Cynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021 – Ein rhaglen
22 Mehefin 2021Yn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi’r rhaglen lawn ar gyfer ein cynhadledd Dysgu ac Addysgu blynyddol 2021. Dyma ragor o wybodaeth am y sesiynau sy’n cael eu cynnal eleni a sut i gofrestru.
Bydd cynhadledd dysgu ac addysgu 2021 yn cael ei chynnal ar-lein eleni ar ddydd Iau 1 Gorffennaf (pm) a dydd Gwener 2 Gorffennaf (am).
O ystyried ein profiadau o flwyddyn eithriadol ym maes addysg uwch, bydd y gynhadledd hon yn canolbwyntio ar thema Addysg Ddigidol.
Prif araith un – Dr Tim Fawns
Ddydd Iau, 1 Gorffennaf, bydd ein haraith agoriadol yn cael ei thraddodi gan Dr Tim Fawns, Dirprwy Gyfarwyddwr y Rhaglen MSc mewn Addysg Glinigol ym Mhrifysgol Caeredin. Rhagor o wybodaeth am Tim.
Ein rhaglen llawn
Gallwch nawr lawrlwytho rhaglen y gynhadledd a phenderfynu pa sesiynau grŵp yr hoffech fynd iddynt.
Cofrestrwch ar gyfer y gynhadledd
Gallwch dal cofrestru ar gyfer y gynhadledd eleni.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gynhadledd neu’r rhaglen, e-bostiwch CESI@cardiff.ac.uk.