Skip to main content

Dathlu rhagoriaeth addysgu

Cwestiwn ac ateb gyda Emmajane Milton (Uwch-gymrawd / Cymrawd Addysgu Cenedlaethol)

21 Ebrill 2020
Emmjane Milton, Darllenwr yn Addysg

Enw: Emmajane Milton, Uwch-gymrawd a Chymrawd Addysgu Cenedlaethol

Teitl y Swydd/Rôl: Darllenydd mewn Addysg

Ysgol/Coleg: SOCSI / AHSS

Pryd gawsoch chi eich dyrchafu’n Uwch-gymrawd / Cymrawd Addysgu Cenedlaethol / y ddau? Uwch-gymrawd 2017 a Chymrawd Addysgu Cenedlaethol 2018

Pam wnaethoch chi benderfynu gwneud cais am Gymrodoriaeth AU Uwch? Rydw i wedi treulio llawer o fy ngyrfa yn ymwneud â maes addysgu, ond nid yn y Sector Addysg Uwch, felly pan ddes i i’r Brifysgol, roedd gen i ddiddordeb mewn gweld sut roedd y sector Prifysgolion yn nodi ansawdd o ran addysgu, a dyma un ffordd o wneud hynny. Hefyd, rydw i’n credu ei bod hi’n bwysig bod Rhagoriaeth Dysgu ac Addysgu yn cael ei werthfawrogi a’i gydnabod.

Sut mae bod yn Gymrawd wedi dylanwadu ar yr hyn yr ydych yn ei wneud? I mi, rydw i’n credu mai’r peth pwysicaf yw’r cydnabyddiaeth drosglwyddadwy sydd bellach yn rhyngwladol. Mae nifer o sefydliadau yn gweld gwerth mewn Cymrodoriaethau ac Uwch-gymrodoriaethau. Ond hefyd, y ffaith eich bod chi’n rhan o rwydwaith; roeddwn i’n gwerthfawrogi eich bod chi’n gallu rhwydweithio gyda chydweithwyr eraill sydd wedi cael yr un gydnabyddiaeth ac mae hynny’n eich galluogi i ddod ar draws syniadau eraill a phethau i’w ystyried ar draws y sector.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i gydweithwyr sy’n ystyried gwneud cais am Uwch-gymrodoriaeth neu Gymrodoriaeth Addysgu Cenedlaethol?Ewch amdani! Mae’r cymrodoriaethau hyn yn hynod werthfawr o ran cymryd rhan ynddynt a’u cyflawni.

Darganfyddwch mwy am fod yn Uwch-gymrawd

Darganfyddwch mwy am fod yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol a sut i wneud cais

Gallwch hefyd ymweld â gwefan Advance HE neu e-bostio ni ar CESI@cardiff.ac.uk 

Cadwch lygad ar ein blog am fwy o wybodaeth am ein Uwch Gymrodyr a Chymrodyr Addysgu Cenedlaethol.