Skip to main content

Dathlu rhagoriaeth addysgu

Cwestiwn ac ateb gyda Yr Athro Melanie Jones (Uwch-gymrawd)

30 Ebrill 2020
Melanie Jones, Athro Economeg

Enw: Melanie Jones

Teitl y Swydd/Rôl: Athro Economeg

Ysgol/Coleg: CARBS

Pryd gawsoch chi eich dyrchafu’n Uwch-gymrawd? Mawrth 2017

Pam wnaethoch chi benderfynu gwneud cais am Gymrodoriaeth AU Uwch? Roedd yn gyfle i fyfyrio’n feirniadol ar fy mhrofiad fy hun o addysgu ac arwain ym maes addysg uwch a chael cydnabyddiaeth cenedlaethol am gyfraniad parhaus o ran addysgu a arweinir gan ymchwil, a hyrwyddo arferion da o ran dysgu ac addysgu ym maes economeg.

Sut mae bod yn Gymrawd wedi dylanwadu ar yr hyn yr ydych yn ei wneud? Nid yw wedi newid fy ymagwedd at addysg ac addysgu, ond mae’r cydnabyddiaeth allanol wedi rhoi mwy o hyder a chyfleoedd i mi rannu fy mhrofiad a’m harferion ag eraill, o fewn ac y tu allan i Brifysgol Caerdydd.

Sut ydych chi’n rhagweld y bydd bod yn Uwch-gymrawd / Cymrawd Addysgu Cenedlaethol yn dylanwadu ar eich dyfodol ac unrhyw brosiectau/gwaith sydd ar y gweill?
Gwnaeth y broses ymgeisio fy annog i ddefnyddio ymchwil yn well i lywio fy arferion addysgu. Mae hyn bellach wedi’i ymgorffori drwy fy null addysgu fy hun ac yn yr arweiniad y gallaf ei gynnig i eraill. Mae hyn hefyd wedi fy annog i feddwl am sut y gallwn i ddefnyddio fy sgiliau ymchwil i lywio’r gwaith o ddysgu ac addysgu o fewn y ddisgyblaeth. Yn wir, rwyf yn bwriadu defnyddio fy niddordeb ymchwil mewn anghydraddoldeb rhwng y rhywiau i ddeall pam mae nifer cymharol fach o fenywod yn dewis astudio economeg ym maes addysg uwch.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i gydweithwyr sy’n ystyried gwneud cais am Uwch-gymrodoriaeth neu Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol?Sicrhewch bod gennych yr amser a’r modd i wneud cais. Er ei bod yn edrych fel tasg hynod heriol i ddechrau, unwaith y byddwch yn dechrau myfyrio ar eich gyrfa a’ch profiad o addysgu eich hun bydd yn eich synnu sawl enghraifft o arferion ac arweinyddiaeth effeithiol ac arloesol y bydd eu hangen arnoch.

Darganfyddwch mwy am fod yn Uwch-gymrawd

Darganfyddwch mwy am fod yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol a sut i wneud cais

Gallwch hefyd ymweld â gwefan Advance HE neu e-bostio ni ar CESI@cardiff.ac.uk 

Cadwch lygad ar ein blog am fwy o wybodaeth am ein Uwch Gymrodyr a Chymrodyr Addysgu Cenedlaethol.