Skip to main content

Dathlu rhagoriaeth addysgu

Cwestiwn ac ateb gyda Dr Robert Wilson (Cymrawd Addysgu Cenedlaethol)

23 Ebrill 2020
Robert Wilson, Cymrawd Addysgu Cenedlaethol

Enw: Robert Wilson

Teitl y Swydd/Rôl: Uwch-ddarlithydd mewn Mathemateg

Ysgol/Coleg: Mathemateg, Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg

Pryd gawsoch chi eich dyrchafu’n Uwch-gymrawd / Cymrawd Addysgu Cenedlaethol / y ddau? Gorffennaf 2019

Pam wnaethoch chi benderfynu gwneud cais am Gymrodoriaeth AU Uwch? Mae’n wobr genedlaethol sefydledig ac roeddwn yn ffyddiog fy mod yn bodloni’r meini prawf gofynnol. Cefais hefyd lawer o anogaeth gan gydweithwyr o’r sefydliad ac yn allanol.

Sut mae bod yn Gymrawd wedi dylanwadu ar yr hyn yr ydych yn ei wneud? Roedd y broses ei hun, heb feddwl am dderbyn y wobr, yn brofiad positif, oedd yn syndod i mi! Rhoddodd gyfle gwirioneddol i fyfyrio’n holistig ar fy natblygiad personol a chyfrannu at ddysgu ac addysgu. Roedd hefyd yn wych cael cynigion am gymorth gan gydweithwyr, yr ydw i wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gyda nhw ar wahanol bethau.

Ers ennill y wobr, rwyf wedi magu hyder i ymchwilio i syniadau a chyfeiriadau newydd, ynghyd â bod ynghlwm wrth sawl rhwydwaith a menter fydd yn ategu fy nghynnydd personol, a thrwy lwc yn cefnogi datblygiad pobl eraill.

Sut ydych chi’n rhagweld y bydd bod yn Uwch-gymrawd / Cymrawd Addysgu Cenedlaethol yn dylanwadu ar eich dyfodol ac unrhyw brosiectau/gwaith sydd ar y gweill? Gobeithio y bydd yn rhoi rhagor o gyfleoedd i mi i gyfrannu mewn rhyw ffordd at ddatblygiad pellach dysgu, addysgu a chefnogaeth yn Addysg Uwch.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i gydweithwyr sy’n ystyried gwneud cais am Uwch-gymrodoriaeth neu Gymrodoriaeth Addysgu Cenedlaethol?Ewch amdani!

Darganfyddwch mwy am fod yn Uwch-gymrawd

Darganfyddwch mwy am fod yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol a sut i wneud cais

Gallwch hefyd ymweld â gwefan Advance HE neu e-bostio ni ar CESI@cardiff.ac.uk 

Cadwch lygad ar ein blog am fwy o wybodaeth am ein Uwch Gymrodyr a Chymrodyr Addysgu Cenedlaethol.