Skip to main content

Datblygu cwricwlwm

Cymryd rhan yn ein gweithdai DPP Tiwtora Personol

25 Tachwedd 2022
Person tutoring another person

Dyma Ann McManus, Swyddog Dylunio’r Cwricwlwm yn yr Academi Dysgu ac Addysgu yn dweud wrthym am y gweithdai tiwtora personol y mae’n eu hwyluso: Tiwtora Personol 1 – hanfodion a Thiwtora Personol 2 – yr heriau.

Am beth mae’r gweithdai?

Mae dau weithdy yn cael eu cynnig, un yn cwmpasu hanfodion Tiwtora Personol – felly gosod ffiniau, sgiliau cyfathrebu, y rôl, atgyfeirio, a rhai achosion myfyrwyr syml.

Mae’r ail weithdy, Tiwtora Personol 2 – yr Heriau, yn cwmpasu achosion myfyrwyr mwy cymhleth, sut i ymateb os yw myfyriwr mewn gofid, a sut i atgyfeirio a chyfeirio, a beth i’w wneud mewn argyfwng.

Mae’r cyrsiau wedi bod yn boblogaidd ymysg rhai sy’n newydd i’r rôl, a Thiwtoriaid Personol mwy profiadol sydd am gael sesiwn loywi, yn enwedig yng nghyd-destun y pandemig a sut mae hyn wedi effeithio ar y mathau o achosion y gall myfyrwyr eu cyflwyno.

Mae’r gweithdai hyn ar agor i aelodau o staff Prifysgol Caerdydd yn unig.

Sut oedd y gweithdai diweddaraf?

Dwi wedi cynnig y sesiynau yma ym mis Medi cyn i’r semester ddechrau ac yna eto yng nghanol mis Tachwedd pan oedd pobl yn meithrin y berthynas rhwng y tiwtor a’r tiwtorai.

Mae’r gweithdai y semester hwn wedi bod yn graff, yn atyniadol ac yn bwrpasol, ac mae’n wych gweld academyddion o bob rhan o’r brifysgol yn cydweithio i rannu eu syniadau a’u profiadau.

Fel hwylusydd, dwi wir yn mwynhau bod yn rhan o’r rhain wrth iddyn nhw sbarduno cymaint o drafod a datrys problemau ymysg mynychwyr, does dim dwy sesiwn yr un fath erioed – ychydig fel Tiwtora Personol!

Er bod gennym astudiaethau achos i weithio drwyddynt, mae’r staff hefyd yn awyddus i rannu eu profiadau bywyd go iawn ac mae hwn yn bwynt dysgu allweddol i mi yn ogystal â mynychwyr eraill. Yn y modd hwn, mae’r gweithdai’n ymgymryd â rôl ddeuol o ddysgu gwybodaeth a sgiliau newydd, ond hefyd yn trafod profiadau ac ymatebion ymarferol.

Ar ddiwedd pob sesiwn, dwi’n teimlo mod i wedi dysgu rhywbeth newydd hefyd. Rydw i hefyd yn hynod ddiolchgar i gydweithwyr ym Maes Bywyd Myfyrwyr a’n Uwch Rwydwaith Tiwtoriaid Personol, sy’n plymio i helpu i egluro neu ddatrys rhai o’r ymholiadau a godwyd yn y trafodaethau.

Dywedwch rywbeth cyffrous am eich gweithdai

Gall y rhai sy’n mynychu ddisgwyl llawer o drafod, cyfleoedd i rannu syniadau a datrys problemau ar y cyd a strategaethau.

Datblygwyd yr astudiaethau achos gyda chydweithwyr o bob rhan o’r brifysgol gan gynnwys Bywyd Myfyrwyr, Cwnsela a Lles, a gyda Chyngor Sir Caerdydd. I fod yn onest, mae rhai o’r achosion yn eithaf cymhleth a rhai’n eithaf heriol i’w trafod, ond dyma sy’n helpu’r rhai sy’n mynychu i deimlo’n fwy parod.

Un o’r pethau brawychus am rôl Tiwtor Personol yw nad ydych chi wir yn gwybod beth fydd yn cerdded drwy’ch drws o ran ymholiad neu broblem, ac mae’r gweithdai hyn yn helpu staff i baratoi ar gyfer hynny drwy roi strategaethau ymarferol i chi, a dolenni i gefnogi ar draws y brifysgol.

Adborth gan y mynychwyr

Meddai Neil Turnball, o’r Ysgol Pensaernïaeth:

“Mae’r pâr hwn o sesiynau hyfforddi cyfeillgar a chefnogol (Hyfforddiant Tiwtor Personol 1 – Yr Hanfodion a Hyfforddiant Tiwtor Personol 2 – Yr Heriau) yn nodi normau’r Brifysgol yn glir ac wedi fy natblygu â gwybodaeth ymarferol a helpodd i leddfu rhywfaint o waith emosiynol y rôl hon. Argymhellir yn gryf”.

Dywedodd Dr Alice Lethbridge, o’r Ysgol Meddygaeth:

“Fel aelod staff newydd ym Mhrifysgol Caerdydd, ro’n i’n gweld yr hyfforddiant Tiwtor Personol yn ddefnyddiol iawn i fynd ati i gyflymu’r rhaglen. Roedd y cyfle i rwydweithio a thrafod syniadau gyda Thiwtorion Personol eraill yn amhrisiadwy. Roedd y siaradwr yn gynhwysol ac yn wybodus iawn. Diolch yn fawr iawn!”

Dywedodd Dr Guto Rhys o’r Ysgol Cemeg:

“Os ydych chi fel fi wedi cael ychydig iawn o brofiad o fod yn diwtor personol, byddwn yn ystyried y cwrs yma’n hanfodol. Heb yr hyfforddiant, rwy’n amau y gallwn fod wedi cyfeirio’n hyderus ac yn gyflym neu gyfeirio’r myfyrwyr at yr help sydd ei angen arnynt. Diolch i’r cwrs strwythuredig, gallaf nawr gynnal tiwtorialau’n effeithiol, yn broffesiynol gyda ffiniau wedi’u diffinio’n dda. Rwy’n falch iawn fy mod wedi dilyn y cwrs hwn.”

Ymunwch â’r gweithdai nesaf ym mis Ionawr

Bydd y gweithdai hyn yn cael eu cynnig eto ar ôl y Nadolig ac maen nhw’n agored i’r holl staff sydd â thiwtoreion neu a fydd â thiwtoreion cyn bo hir:

Mae presenoldeb yn y ddau yn fuddiol, ond mae croeso i chi ddod draw i un neu’r ddau, byddem wrth ein boddau’n cael eich mewnbwn.

Cofrestrwch eich lle.