Skip to main content

Addysg Ddigidol

Cymorth addysgu o bell: Defnyddio Blackboard Collaborate Ultra

2 Ebrill 2020

Gyda’r newidiadau syfrdanol diweddar i addysgu dros yr wythnosau diwethaf mae Nicola Harris, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, wedi ysgrifennu rhai awgrymiadau ar gyfer cydweithwyr sy’n ystyried defnyddio teclyn gweminar Blackboard Collaborate Ultra am y tro cyntaf, neu’n ystyried defnyddio opsiynau uwch y teclyn fel ystafelloedd ymneilltuo.

“Cynhaliais fy sesiynau gweminar cyntaf heddiw gan ddefnyddio Blackboard Collaborate Ultra, ac ar y cyfan fe aethon nhw’n dda iawn. Dyma ychydig o awgrymiadau i staff eraill i helpu â’r profiad, rhag ofn eu bod hefyd yn ystyried defnyddio gweminarau ac yr hoffent gael cymorth:

• Pan fydd gennych chi grŵp cyfan mewn un “ystafell” mae’n anodd iawn ymgysylltu â nhw. Gan mai dim ond pedwar ar y sgrin y gallwch eu gweld ar unwaith ar Collaborate, mae’n hawdd i rai cael eu gadael allan. Roedd yn help i alw arnynt yn ôl enw.

• Mae maint grŵp yn bwysig. Roedd gen i ddeg ar y tro ac roedd hynny’n gweithio’n iawn. Byddai 20 yn anodd i’r gweithgaredd roeddwn i’n ei gynnal, oni bai eich bod chi’n eu hisrannu’n grwpiau ymneilltuo (ond fel y gwelwch isod, rydw i wrth fy modd â grwpiau ymneilltuo!).

• Pan fydd rhywun yn siarad, ni allant glywed yr hyn y mae unrhyw un arall yn ei ddweud, felly mae’r broblem o siarad dros ei gilydd yn llawer mwy amlwg nag mewn bywyd go iawn. Efallai gorfodi defnydd o’r botwm “dwylo i fyny” i ganiatáu rhywfaint o strwythur i fyfyrwyr gyfleu eu pwynt.

• Mae swyddogaeth yr ystafelloedd ymneilltuo yn fendigedig. Cyn belled â’u bod yn grwpiau o 3 neu 4 ar y mwyaf, maen nhw i gyd yn gallu gweld ei gilydd, ac maen nhw wir yn siarad. Fe wnes i redeg y trafodaethau mewn ystafelloedd ar wahân ac yna dod â nhw i gyd yn ôl i’r “brif ystafell” i fwydo’n ôl. Mae angen i chi gadw llygad barcud a yw cysylltiadau pobl yn torri gan adael rhywun ar ei ben ei hun mewn ystafell, ac os felly gallwch chi eu cyfnewid i grŵp arall, ond mae’r cyfan yn rhyfeddol o hawdd i’w wneud.

• Mae’n llawer mwy blinedig nag yr ydych chi’n meddwl. Yn bendant PEIDIWCH â threfnu sesiynau cefn wrth gefn. Bydd pawb angen seibiant am baned ar ôl un, dwi’n addo.

• Ar y cyfan, roeddwn i’n ei chael hi’n haws ei ddefnyddio ac yn fwy rhyngweithiol nag yr oeddwn i’n ei ddisgwyl, ac roedd y myfyrwyr wrth eu bodd â’r cyfle i weld ei gilydd. Fe wnes i osod yr amseriadau fel bod yr “ystafell” yn aros ar agor am 15 munud ar ôl dysgu fel eu bod nhw’n gallu aros yno a sgwrsio ar ôl y sesiwn pe bydden nhw eisiau – roedd yn ymddangos eu bod nhw’n hoffi hyn.

• Peidiwch â phoeni am fywyd yn tresmasu. Roeddent wrth eu bodd pan ddaeth fy nghathod ar y sgrin, neu pan oedd Mam rhywun yn gweiddi arnynt yn y cefndir!”

Nicola Harris

Diolch i Nicola am ei chyngor. Os hoffech chi roi cynnig ar Blackboard Collaborate, mae gennym wybodaeth ar sut i’w ddefnyddio yn ein canllaw Addysgu Wrth Gefn ar gyfer staff (sy’n addysgu grwpiau bach).

I gael gwybodaeth am swyddogaeth yr ystafelloedd ymneilltuo, ewch i’r canllawiau ar wefan Blackboard.

Am fwy o wybodaeth am CESI, ewch i ein tudalen tîm ar yr intranet