Skip to main content

Dathlu rhagoriaeth addysgu

Cwestiwn ac ateb gyda Yr Athro Steve Rutherford (Uwch-gymrawd / Cymrawd Addysgu Cenedlaethol)

21 Ebrill 2020
Steve Rutherford (hefo’i gi!)

Enw: Steve Rutherford, Uwch-gymrawd a Chymrawd Addysgu Cenedlaethol

Teitl y Swydd/Rôl: Athro Addysg Biowyddoniaeth, Cyfarwyddwr Addysg Israddedig, Pennaeth Is-adran Addysg Ysgol y Biowyddorau, Arweinydd Academaidd ar gyfer prosiect Dysgu ac Addysgu DPP ar gyfer CESI.

Ysgol/Coleg: BIOSI

Pryd gawsoch chi eich dyrchafu’n Uwch-gymrawd / Cymrawd Addysgu Cenedlaethol / y ddau? Cefais fy nyrchafu’n Uwch-gymrawd yn 2015. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol i mi ar ddechrau 2017.

Pam wnaethoch chi benderfynu gwneud cais am Gymrodoriaeth AU Uwch? Roeddwn i’n teimlo ei bod hi’n bwysig ennill cydnabyddiaeth allanol am y lefel uwch o ymgysylltu gyda’r gymuned addysgol ehangach o fewn y Brifysgol a thu hwnt iddi. Roedd cael Uwch-gymrodoriaeth yn golygu bod yr Ysgol yn gallu pwysleisio bod gan gydweithwyr o fewn y staff academaidd ffocws cryf ar addysg, ac yn mynd â dysgu ac addysgu i lefel arall. Mae’n gosod sylfaen dda i’r Ysgol gael cynifer o Uwch-gymrodorion â phosib.  Roedd y broses o gyflwyno’r cais hefyd yn gyfle i mi feddwl amdanaf fy hun, fy ffordd o fynd ati i addysgu, ac i gymryd ennyd i oedi a gwerthuso’r hyn rwy’n ei wneud ac yn credu ynddo ynglŷn ag addysgu.

Cyflwynais gais am Cymrodoriaeth Addysgu Cenedlaethol oherwydd roeddwn i’n teimlo fod gen i’r profiad priodol ac wedi cyflawni delfrydau’r cynllun er mwyn gwisgo’r ‘bathodyn’ hwnnw. Yn ogystal â’r cydnabyddiaeth fel Uwch-gymrawd, roedd hyn yn golygu fy mod yn cael peth cydnabyddiaeth am y dulliau arloesol yr wyf wedi ceisio eu hychwanegu at y ffordd yr wyf yn addysgu. Roeddwn i’n teimlo fy mod yn gwneud pethau diddorol ac anarferol, ac y byddai hi’n dda cael cydnabyddiaeth allanol o hynny. Derbyniais swm o arian at ddibenion dysgu ac addysgu a oedd yn ymwneud â Datblygiad Personol Parhaus, ac roedd yn ddefnyddiol dros ben!

Sut mae bod yn Gymrawd wedi dylanwadu ar yr hyn yr ydych yn ei wneud? Mae bod yn Uwch-gymrawd yn golygu bod pobl yn dueddol o ddod ataf i ofyn am gyngor, ac hefyd wedi arwain at fwy o ryngweithio y tu hwnt i’r Ysgol. Mae gennym gymuned dda o Uwch-gymrodorion, sydd â’r potensial i’w ddefnyddio er budd datblygu ffyrdd newydd o addysgu, a gwella profiad myfyrwyr (a staff).

Mae bod yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol yn golygu bod yn rhan o gymuned ehangach o lawer (a chyfeillgar a chalonogol) o ysgolheigion yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.  Mae wedi arwain at gael fy nghynnwys mewn rhai prosiectau cenedlaethol a rhyngwladol, ac wedi rhoi’r cyfle i mi gydweithio â phobl eraill sydd yr un mor angerddol dros addysgu â mi. Roeddwn i hefyd wedi gallu defnyddio rhan o’r cyflog gan y cynllun i helpu i dalu am gwrs EdD, sydd yn ei dro wedi arwain at adran arall o weithgaredd ymchwil ym maes addysgeg.

Sut ydych chi’n rhagweld y bydd bod yn Uwch-gymrawd / Cymrawd Addysgu Cenedlaethol yn dylanwadu ar eich dyfodol ac unrhyw brosiectau/gwaith sydd ar y gweill? Gobeithiaf y bydd Uwch-gymrodoriaeth yn golygu bod yn rhan o gymuned o fewn y Brifysgol sy’n bwynt cyswllt cychwynnol neu arweiniad ar gyfer prosiectau arloesol.  Mae ffynnon ddofn o wybodaeth yn y gymuned hon o gydweithwyr sy’n aros i gael ei ddefnyddio er budd y Brifysgol gyfan.

Mae bod yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol wedi dylanwadu ar fy natblygiad gyrfaol yn barod, ac rydw i’n disgwyl y bydd yn parhau felly. Gobeithio y byddaf yn ymwneud â mwy o brosiectau cydweithredol rhyngwladol, ceisiadau am gyllid, a chefnogi/cynghori cydweithwyr eraill sydd a’u ffocws ar addysgu.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i gydweithwyr sy’n ystyried gwneud cais am Uwch-gymrodoriaeth neu Gymrodoriaeth Addysgu Cenedlaethol? Y cyngor cyntaf sydd gennyf i’w rannu ag Uwch-gymrawd yw i feddwl bob amser am eich ‘athroniaeth addysgu’ bersonol. Ble yr ydych yn gweld eich hun yn rhan o’r broses ddysgu ac addysgu. Yna, dechreuwch gwestiynu hynny. Gofynnwch i chi eich hun pam eich bod chi’n teimlo felly, neu ar beth yr ydych yn seilio’r canfyddiad hwnnw. Nid oes un dull cywir nac anghywir i’w gael, ond os nad ydych chi’n gwybod lle rydych yn sefyll, bydd hi’n anodd rhesymoli sut i gefnogi eraill gyda’u datblygiad nhw.

Hefyd, ceisiwch weithio gydag eraill a’u mentora neu eu cefnogi. Mae hyn yn helpu cydweithwyr i ddatblygu, ond mae hefyd yn brofiad dysgu gwerthfawr i chi fel person (ac yn rhywbeth i chi sôn amdano yn eich cais am Gymrodoriaeth).

Ar gyfer Cymrawd Addysgu Cenedlaethol, ewch am sgwrs gyda Nathan Roberts o’r CESI, neu cysylltwch ag unrhyw un o’r Cymrodorion Addysgu Cenedlaethol sydd yng Nghaerdydd, a meddyliwch am 3 maen prawf rhagoriaeth unigol mewn addysgu, cefnogi eraill, a buddsoddi yn eich DPP chi eich hun. Yna meddyliwch am beth allwch chi ei wneud i wella’r pethau hynny sy’n golygu y byddwch yn cael eich gweld fel rhywun sy’n cefnogi dysgu ac addysgu. Beth sy’n eich cyffroi neu’n eich diddori?  Beth sy’n eich gwneud chi a’ch rôl broffesiynol yn unigryw?

Darganfyddwch mwy am fod yn Uwch-gymrawd

Darganfyddwch mwy am fod yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol a sut i wneud cais

Gallwch hefyd ymweld â gwefan Advance HE neu e-bostio ni ar CESI@cardiff.ac.uk 

Cadwch lygad ar ein blog am fwy o wybodaeth am ein Uwch Gymrodyr a Chymrodyr Addysgu Cenedlaethol.