Skip to main content

Dathlu rhagoriaeth addysgu

Cwestiwn ac ateb gyda Alison James (Uwch-gymrawd)

21 Ebrill 2020
Alison James

Enw: Alison H James, Uwch-gymrawd

Teitl y Swydd/Rôl: Uwch-ddarlithydd, Nyrsio Oedolion

Ysgol/Coleg: Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Pryd gawsoch chi eich dyrchafu’n Uwch-gymrawd? Rhagfyr 2019

Pam wnaethoch chi benderfynu gwneud cais am Gymrodoriaeth AU Uwch? Fe gyflwynais gais a derbyn Cymrodoriaeth yn 2017 yn gyntaf, ac yna penderfynais wneud cais am Uwch-gymrodoriaeth ym Mehefin 2019.

Sut mae bod yn Gymrawd wedi dylanwadu ar yr hyn yr ydych yn ei wneud? Mae bod yn Gymrawd wedi fy ngalluogi i barhau i sefydlu fy ymrwymiad i addysgu, dysgu a phrofiad y myfyrwyr mewn addysg uwch drwy fyfyrio ar brofiadau a llywio fy ngwaith i gyd-fynd â gofynion y Brifysgol a’r UKPSF. Mae myfyrio a chymhwyso damcaniaethau yn ysgogi fy natblygiad personol ac yn cynnig cyfleoedd i ystyried meysydd eraill ar gyfer gwella fy sgiliau, ac mae fy ngallu i gefnogi dysgu myfyrwyr yn gwella drwy hynny.

Sut ydych chi’n rhagweld y bydd bod yn Uwch-gymrawd / Cymrawd Addysgu Cenedlaethol yn dylanwadu ar eich dyfodol ac unrhyw brosiectau/gwaith sydd ar y gweill? Rydw i’n gobeithio y byddaf yn parhau i ymgysylltu â’r cyfleoedd datblygu a rhwydweithio y mae’r Gymrodoriaeth yn eu cynnig a pharhau i gefnogi cydweithwyr a myfyrwyr ym maes addysg uwch ymhellach.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i gydweithwyr sy’n ystyried gwneud cais am Uwch-gymrodoriaeth neu Gymrodoriaeth Addysgu Cenedlaethol?Roedd y Pecyn Categori Cymrodoriaeth yn ddefnyddiol i sefydlu fy lefel bresennol a hefyd er mwyn anelu am y nesaf. Wrth fyfyrio ar brofiadau yn ystod y broses hon, byddwch yn gweld y potensial a’r arbenigedd a ddatblygwyd ar hyd eich gyrfa ac mae hyn yn eich annog i ddatblygu ymhellach.

Darganfyddwch mwy am fod yn Uwch-gymrawd

Darganfyddwch mwy am fod yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol a sut i wneud cais

Gallwch hefyd ymweld â gwefan Advance HE neu e-bostio ni ar CESI@cardiff.ac.uk 

Cadwch lygad ar ein blog am fwy o wybodaeth am ein Uwch Gymrodyr a Chymrodyr Addysgu Cenedlaethol.