Skip to main content

Cymrodoriaethau Addysg

Datblygu sesiynau addysgu a dysgu: deall addysgeg, andragogeg a hewtagogeg

28 Tachwedd 2022
portrait of person

Mae addysg yn llawn ystod o dermau haniaethol sydd yn aml yn cael eu defnyddio mewn trafodaethau, polisi’r llywodraeth a nodau sefydliadol. Ond, beth mewn gwirionedd mae’r termau hyn yn ei olygu a sut y gallai deall y rhain ychydig yn fwy gefnogi eich addysgu?

Gadewch inni ddechrau gydag addysgeg. Mae addysgeg yn ymwneud yn fras â byd theori, dulliau ac athroniaeth addysgu. Gellir deall golwg gyfoes ar addysgeg fel term sy’n egluro’r perthnasoedd a’r “rhyngweithio rhwng athrawon, myfyrwyr a’r amgylchedd dysgu a’r tasgau dysgu.” (Murphy, 2008. t35, a ddyfynnwyd yn Shah, 2021 t7). Mae addysgeg yn derm sy’n deillio o’r gair Groeg ‘paidagōgeō’ sy’n golygu ‘arwain y plentyn’ (Shah, 2021). Fodd bynnag, defnyddiwyd y term hwn yn ehangach yng ngwledydd Ewrop a daeth yn boblogaidd iawn yn ystod yr 20fed ganrif pan oedd mwy o bwyslais ar wyddoniaeth dysgu a beth mae hyn yn ei olygu i athrawon.  Mae addysgeg yn cefnogi prosesau dysgu sy’n deillio o ddau gategori eang sydd naill ai’n canolbwyntio ar y myfyriwr neu’n athro.

Mewn addysg uwch, defnyddir addysgeg sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr yn aml i helpu myfyrwyr i reoleiddio eu hunain a myfyrio. Mae hyn yn digwydd wrth iddynt ddysgu sut i bontio o rywun yn dweud wrthynt beth i’w ddysgu, i ddatblygu dealltwriaeth o’r hyn i’w ddysgu fel dysgwr hunangyfeiriedig. Deellir hyn fel proses o symud o ddysgu addysgeg i ddysgu andragogeg. Daeth Andragogeg (a ddiffinnir gan Knowles) yn boblogaidd yn y 1970au ac mae’n cyfeirio at hwyluso dysgu i oedolion pan mae disgwyl iddynt fod yn fwy hunangyfeiriedig a dysgu mewn modd mwy annibynnol (Blaschke, 2019). Datblygwyd y syniad hwn ymhellach ers hynny wrth i’r dirwedd ddysgu gael ei gweddnewid gan dechnoleg sy’n datblygu ac ehangu i gynnwys ‘hewtagogeg’. Mae hewtagogeg yn cyfeirio at yr arfer o ddysgu o dan eich arweiniad eich hun ac sy’n canolbwyntio ar wybod sut i ddysgu (Blaschke, 2019; AdvanceHE, 2017). Mae hyn wedi’i gydnabod yn sgil allweddol ar gyfer dysgu yn yr 21ain ganrif. Mae’r broses hon yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau dysgu a rheoleiddio eu ffyrdd o ddysgu dros eu hunain. Mae’n mynd y tu hwnt i hunangyfeirio gan ei fod yn canolbwyntio mwy ar benderfynu dros eich hun. Mae hyn yn golygu bod yr athro’n hwyluso dysgu ond bod y dysgwr yn cymryd cyfrifoldeb am ei ddysgu ei hun. Gallai hyn ddigwydd trwy osod eu nodau dysgu eu hunain, dewis yr hyn y maent am ei ddysgu, a chael mwy o ddylanwad dros ddewis y dull dysgu mwyaf addas ar eu cyfer (Blaschke 2019; AdvanceHE, 2017).

Mae’n bwysig nodi’r newid er gwell o ran rhoi mwy o rym i fyfyrwyr yng nghyd-destun dysgu cyfoes, a’r ddealltwriaeth ohono, wrth i addysg uwch ddatblygu a chefnogi myfyrwyr i ddod yn ddysgwyr gydol oes, gan wneud dewisiadau gwybodus a mynd ati’n bwrpasol i gymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad academaidd eu hunain.

Sut allwch chi sicrhau eich bod yn cefnogi’r newid hwn mewn dysgu i fyfyrwyr? Ystyriwch gynnwys cyfleoedd i fyfyrwyr ddysgu trwy archwilio, creu, myfyrio, cysylltu, asesu a rhannu. Ewch ati i greu tasgau sy’n defnyddio’r syniadau hyn yn eich sesiynau a chynorthwyo myfyrwyr i hunanreoleiddio trwy annog cwestiynu ac asesiadau metawybyddol.

Cyfeiriadau: 

AdvanceHE (2017) ‘National Teaching Fellow 2017: heutagogy’. AdvanceHe [ar-lein]. Ar gael yn: heutagogy | Advance HE (advance-he.ac.uk) [Cyrchwyd 17/10/22]

Blaschke, L.M. (2019). ‘The Pedagogy–Andragogy–Heutagogy Continuum and Technology-Supported Personal Learning Environments’. Yn: Jung, I. (golygyddion) Open and Distance Education Theory Revisited. Springer Briefs in Education(). Springer, Singapore. Ar gael yn: https://doi.org/10.1007/978-981-13-7740-2_9  [Cyrchwyd ar 16/10/22]

Shah, K., R., (2021) ’Conceptualizing and Defining Pedagogy’. IOSR Journal of Research & Method in Education (IOSR-JRME) e-ISSN: 2320–7388, t- ISSN: 2320-737x Cyfrol 11, Rhifyn 1. Ar gael yn: https://www.iosrjournals.org/iosr-jrme/papers/Vol-11%20Issue-1/Ser-2/B1101020629.pdf [Cyrchwyd 11/10/22]