Dull Egwyddor o Ddysgu Ar-lein
16 Mehefin 2020Wrth i ni gynllunio ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd, mae Caerdydd – fel y mwyafrif o brifysgolion ledled y byd – yn wynebu newid digynsail yn y ffordd y bydd ein dosbarthiadau’n cael eu haddysgu a’r ffordd y bydd ein myfyrwyr yn dysgu. Ni roddodd y symudiad cychwynnol ar-lein ym mis Mawrth unrhyw gyfle i staff na myfyrwyr baratoi, a dim llawer mwy i’w addasu, ond nawr rydym yn cychwyn ar gyfnod newydd lle mae gennym gyfle i lunio dyluniad cyrsiau yn seiliedig ar ddulliau profedig o ddarpariaeth ar-lein.
Yn sail i’r holl waith rydym yn ei wneud yn y rhaglen Addysg Ddigidol mae pum egwyddor sy’n cael eu distyllu’n effeithiol o ymchwil am yr hyn sy’n sicrhau profiad myfyriwr ar-lein llwyddiannus:
- Canolbwyntio ar ansawdd yn hytrach na nifer
- Cadw popeth yn syml
- Darparu eglurder a strwythur
- Canolbwyntio ar yr hyn sy’n gweithio ar-lein
- Hygyrchedd
Gallwch ddarllen mwy am yr hyn a olygwn wrth yr egwyddorion ar y tudalennau gwybodaeth yr ydym yn eu hadeiladu ar y Fewnrwyd (mae llawer mwy o wybodaeth ac adnoddau i ddod yn ystod yr wythnosau nesaf). Os hoffech chi ymchwilio ychydig yn ddyfnach i’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer yr egwyddorion hyn, byddwn yn argymell y rhagarweiniad hwn gan gydweithwyr academaidd profiadol yng Nglasgow, Caeredin, Aberdeen a Sheffield. Gan ddod o safbwynt sawl disgyblaeth, mae’r gwaith hwn yn nodi’n daclus yr ystyriaethau allweddol wrth i ni baratoi ar gyfer mwy o addysgu ar-lein yn 20/21, wedi’i ategu gan gyfeirio at rywfaint o’r llenyddiaeth graidd am addysgeg mewn amgylchedd digidol.
Wrth i ni ddatblygu’r gwaith hwn gyda’n gilydd dros yr wythnosau nesaf, rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod yn gwrando’n ofalus ar brofiad, pryderon a dyheadau ein myfyrwyr. I’r nod hwnnw byddwn yn datblygu ein cynlluniau mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr a hefyd yn gweithio’n agos gyda grwpiau cyfeirio myfyrwyr. Yn y cyfamser, efallai y bydd gwerth i chi glywed yr hyn oedd gan rai myfyrwyr o Brifysgol Gorllewin Sydney i’w ddweud wrth fyfyrio ar eu profiad ar-lein diweddar:
Mae llawer o’r hyn sydd gan y myfyrwyr i’w ddweud yn cyd-fynd yn agos iawn â’r pum egwyddor rydym yn gweithio iddynt fel y gallant, gobeithio, roi rhywfaint o hyder cynnar i ni fod gan ein gwaith seiliau cryf.
Ysgrifennwyd gan Simon Horrocks
Arweinydd Academaidd newydd y Brifysgol ar gyfer Strategaeth Addysg Ddigidol
1 sylw
Comments are closed.