Skip to main content

Addysg Ddigidol

Cynhadledd Gaeaf Cymdeithas Technoleg Dysgu 2020, blog 3

15 Chwefror 2021

Diweddariadau o Gynhadledd Gaeaf Ar-lein ALT 2020

O ystyried bod Cynhadledd Gaeaf Ar-lein y Gymdeithas Technoleg Dysgu (ALT) wedi’i chynnal yn ddiwedd 2020, nid oedd yn syndod bod nifer o sesiynau’r gynhadledd yn uniongyrchol gysylltiedig â’r newid i ddysgu ar-lein o ganlyniad i’r pandemig.

Yn y diweddariad terfynol hwn o’r gynhadledd, edrychwn ar rai o’r sesiynau a oedd yn myfyrio ar y datblygiadau sylweddol a ddigwyddodd ar draws y sector yn ystod 2020, gan gynnwys sut mae sefydliadau’n symud y tu hwnt i ddarpariaeth frys i ddatblygu eu dull gweithredu er mwyn bodloni gofynion ein normal newydd, lle ceir llawer mwy o bwyslais ar ddysgu ac asesu digidol.

Mae holl recordiadau sesiynau’r gynhadledd bellach ar gael ar-lein: https://altc.alt.ac.uk/online2020/resources-page/


Addysg Ddigidol – y tu hwnt i’r argyfwng

Symud y tu hwnt i ddarpariaeth frys ym Mhrifysgol Sydney

Ategodd y cyflwyniad gan Ysgol Busnes Prifysgol Sydney raddfa a natur fyd-eang yr heriau sy’n wynebu prifysgolion o ran y newid i ddysgu ar-lein yn ystod 2020. Yn Sydney, gwnaethant ystyried y newidiadau dros y flwyddyn ddiwethaf, nid yn unig yn nhermau rheoli’r sefyllfa a’r ymateb brys cychwynnol, ond fel cyfle i ail-ddychmygu’r profiadau dysgu ar gyfer byd ar ôl yr argyfwng.

Amlygodd arolwg o’u staff, er eu bod yn hapus i ddefnyddio Zoom a’r VLE, ei bod hi’n fwy heriol newid i ddefnyddio technegau ac offer technoleg dysgu newydd sy’n fwy addas ar gyfer amgylchedd digidol yn hytrach na cheisio efelychu ymddygiadau presennol. Hefyd, amlygodd eu harolwg o fyfyrwyr nad oedd eu hamgylcheddau eu hunain o reidrwydd yn fannau addas na diogel ar gyfer dysgu, a sut roedd nifer o fyfyrwyr yn teimlo’n ynysig yn ystod y cyfnod cychwynnol. Dangosodd yr Ysgol sut yr eir i’r afael â’r materion hyn drwy brosiect gwella’r cwricwlwm, gan ddefnyddio dull cyd-gynllunio er mwyn addasu modiwlau i’r amgylchedd newydd a darparu arbenigedd a ffocws ychwanegol am y tymor byr.

Wrth i gynnwys fideo ddod yn fwy canolog i gyflwyno dysgu, mae Sydney wedi creu stiwdio DIY/bwth recordio (https://vimeo.com/431315176) er mwyn helpu academyddion i greu cynnwys o ansawdd uchel mewn amgylchedd tawel a rheoledig. Yr amcan yw rhoi dewis arall i staff yn lle recordio gartref a gydag offer bwrdd gwaith sylfaenol, gan ddarparu offer ychwanegol fel tabledi a theleweinyddion, wrth gydnabod nad oes angen fideos fel rhai dogfennol o’r radd flaenaf fel arfer ar gyfer addysgu a dysgu da. Yng Nghaerdydd, rydym yn gwneud rhywbeth tebyg ac yn datblygu tri bwth recordio ar draws y ddau gampws ar hyn o bryd – un yn Adeilad y Frenhines, un yn Julian Hodge ac un yn Neuadd Meirionnydd. Ariennir y lleoedd hyn gan ein cais llwyddiannus i Gronfa Buddsoddi ac Adfer Addysg Uwch CCAUC ac rydym yn gobeithio y bydd ar gael i’w ddefnyddio gan staff yn ystod y misoedd nesaf. Bydd mwy o fanylion yn cael eu cynnwys yng nghylchlythyrau CCAA yn y dyfodol.


