Defnyddio LinkedIn Learning fel myfyriwr
12 Mai 2021Mae un o’n Hyrwyddwyr Myfyrwyr yn siarad am eu profiad o ddefnyddio LinkedIn Learning a’r cyrsiau y byddent yn eu hargymell i fyfyrwyr eraill.
Dywedwch wrthym beth yw eich enw, pa gwrs rydych yn ei wneud ac ym mha flwyddyn astudio ydych ar hyn o bryd.
Uzair yw fy enw i, ac rwyf yn fy nhrydedd flwyddyn o astudio Meddygaeth yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Rwy’n dod o Birmingham yn wreiddiol.
Pryd dechreuoch chi ddefnyddio LinkedIn Learning?
Dechreuais ddefnyddio LinkedIn Learning tua thri mis yn ôl pan gefais fy nghyflwyno i’r platfform fel hyrwyddwr myfyrwyr.
Ar gyfer beth rydych yn defnyddio LinkedIn Learning?
Rwyf wedi defnyddio LinkedIn Learning i gael syniadau ar gyfer datblygu fy sgiliau cyflwyno â PowerPoint wrth baratoi ar gyfer cyflwyno prosiect fel rhan o’m cwrs.
Defnyddiais gyrsiau LinkedIn Learning i ddysgu sut i ddewis cynlluniau lliw da a fyddai’n addas ar gyfer unigolion lliwddall. Er enghraifft, dysgais osgoi cyfuniadau lliw sy’n cynnwys glas a choch, yn ogystal â sut i newid maint y ffont i hoelio sylw’r gynulleidfa.
Defnyddiais LinkedIn Learning hefyd i ddatblygu fy nealltwriaeth o fformatio yn nhaenlenni Excel cyn gweithio ar brosiect a oedd yn gofyn defnyddio Microsoft Excel yn helaeth. Dysgais sut i fewnbynnu data’n fwy effeithlon, a datblygais hefyd fy nealltwriaeth o fformatio amodol.
Beth yw’r cwrs gorau rydych wedi’i wneud ar LinkedIn Learning?
Y cwrs gorau i mi ei wneud ar LinkedIn Learning oedd cwrs ar bwysigrwydd pendantrwydd a sut i fod yn bendant yn effeithiol ond yn barchus ac yn ystyriol ar yr un pryd. Tynnodd sylw at bwysigrwydd mynegi eich hun mewn ffordd glir a chydlynol a manteision pendantrwydd o ran lleihau gorbryder cronig sy’n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau.
Ar ben hynny, dangosodd y cwrs sut y gallwch ddefnyddio’r sgìl hwn yn eich bywyd personol yn ogystal â’ch bywyd proffesiynol a bod pendantrwydd hefyd yn datblygu sgiliau arwain.
Pa gyrsiau rydych yn eu hargymell i’ch cydfyfyrwyr?
‘Managing your jobseeker mindset!’ – mae’r cwrs hwn yn dangos i chi sut i wella eich hunanhyder dros amser er mwyn gwneud argraff gadarnhaol ar bobl wrth i chi chwilio am swydd, yn ogystal â sut i osgoi bychanu eich hun.
‘Learning personal branding’ – mae’r cwrs hwn egluro pwysigrwydd creu persona unigryw a phroffesiynol sy’n tynnu sylw at eich profiad a’ch nodweddion proffesiynol er mwyn gwella eich presenoldeb proffesiynol ar-lein.
‘How to rock an interview’ – mae’r podlediad hwn yn cynnig awgrymiadau a syniadau gwych ar gyfer datblygu eich hyder a’ch brwdfrydedd mewn cyfweliad wrth i chi chwilio am swydd.
Yn eich barn chi, pam mae’n bwysig bod myfyrwyr yn defnyddio’r adnodd hwn?
Mae LinkedIn Learning yn adnodd sydd ar gael am ddim tra byddwch yn un o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Mae’r adnodd yn cynnwys miloedd o gyrsiau sydd wedi’u fetio a’u sicrhau o ran ansawdd, ac mae’r cyrsiau hynny’n gwneud gwahanol bethau fel eich helpu i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol, eich helpu i reoli arian a rhoi cyngor ar ddechrau busnes bach.
Gall y platfform hwn eich helpu i wella ansawdd eich gwaith academaidd, yn ogystal â’ch helpu i chwilio am swydd a rhoi cyfweliad. Yn y bôn, mae ar gael yn rhad ac am ddim, a gall gyfrannu at eich datblygiad cyfannol!