Skip to main content

Dathlu rhagoriaeth addysgu

Llongyfarchiadau i Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd

29 Tachwedd 2022
Team awarded on stage
Professor Andy Roberts UG Dean for College of Physical Sciences and Engineering, recognising the School of Earth and Environmental Sciences

Yr Athro Andrew Roberts Deon Astudiaethau Israddedig, Coleg Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg yn dathlu newid trawsffurfiol yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd.

Cafodd yr ysgol ei chydnabod am newidiadau trawsffurfiol yn ein digwyddiad Dathlu Dysgu ac Addysgu ar 16 Tachwedd 2022. Yr Athro Roberts sy’n amlinellu’r rhesymau dros y gydnabyddiaeth hon:

Dathlu a chydnabod rhagoriaeth

Hoffwn gydnabod y newidiadau trawsffurfiol a gyflwynwyd gan Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd i’r ysgol a’u rhaglenni gradd.

Ymateb i alw cynyddol yn y sector oedd y newidiadau i ddechrau, yn enwedig ar gyfer rhaglenni daearyddiaeth. Roedd hefyd yn ymateb i agenda trawsffurfio’r brifysgol, oherwydd gofynnwyd i’r ysgol ddarparu gwelliannau addysgeg i’w rhaglenni Israddedig a’u cyflwyno mewn ffordd fwy effeithlon a chost-effeithiol.

Daeth i’r amlwg yn fuan bod y gofyniad hwn yn gyfle i’r ysgol ymgymryd â diwygiad mawr o ran y dulliau dysgu a’r addysgu ym mhob raglen radd yn yr ysgol.

Ni wnaeth yr ysgol ymateb drwy wneud mân newidiadau i’r rhaglenni. Yn hytrach, aeth ati gyda thudalen lân ac adeiladu eu rhaglenni o’r newydd – gan gynnwys sefydlu’r rhaglenni gradd newydd.

Manteision y newidiadau:

  • fe wnaeth hyn alluogi’r ysgol i symud i ffwrdd o ddarparu amrywiaeth o fodiwlau 10 credyd oedd wedi esblygu dros nifer o flynyddoedd, i gynnig cyfres o fodiwlau 20 credyd blaengar ac yn cynnwys nifer o gyfranwyr. Maent hefyd yn cynnig ystod ehangach o ddulliau dysgu ac yn creu cysylltiadau ar draws sawl pwnc.
  • mae’r llwyth asesu wedi lleihau’n sylweddol, o ran nifer yr eitemau, hyd ac uchafswm geiriau – ac mae’r gwaith maes bellach yn fwy blaengar o ran y sgiliau a addysgir
  • rhoddir mwy o bwyslais ar ymgorffori sgiliau proffesiynol a chyflogadwyedd
  • mae llwyth gwaith cyffredinol y staff a’r myfyrwyr wedi lleihau’n sylweddol, gan greu buddion ychwanegol o ran lles
  • mae’r tîm sydd wedi’i greu yn sgîl hyn oll yn galluogi staff i gydbwyso eu hymchwil a’u haddysgu, yn ogystal â sicrhau bod addysgu sy’n cael ei lywio gan ymchwil ar gael ym mhob rhan o’r rhaglenni gradd.

Graddiodd carfan gyntaf y rhaglenni israddedig newydd y llynedd, ac mae’r myfyrwyr wedi croesawu’r newidiadau. Yn wir, eleni gwelwyd gwelliant sylweddol yn sgoriau NSS yr ysgol.

Diolch

Er mai ymdrech gan yr ysgol gyfan oedd hon – hoffwn ddiolch yn arbennig i:

  • Ian Hall, cyn-bennaeth Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd am ei weledigaeth a’i gyfeiriad
  • Iain McDonald, Rhoda Ballinger a Marc Alban Millet am weithio gyda staff academaidd, gan yrru’r adolygiad o’r cwricwlwm ar draws yr ysgol
  • Sally Walsh, cyn-reolwr addysg yr ysgol am sicrhau proses gyflwyno a chymeradwyo llyfn
  • Jenny Pike, a’r Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu Iain McDonald a Rhoda Ballinger am ddyfalbarhau â’r gwaith o gynnal yr adolygiad yn ystod y pandemig