Diffodd y dechnoleg – Ydych chi’n barod i ‘ddiffodd’?
9 Rhagfyr 2020Mae ein perthynas â thechnoleg ddigidol a’r amgylchedd ar-lein yn teimlo bron yn naturiol erbyn hyn. Mewn termau real, fodd bynnag, mae hwn yn welliant eithaf newydd i’n bywydau bob dydd. Mewn dim ond ychydig o ddegawdau, daeth i mewn i’n bywydau a’u newid, heb sylwi ar y newid bron. Mae llawer ohonom yn cofio signal deialu poenus o araf wrth gysylltu â’r Rhyngrwyd yn yr 1990au, gan ddilyn gyda rhannu gwybodaeth yn raddol drwy ddisgiau hyblyg, CD-ROMau neu ffyn USB gan ddefnyddio’r enwog fotwm arbed ‘go iawn’, gan barhau gyda sgyrsiau a thapiau gan ddefnyddio apiau cynnar amrywiol sy’n canolbwyntio ar ateb anghenion cyffredin defnyddwyr; symud ymlaen i’r chwyldro cyfathrebu gan ddefnyddio cysylltiad Bluetooth, negeseuon siarad-i-destun a rhybuddion cyfryngau cymdeithasol. Yn sydyn daeth sgyrsiau yn hwyl; fe wnaethon ni droi at ddefnyddio emojis, gifs a memes (a bitmojies). Ond allwn ni ddim atal y cynnydd ac rydyn ni wedi dechrau cyfnod y cysylltiad wyneb yn wyneb, bron yn siarad. Skype, Zoom, WhatsApp, FaceTime, ffrydio byw drwy Teams neu ddarlledu diolch i Vimeo Live – caniataodd yr holl ddatblygiadau hyn i ni ymuno yn ymarferol, daethant â gwelliannau anhygoel o ddarlledu ein cynnwys ein hunain, gan swyno a boddhau cynulleidfa o bob cwr o’r byd. Bron yn naturiol, heb gymeradwyaeth gref, symudodd y tueddiadau craff yn y cwmwl i’n bywydau bob dydd. Mae’r Rhyngrwyd Pethau (IoT) yn cael ei weld bron fel ‘glud’ i rwydwaith o ddyfeisiau ‘clyfar’ ffisegol sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd ac yn gallu cyfnewid data er ein lles ni. Mae cysylltiad ym mhobman. Ni allwn ei ddianc. Ond ble mae’n ein harwain – yn enwedig ar ôl digwyddiadau diweddar o bandemig byd-eang?
Ni fu mwy o angen erioed o’r blaen i gael saib o’r holl sŵn technolegol nag yn awr. Daeth dechrau 2020 â gwahanol ffyrdd i’n gweithgareddau a’n bywydau o ddydd i ddydd tra ein bod yn dal i geisio deall y cytgord priodol ac iach rhwng bywyd proffesiynol-preifat (sy’n digwydd yn bennaf o ddiogelwch ein cartrefi ein hunain i lawer ohonom). Nid yw’r hyn a elwir yn gydbwysedd bywyd-gwaith erioed wedi bod mor bwysig â hyn ac eto, ni fu erioed mor anodd gwahanu un oddi wrth y llall.
Daeth gweithio o bell yn norm newydd ac yn ddisgwyliedig bron mewn llawer o achosion. Mae’r ffenomen newydd yma i aros; ond ydyn ni’n wirioneddol barod i ymrwymo i’n bywyd gweithio o bell? Ydyn ni wirioneddol yn derbyn y ffyrdd newydd o ddelio â’n materion gwaith, busnesau personol, neu hyd yn oed berthnasoedd rhamantus?
Yn yr un modd ag unrhyw berthynas a chyswllt, rydym yn galw am fyfyrio ac yn cwestiynu ein hunain faint rydym yn dibynnu ar dechnoleg ddigidol ac, yn y pen draw, pwy sy’n rheoli?
Gan weithio ar y blog hwn gyda fy nghydweithwyr yn y Ganolfan, rydym yn cynnig pum awgrym i leihau’r defnydd o dechnoleg yn ein bywydau bob dydd:
1. Ydych chi’n barod i ddiffodd?
Edrychwch i mewn i’ch perthynas â thechnoleg ddigidol. Rydyn ni wedi bod yn gofyn yr un cwestiwn yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf oherwydd yr hyn rydyn ni’n meddwl sy’n bwysig yma. Beth yw effaith technoleg a sut mae’n effeithio arnom ni? Felly, mae ein hymwybyddiaeth o faint o amser rydyn ni’n ei dreulio yn ‘cysylltu’ ac wedi ‘gludo’ â’r sgriniau, yn hunan-daith i gydnabod y pethau cadarnhaol a negyddol am dechnoleg a’i heffaith arnom ni.
