Skip to main content

Dathlu rhagoriaeth addysgu

Cwestiwn ac ateb gyda Dr Clare Bennett (Uwch-gymrawd)

30 Ebrill 2020
Dr Clare Bennett, Uwch-ddarlithydd: Nyrsio Oedolion

Enw:  Dr Clare Bennett

Teitl y Swydd/Rôl: Uwch-ddarlithydd: Nyrsio Oedolion

Ysgol/Coleg: Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Pryd gawsoch chi eich dyrchafu’n Uwch-gymrawd? 2018

Pam wnaethoch chi benderfynu gwneud cais am Gymrodoriaeth AU Uwch?
Yn fy sefydliad blaenorol roedd yn ofynnol i aelodau staff wneud hynny wrth baratoi ar gyfer TEF.

Sut mae bod yn Gymrawd wedi dylanwadu ar yr hyn yr ydych yn ei wneud?
Mae’r elfennau myfyriol wedi cael dylanwad cadarnhaol ar fy null addysgu, er enghraifft drwy fy atgoffa o ba mor effeithiol y gall troi’r ystafell ddosbarth wyneb i waered fod. Mantais ychwanegol yw ei fod wedi helpu i gyflwyno fy nghais am ddyrchafiad i fod yn Uwch-ddarlithydd!

Sut ydych chi’n rhagweld y bydd bod yn Uwch-gymrawd / Cymrawd Addysgu Cenedlaethol yn dylanwadu ar eich dyfodol ac unrhyw brosiectau/gwaith sydd ar y gweill?
Rwyf bron yn ei ystyried yn ‘safon y diwydiant’ mewn perthynas ag addysgu a grantiau ysgoloriaeth a phrosiectau, felly rwyf yn falch fy mod gen i hyn ar fy CV gan ei fod yn arwain at fwy o gyfleoedd i ddatblygu.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i gydweithwyr sy’n ystyried gwneud cais am Uwch-gymrodoriaeth neu Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol?Byddaf yn sicr yn dweud wrthych fynd amdani ond bod angen digon o amser a mentora da arnoch i allu gwneud cyfiawnder â chi eich hun.

Darganfyddwch mwy am fod yn Uwch-gymrawd

Darganfyddwch mwy am fod yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol a sut i wneud cais

Gallwch hefyd ymweld â gwefan Advance HE neu e-bostio ni ar CESI@cardiff.ac.uk 

Cadwch lygad ar ein blog am fwy o wybodaeth am ein Uwch Gymrodyr a Chymrodyr Addysgu Cenedlaethol.