Skip to main content

Dathlu rhagoriaeth addysgu

Cwestiwn ac ateb gyda Dr Jo Smedley (Prif Gymrawd)

30 Ebrill 2020
Dr Jo Smedley, Tiwtor

Enw:  Dr Jo Smedley, Prif Gymrawd

Teitl y Swydd/Rôl:  Tiwtor

Ysgol/Coleg:  Addysg Barhaus a Phroffesiynol

Pryd gawsoch chi eich dyrchafu’n Prif Gymrawd? 2013

Pam wnaethoch chi benderfynu gwneud cais am Gymrodoriaeth AU Uwch?
Roeddwn i am ddangos fy mhrofiad o safbwynt Cenedlaethol mewn dull gweithredu a oedd yn ddealladwy o fewn ac y tu allan i fy Mhrifysgol.

Sut mae bod yn Gymrawd wedi dylanwadu ar yr hyn yr ydych yn ei wneud?
Mae wedi fy nghysylltu â rhwydwaith o gydweithwyr PFHEA sydd â phrofiadau tebyg o ddysgu ac addysgu prosiectau a datblygiadau sydd wedi fy ngalluogi i gawl sawl cyfle ymgynghori.   Mae hefyd wedi cynnig cyfleoedd i fentora cydweithwyr o fy Mhrifysgol fy hun ac o Brifysgolion eraill yn eu cyflwyniadau UKPSF.  Rwyf hefyd yn Adolygydd Allanol ar baneli ar gyfer dwy Brifysgol.

Sut ydych chi’n rhagweld y bydd bod yn Brif Gymrawd / Cymrawd Addysgu Cenedlaethol yn dylanwadu ar eich dyfodol ac unrhyw brosiectau/gwaith sydd ar y gweill?
Byddwn yn disgwyl parhau i gysylltu â chydweithwyr PFHEA er mwyn datblygu datblygiadau unigol a chydweithredol.  Mae ein byd o ddysgu ac addysgu ar-lein yn cynnig cyfle cyfoethog ar gyfer datblygiadau creadigol – y rhwydwaith amhrisiadwy o brofiad a chymorth a bydd hwn yn nodwedd bwysig o hyn.  Rwyf hefyd yn bwriadu parhau i gefnogi a mentora cydweithwyr wrth iddynt ddatblygu eu cyflwyniadau UKPSF ar ba bynnag lefel ac annog ffocws parhaus ar ddatblygiad proffesiynol fel ymdrech sefydlog mewn cyfnod cyfnewidiol.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i gydweithwyr sy’n ystyried gwneud cais am Brif Gymrodoriaeth neu Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol?Cefn y rhwyd!  Wedi dweud hynny mae’n bwysig bod dealltwriaeth lawn o beth yn union yw Prif Gymrodoriaeth (a hefyd beth nad ydyw!) a hefyd caiff y broses ymgeisio ei chasglu cyn i amser gael ei dreulio’n ysgrifennu unrhyw gais.  Ar sawl achlysur rwyf wedi gweld ceisiadau’n cael eu rhoi at eu gilydd â disgwyliadau wedi’u cam-ddeall o dan sylw – dim ond i’r broses gyflwyno achosi problemau i’r panel adolygu o ran esbonio canlyniadau i ymgeiswyr.  Mae athroniaeth anhierarchaidd UKPSF yn agwedd arbennig o heriol ond mae hefyd yn cynnig cyfleoedd cydweithredol sy’n galluogi cysylltiadau newydd ar draws pynciau, lefelau sefydliadol a phrofiad.  Felly, mae’n bwysig eich bod yn gwybod pam rydych yn gwneud cais, myfyriwch p’un a oes gennych y profiad priodol ac ewch i nol stoc o siocledi (neu beth bynnag yw eich “dantaith personol”!)  …….ac yna gwnewch y cais 😊

Darganfyddwch mwy am fod yn Uwch-gymrawd

Darganfyddwch mwy am fod yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol a sut i wneud cais

Gallwch hefyd ymweld â gwefan Advance HE neu e-bostio ni ar CESI@cardiff.ac.uk 

Cadwch lygad ar ein blog am fwy o wybodaeth am ein Uwch Gymrodyr a Chymrodyr Addysgu Cenedlaethol.