I wirio’ch ymddygiad digidol, gofynnwch y cwestiynau hyn i’ch hun:
- Ydw i’n newid rhwng sgriniau (hyd yn oed os ydw i fod i gael amser i ffwrdd o’r sgrin)?
- Ydw i’n tynnu sylw oddi wrth sgyrsiau neu ddigwyddiadau bywyd go iawn?
- Ydw i’n aros i fyny yn hwyrach nag y dylwn i oherwydd fy mod i’n monitro e-byst gwaith ac yn ymateb i negeseuon?
- Ydw i’n colli trywydd amser pan rydw i ar fy ffôn / gliniadur?
- Ydw i’n teimlo’n flinedig ar ôl gormod o amser wrth y sgrin – yn gorfforol ac yn feddyliol?
2. A oes rhywbeth yn ymyrryd arnoch drwy’r amser?
Yn ôl Larry Rosen, gall ein hymennydd gymryd tua 20 munud i ailffocysu ar ôl ymyrraeth (mae Larry Rosen yn athro seicoleg ym Mhrifysgol Talaith California ac yn gyd-awdur The Distracted Mind ). Yr hyn sy’n allweddol yma yw cadw ffocws – peidiwch â gadael i synau eich ffôn, rhybuddion, galwadau a digwyddiadau calendr dynnu eich sylw. Lluniwyd hysbysiadau a chyhoeddiadau i dynnu ein sylw.
I wirio’ch ymddygiad digidol, gofynnwch y cwestiynau hyn i’ch hun:
- A oes angen i mi edrych ar fy ffôn ar unwaith os caf hysbysiad?
- A yw fy nefnydd o dechnoleg yn effeithio ar fy mherthnasau agos?
- A yw ffrydiau rwy’n eu dilyn yn tynnu fy sylw (pynciau a straeon y mae gen i ddiddordeb ynddynt)?
- A ydw i’n ymwybodol o sut rydw i’n teimlo ar ôl i gyfryngau cymdeithasol dynnu fy sylw?
- Ydw i’n gwirio hysbysiadau ar fy nyfais bersonol yn rheolaidd yn ystod amser gwaith? I’r gwrthwyneb, a ydw i’n cael hysbysiadau gwaith yn ystod amser ymlacio?
3. Ydych chi’n parchu’ch hun?
Yn yr amseroedd hyn o weithio o bell a gweithio o gartref, gall fod yn anodd cymryd egwyliau a pheidio â theimlo’n euog am gymryd amser i ffwrdd o’r sgrin. Beth sy’n hanfodol yma i feddwl amdano? Cymerwch egwyliau’n rheolaidd! Gall cymryd egwyliau afreolaidd a pheidio â dilyn diet bwyd a diod iach arwain at oblygiadau iechyd difrifol. Cur pen, blinder, patrwm cysgu wedi’i dorri, golwg yr effeithir arno neu gyhyrau gwannach – mae’r holl effeithiau negyddol hyn a llawer o symptomau eraill wedi’u cysylltu’n uniongyrchol â defnyddio technoleg.
I wirio’ch ymddygiad digidol, gofynnwch y cwestiynau hyn i’ch hun:
- Ydw i’n colli cinio neu’n gweithio oriau estynedig gan fy mod yn poeni y byddaf yn colli e-bost pwysig, neu na fyddaf yn gorffen tasg?
- Ydw i’n teimlo fy mod i’n colli rhywbeth pwysig yn y gwaith os nad ydw i’n cadw llygad ar fy ffôn yn ystod fy egwyliau?
- Ydw i’n dioddef o ‘flinder Zoom’ a ‘gorbryder Teams’?
- Ydw i’n teimlo fy mod wedi fy llethu gan faint o wybodaeth rwy’n ei derbyn?
4. Yr amgylchedd, yr amgylchedd, yr amgylchedd – y lle iawn a’r amser iawn?
Diolch byth, nid yw’r cyfan yn negyddol. Mae defnyddiau cadarnhaol o dechnoleg ar gyfer ein hiechyd, gwaith, addysg a hwyl wedi ffynnu yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae’r amgylchedd digidol yn cynnig llawer o fanteision i’n lleoliadau gwaith. Mae’n bwysig sicrhau ein bod yn dod o hyd i’r cydbwysedd cywir wrth ei ddefnyddio heb deimlo’n bryderus na’n ofidus – gan ddefnyddio’r dechnoleg gywir, ar yr amser a’r lle cywir. Canolbwyntiwch ar swyddi yn ystod y dydd ac ymlaciwch i ailgysylltu â’ch teulu a’ch ffrindiau gyda’r nos. Mae olrhain ein hamser ar y sgrin bob amser yn syniad da. Heb fawr o help gan apiau trydydd parti (megis Moment (iOS), Flipd (iOS ac Android), QualityTime (Android) neu Forest (iOS ac Android)), gallwn atal effeithiau niweidiol cyfryngau cymdeithasol a gwefannau rhwydweithio digidol. Mae hefyd yn bwysig creu diwylliant gwaith lle mae disgwyliadau’n cael eu rheoli’n dda. Mae ymatebion ar unwaith ac argaeledd ar y sgrin am 8 awr y dydd yn amhosibl. Mae angen i ni gael cyfle i gael amser i ganolbwyntio a meddwl heb ymyrraeth ddigidol.