Symud y tu hwnt i ddarpariaeth frys ym Mhrifysgol Caeredin

Ym Mhrifysgol Caeredin, ystyriwyd y newidiadau a oedd yn ofynnol yn ystod 2020 o ran pobl, ymarfer a pholisi – a symud eu darpariaeth i ddysgu cymysg, gan ddefnyddio eu profiad yng Nghaeredin o ddatblygu darpariaeth sy’n gyfan gwbl ar-lein. Defnyddiwyd eu prosiect ‘Learn Foundations’ presennol fel y cyfrwng i gyflwyno’r newid i ddysgu cymysg. Mae hwn yn brosiect mewnol 3 blynedd i sefydlu templed cyson o fewn eu cyrsiau VLE a throsglwyddo ar raddfa.

Amlinellodd myfyriwr Cyfrifiadureg yn ei drydedd flwyddyn, sy’n un o 47 o interniaid myfyrwyr a gyflogwyd gan Gaeredin yn ystod Mehefin-Medi 2020, sut roedd yn rhan o’r prosiect i drosglwyddo cyrsiau mewn cydweithrediad â staff academaidd; mapio cyrsiau; adolygu hygyrchedd; a rhoi capsiynau ac isdeitlau ar fideos. Yn ogystal â darparu capasiti ychwanegol ar gyfer y prosiect, roedd y myfyrwyr hefyd yn gallu ychwanegu eu profiad penodol o ddefnyddio’r VLE o safbwynt myfyriwr, a darparu mewnwelediadau gwerthfawr i’r hyn sy’n gweithio, a’r hyn nad yw’n gweithio, ar draws ystod eang o feysydd pynciau gwahanol. Yng Nghaerdydd, yn ystod haf 2021, mae CCAA yn treialu cynllun lleoliadau myfyrwyr addysg ddigidol. Bydd y cynllun hwn yn galluogi ein myfyrwyr i ymgymryd â lleoliad gwaith â thâl ochr yn ochr â staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol i gyflwyno prosiect addysg ddigidol arloesol. Mae hwn yn gyfle gwych i staff weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr i gyflwyno prosiect ar ddiwedd y flwyddyn fwyaf eithriadol mewn addysg uwch. Cadwch lygad am ragor o ddiweddariadau mewn blogiau yn y dyfodol.


“Hen win mewn poteli newydd” – credoau addysgegol academyddion a symud ar-lein

Amlygodd tîm Prifysgol Dinas Dulyn (DCU) sut y gwnaethant ymateb i’r pandemig, gan symud o ddarpariaeth frys i un a gynlluniwyd; gan arolygu myfyrwyr a staff; datblygu eu hegwyddorion dysgu cymysg; buddsoddi mewn seilwaith TG; a sefydlu’r uned newydd i gefnogi’r staff academaidd wrth iddynt symud ar-lein. Ym mis Gorffennaf 2020, sefydlwyd Uned Dylunio Dysgu Digidol newydd yn DCU, gan ddarparu newid sylweddol o ran yr adnoddau sydd eu hangen i alluogi’r gwaith hwn.

Mae’r Uned yn darparu cymorth dylunio dysgu i academyddion, modiwlau a rhaglenni – a ddarperir i ddechrau fel sbrintiau 2 ddiwrnod gan ddefnyddio dull ABC o ddylunio dysgu, sef y dull a ddefnyddir yng Nghaerdydd hefyd. Mae’r dull yn DCU bellach wedi esblygu i fod yn ddull wedi’i deilwra yn fwy ar draws y brifysgol gyda’r Uned bellach yn darparu cefnogaeth gydag ymgynghoriadau dylunio un i un; ailgynllunio modiwlau; a dylunio a datblygu modiwlau newydd.


Casgliadau

Roedd yn amlwg o sesiynau’r gynhadledd bod y rhan fwyaf o brifysgolion yn wynebu heriau tebyg o ran yr ymateb brys cychwynnol. Mae’n amlwg hefyd bod ysgogiad i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn i ystyried sut y gellir gwella’r model addysg ddigidol ymhellach, gan gynnwys defnyddio technolegau dysgu yn effeithiol sy’n manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a’r hyblygrwydd a ddarperir gan ddysgu ac asesu ar-lein, yn hytrach na cheisio ailadrodd y dulliau a’r prosesau presennol. Yng Nghaerdydd, caiff hyn ei alluogi drwy’r Fframwaith Dysgu Digidol, sydd wedi’i gyd-greu gydag Ysgolion i sicrhau bod pob modiwl yn darparu profiad dysgu cyson o ansawdd uchel i’n holl fyfyrwyr.


Ysgrifennwyd gan Owain Huw, Rheolwr Technoleg Dysgu