion am yr amser y maent yn buddsoddi i gynnal lleoliad dros yr haf. Mae’n wirioneddol wych bod ein staff yn angerddol am brofiad myfyrwyr ac yn ceisio cyfleoedd i gynnal lleoliadau.

Rwyf hefyd am ddiolch i’n myfyrwyr am fanteisio ar y cyfleoedd hyn ac am fuddsoddi cymaint o’u hymdrech i wneud y prosiectau yn llwyddiant – roedd y digwyddiad dathlu yn gyfle i ddathlu’r hyn rydych chi wedi’i gyflawni.

Rwy’n dymuno pob lwc i chi eleni ac yn gobeithio y bydd y profiad a gawsoch yr haf hwn yn fuddiol i chi yn eich astudiaethau a thu hwnt.

Posteri arddangos a sgyrsiau sydyn

Fe welwch o’r arddangosfa yr ystod eang o brosiectau yn y cynllun hwn – popeth o ‘Nofio gwyllt, lles a dyfrluniau’ yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas i ‘Deunyddiau ar gyfer y dyfodol: ailgylchu a choncrit hunan-wella’ yn yr Ysgol Peirianneg a ‘Gwerthuso gweithgareddau ystafell ddosbarth drwy ddefnyddio Amgylcheddau Dysgu Realiti Rhithwir mewn Gwyddorau Cyfrifiadureg a Gofal Iechyd.

Os nad oeddech chi’n gallu dod i’r digwyddiad, gallwch weld holl bosteri arddangos y myfyrwyr a’r Sgyrsiau Sydyn.

Diolch yn fawr