I wirio’ch ymddygiad digidol, gofynnwch y cwestiynau hyn i’ch hun:
- Ydw i’n trefnu galwadau un ar ôl y llall?
- Ydw i’n amldasgio tra mewn cyfarfod?
- Ydw i’n caniatáu amser i feddwl?
- Ydw i’n defnyddio’r dechnoleg gywir i wneud fy swydd yn y ffordd fwyaf effeithiol a gorau posib?
- A yw fy amgylchedd gwaith yn gytbwys? Ydw i’n gyffyrddus â’r amgylchedd technoleg hwn a sefydlwyd?
- Ydw i’n creu digon o barthau ac amseroedd di-ddyfais?
5. Awyr iach, yr awyr agored gwych a thechnoleg glyfar – Beth nesaf?
Fe wnaethom fabwysiadu’r model gweithio hyblyg, h.y. gweithio o gartref, yn gyflym iawn heb feddwl am yr effeithiau hirdymor mewn gwirionedd. Nid yw treulio amser rhwng pedair wal drwy’r dydd yn iach nac yn dda i’n lles. Mae yna lawer o fanteision iechyd profedig o fod yn yr awyr agored. Mae bod y tu allan mewn golau naturiol yn newid ein hwyliau a’n teimladau ar unwaith. Gall gweithgaredd corfforol rheolaidd mewn natur hybu ein gwytnwch a helpu gyda sawl math o broblemau iechyd meddwl. Diffoddwch offer yn amlach, cyflawnwch ganlyniadau gwych.
I wirio’ch ymddygiad digidol, gofynnwch y cwestiynau hyn i’ch hun:
- Ydw i’n cael digon o awyr iach yn ystod fy niwrnod gwaith?
- Ydw i’n symud yn rheolaidd yn ystod fy oriau gwaith?
- Ydw i’n cymryd rhan mewn ‘siestas digidol’, h.y. amser pan na chaniateir cyfarfodydd digidol?
- Ydw i’n bwyta / yfed yn rheolaidd?
- Ydw i’n cadw mewn cysylltiad ag eraill y tu allan i’m horiau gwaith?
Ystyriaeth a chasgliad
Beth yw ymwybyddiaeth ofalgar ddigidol? Daethom mor bell â hyn ac eto rydym yn gwybod cyn lleied am fod yn ddigidol ystyriol. Rydym ni (yn y ganolfan) yn teimlo bod gwella ein lles a’n hapusrwydd yn ffactor allweddol i’n cydberthnasau gwaith gwych. Fe wnaethon ni greu amgylchedd sy’n cael ei gefnogi gan ymddiriedaeth, wedi’i wella gan ddull gonest, a’i arwain gan ysbryd tîm.
Gobeithiwn fod y blog hwn wedi rhoi rhywbeth i chi ei ystyried, gan ganiatáu i chi fyfyrio ar eich arferion gyda’r amgylchedd digidol yn ystod 2020 a sut y gallwch edrych ar newid eich arferion yn y Flwyddyn Newydd. Gan ystyried yr ystyriaethau hyn, gobeithiwn y byddwch yn llwyddo i gael egwyl hamddenol, gan gymryd peth amser haeddiannol i ffwrdd o’r sgrin.
Ysgrifennwyd gan Marianna Majzonova a’r Tîm Addysg Ddigidol yn CCAA
Cyfeiriad:
https://www.liebertpub.com/doi/abs/10.1089/cyber.2019.0578
https://www.futurelearn.com/courses/digital-wellbeing
https://www.discovertec.com/blog/evolution-of-technology
https://tech.co/news/negative-effects-of-technology-bodies-2019-07
https://www.healthline.com/health/negative-effects-of-technology
https://digitalwellbeing.org/about/
https://thewellbeingthesis.org.uk/foundations-for-success/digital-wellbeing-how-to-have-a-healthy-digital-diet/
https://www.mind.org.uk/information-support/tips-for-everyday-living/nature-and-mental-health/how-nature-benefits-mental-health/
https://wellbeing.google/