Cwestiwn ac ateb gyda Dr Mark Connolly (Uwch-gymrawd)
21 Ebrill 2020Enw: Mark Connolly ( Uwch-gymrawd)
Teitl y Swydd/Rôl: Uwch-ddarlithydd
Ysgol/Coleg: SOCSI
Pryd gawsoch chi eich dyrchafu’n Uwch-gymrawd? 2017
Pam wnaethoch chi benderfynu gwneud cais am Gymrodoriaeth AU Uwch? Roeddwn i eisiau bod yn rhan o rwydwaith sydd â diddordeb mewn Addysgu ym maes Addysg Uwch a derbyn cydnabyddiaeth broffesiynol o’m gwaith fel darlithydd.
Sut mae bod yn Gymrawd wedi dylanwadu ar yr hyn yr ydych yn ei wneud? Mae wedi fy ngalluogi i ymuno â rhwydwaith o academyddion sydd â diddordeb mewn addysgu a dysgu ym maes addysg uwch.
Sut ydych chi’n rhagweld y bydd bod yn Uwch-gymrawd / Cymrawd Addysgu Cenedlaethol yn dylanwadu ar eich dyfodol ac unrhyw brosiectau/gwaith sydd ar y gweill? Mae bod yn rhan o’r rhwydwaith broffesiynol hwn wedi rhoi syniadau i mi a chefnogaeth gan gydweithwyr o amrywiol ddisgyblaethau, o fewn y sefydliad hwn ac o’r tu allan. Mae cael mynediad at y rhwydwaith hwn wedi fy ngalluogi i roi cynnig ar dulliau a thechnegau newydd wrth addysgu.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i gydweithwyr sy’n ystyried gwneud cais am Uwch-gymrodoriaeth neu Gymrodoriaeth Addysgu Cenedlaethol?Mae’n gyfle i fyfyrio ar eich gwerthoedd a’ch gwaith fel darlithydd ac ymuno â rhwydwaith broffesiynol gefnogol y tu hwnt i’ch disgyblaeth neu ysgol.
Darganfyddwch mwy am fod yn Uwch-gymrawd
Darganfyddwch mwy am fod yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol a sut i wneud cais
Gallwch hefyd ymweld â gwefan Advance HE neu e-bostio ni ar CESI@cardiff.ac.uk
Cadwch lygad ar ein blog am fwy o wybodaeth am ein Uwch Gymrodyr a Chymrodyr Addysgu Cenedlaethol.