Skip to main content

Dathlu rhagoriaeth addysgu

Cwestiwn ac ateb gyda Yr Athro Anwen Williams (Prif Gymrawd)

4 Mai 2020
Anwen Williams, Athro mewn Ffarmacoleg Arbrofol a Therapiwteg

Enw: Anwen Williams, Prif Gymrawd

Teitl y Swydd/Rôl:   Athro mewn Ffarmacoleg Arbrofol a Therapiwteg

Ysgol/Coleg:  Meddygaeth/ C-BLS

Pryd gawsoch chi eich dyrchafu’n Brif Gymrawd?    2019

Pam wnaethoch chi benderfynu gwneud cais am Gymrodoriaeth AU Uwch?     
Roeddwn i am i Brifysgol Caerdydd gael ei chydnabod fel rhywle/y lle y gallai ymchwilwyr ifanc ddod i brofi hyfforddiant Ymchwil Ôl-raddedig gwych mewn amgylchedd cynorthwyol a chydweithredol. Targedais y gymrodoriaeth gan ei bod yn ffordd effeithiol i ddangos hyn. Roedd hefyd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth bod Ymchwil Ôl-raddedig yn ddisgyblaeth addysgu arbenigol a arweinir gan ymchwil. Roeddwn am adeiladu ar y cymorth a gefais a’r cymorth a roddais i staff a myfyrwyr yn yr Ysgol Meddygaeth gyda cheisiadau am gymrodoriaeth. Roeddwn am ddangos beth oedd yn bosibl ac felly ysbrydoli a helpu staff ym mhob rhan o’r Brifysgol i wneud yr un peth. Nid oedd yn broses hawdd. Serch hyn, roedd yn werth yr ymdrech.

Sut mae bod yn Gymrawd wedi dylanwadu ar yr hyn yr ydych yn ei wneud?
Rhoddodd y Gymrodoriaeth hyder i mi chwilio am gyfleoedd newydd o ran addysgu a dysgu. Am y tro cyntaf, rwyf yn arwain o ran creu, dylunio a datblygu rhaglen hyfforddiant ôl-raddedig arloesol a arweinir gan ymchwil yn yr Ysgol Meddygaeth. Rwyf hefyd yn rhoi cyngor ar weithdrefnau sicrhau ansawdd a gwelliant ar ran y Brifysgol, ac yn rhoi gwybod amdanynt, i gael darpariaeth israddedig gydweithredol gyda sefydliad partner.

Sut ydych chi’n rhagweld y bydd bod yn Brif Gymrawd / Cymrawd Addysgu Cenedlaethol yn dylanwadu ar eich dyfodol ac unrhyw brosiectau/gwaith sydd ar y gweill?
Bydd PFHEA yn fy ngalluogi i roi cyngor, dylanwadu, arwain, cefnogi a dysgu o becynnau gwaith allanol gyda sefydliadau addysg uwch a sefydliadau partner. Bydd dadansoddi effaith y profiad a myfyrio’n feirniadol arno’n sail i fy nghyfraniad cadarnhaol o ran addysgu a dysgu, ynghyd â’m gyrfa yn y dyfodol.  

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i gydweithwyr sy’n ystyried gwneud cais am Brif Gymrodoriaeth neu Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol?Dyfalbarhewch â’r cais. Clustnodwch amser i gasglu tystiolaeth o effaith eich arweinyddiaeth o ran addysgu a dysgu a dylech ganolbwyntio ar ysgrifennu.  Mae’n awdurdodol iawn darllen y fersiwn terfynol a dweud wrthoch chi eich hun ‘Fi wnaeth hynny i gyd’ a “Gwnes i wahaniaeth cadarnhaol’.

Darganfyddwch mwy am fod yn Uwch-gymrawd

Darganfyddwch mwy am fod yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol a sut i wneud cais

Gallwch hefyd ymweld â gwefan Advance HE neu e-bostio ni ar CESI@cardiff.ac.uk 

Cadwch lygad ar ein blog am fwy o wybodaeth am ein Uwch Gymrodyr a Chymrodyr Addysgu Cenedlaethol.