Skip to main content

Dathlu rhagoriaeth addysgu

Cwestiwn ac ateb gyda Dr Michael Willett (Uwch-gymrawd)

23 Ebrill 2020

Enw: Michael Willett, Uwch-gymrawd

Teitl y Swydd/Rôl: Arweinydd y Rhaglen Dysgu Addysgu y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol (AHSS)

Ysgol/Coleg: Y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol (AHSS)

Pryd gawsoch chi eich dyrchafu’n Uwch-gymrawd?
Chwefror 2020

Pam wnaethoch chi benderfynu gwneud cais am Gymrodoriaeth AU Uwch?
Roedd dod yn Uwch-gymrawd yn darged allweddol i mi o ran fy natblygiad personol. Sylweddolais y byddai’r broses yn ehangu fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o addysgeg, ac yn fy helpu i werthuso a gwella fy nysgu ac addysgu.

Sut mae bod yn Gymrawd wedi dylanwadu ar yr hyn yr ydych yn ei wneud?
Mae’r broses wedi datblygu fy nealltwriaeth o arfer da, sydd wedi cael effaith bositif ar brofiadau dysgu’r myfyrwyr a’r cydweithwyr yr ydw i’n eu haddysgu ac yn fentor iddynt. Mae hefyd wedi f’ysgogi i fyfyrio’n ehangach ar fy null arwain, ac wedi fy annog i yrru newid er gwell o ran arferion dysgu ac addysgu yn y Brifysgol a thu hwnt.

Sut ydych chi’n rhagweld y bydd bod yn Uwch-gymrawd / Cymrawd Addysgu Cenedlaethol yn dylanwadu ar eich dyfodol ac unrhyw brosiectau/gwaith sydd ar y gweill?
Mae bod yn Uwch-gymrawd wedi rhoi’r hyder i mi i gynnal a rhannu ymchwil ar addysgeg ar raddfa ehangach. Ar y cyd ag Emmajane Milton, SOCSI, cyflwynais weithdy ar ‘Quescussion’ mewn addysgu grwpiau bychan yng Nghynhadledd Advance HE Cenedlaethol 2019, ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar bapur yn astudio ‘chwarae iaith’ yn y dosbarth AU. Rwy’n bwriadu ei gyflwyno i gyfnodolyn addysgu a dysgu a adolygwyd gan gymheiriaid yn y dyfodol agos. 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i gydweithwyr sy’n ystyried gwneud cais am Uwch-gymrodoriaeth neu Gymrodoriaeth Addysgu Cenedlaethol?Byddwn yn argymell yn gryf mynd i un o’r digwyddiadau Uwch-gymrawd hanner diwrnod sy’n cael eu cynnal gan AD. Hyd yn oed os oes gennych wybodaeth ymarferol o Advance HE a UKPSF, mae’r gweithdai hyn yn cyflwyno ystod o syniadau a strategaethau defnyddiol, ac roeddwn i’n meddwl bod y profiad yn gymhelliant da iawn. Er bod y cyfrif geiriau a fformat y cais yn gallu codi ofn o bosibl i ddechrau, maent yn dod yn haws wrth i chi ddechrau ysgrifennu. Mae’r cais ei hun yn wahanol iawn i ysgrifennu papur academaidd, ond gallaf eich sicrhau y bydd yn newid eich arferion addysgu ac arweinyddiaeth er gwell.

Darganfyddwch mwy am fod yn Uwch-gymrawd

Darganfyddwch mwy am fod yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol a sut i wneud cais

Gallwch hefyd ymweld â gwefan Advance HE neu e-bostio ni ar CESI@cardiff.ac.uk 

Cadwch lygad ar ein blog am fwy o wybodaeth am ein Uwch Gymrodyr a Chymrodyr Addysgu Cenedlaethol.