Cynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021- Beth Sy’n Digwydd pan Na Ellir Cynnal Digwyddiad?
29 Mehefin 2021Y Tarfu
Roedd lleoliadau gwaith yn elfen hanfodol ar ddarpariaeth yn y proffesiwn a amharwyd yn sylweddol gan bandemig covid yn ystod haf 2020. Gwnaeth canslo profiad yn y gweithle greu pryder i lawer o fyfyrwyr a staff ynghylch gallu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau ymarferol a chyflogadwyedd. Roedd hyn yn wir am fyfyrwyr a oedd yn astudio ar gyfer graddau cadwraeth Caerdydd (Archeoleg a Chrefydd yr Ysgol Hanes). Mae hyfforddiant ar gyfer gyrfa yn y sector treftadaeth fel arfer yn cynnwys treulio’r hafau yn cael profiad mewn treftadaeth ddiwylliannol hanesyddol gan ddatblygu gallu technegol, sgiliau a rhwydweithiau trawsbynciol. Gyda’r wlad mewn cyfnod clo a’n sector ar ffyrlo, roedd yn amlwg ar unwaith na allai lleoliadau traddodiadol fynd yn eu blaenau.
Dychwelyd i’r Pethau Sylfaenol
Roedd yn amlwg y byddai angen dull amgen gyda gwaith ymarferol yn amhosibl a gyda mwyafrif y sector ar ffyrlo yn cyfyngu’r potensial ar gyfer cyfleoedd ymchwil, cofnodion ac adolygu polisïau y byddai’n rhaid i ni feddwl yn wahanol. Dychwelodd Jane (Athro) a Charlotte (cyn-fyfyriwr) i’r pethau sylfaenol. Beth oedd nodau’r cynllun lleoliadau presennol, sut roeddent yn cyd-fynd â’r llenyddiaeth a pha fodelau eraill sydd ar gael mewn byd a oedd yn gweithio o bell allai fodloni rhai, os nad pob un, o’r uchelgeisiau hynny. Nid yw’r aliniad (isod) rhwng y rhaglen lleoliadau cyn covid a’r llenyddiaeth yn syndod ond nid yw o reidrwydd yn adlewyrchu disgwyliadau myfyrwyr. Yn aml, profiad ymarferol yw’r elfen sydd fwyaf gwerthfawr a’r unig elfen na allai darpariaeth ddigidol gystadlu â hi.
Cyngor Prifysgol Caerdydd | Cyngor o’r llenyddiaeth |
Gweithio ar y pwnc i ffwrdd o straen bywyd myfyrwyr gan adeiladu sgiliau technegol. | Gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth gan gynnwys sgiliau a chymwyseddau technegol penodol. |
Profi cyd-destunau gwahanol | Cynyddu eu dealltwriaeth a’u hymwybyddiaeth o fyd gwaith. |
Profi syniadau o’u graddau mewn bywyd go iawn. | Ymarfer eu gwaith dysgu a gwerthuso eu gallu i gyflawni gwaith. |
Cael gwell dealltwriaeth o’r sector a’r cyd-destun proffesiynol lle byddant efallai’n gweithio un dydd. | Treialu’r yrfa bosibl. |
Dechrau adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau proffesiynol ar gyfer eu gyrfa. | Gwella eu cyflogadwyedd. |
Magu eu hyder wrth gyflawni llawer o’r canlyniadau dysgu allweddol ar gyfer y modiwl megis deall sail foesegol eu hymarfer. | Cyflawni twf deallusol o amgylch gwybodaeth am y pwnc. |
Datblygu sgiliau rhyngbersonol o ran cyfathrebu a rhwydweithio. | Datblygu sgiliau rhyngbersonol o ran cyfathrebu a rhwydweithio. |
Cymryd cyfrifoldeb am eu gwaith. | Datblygu aeddfedrwydd, hunanymwybyddiaeth a’r gallu i fynegi sgiliau a chyflawniadau’n gynt. |
Rheoli prosiectau cymhleth a threfnu eu hamserlen waith i fodloni terfynau amser y cytunwyd arnynt. | Datblygu eu hunaniaeth eu hunain fel gweithiwr proffesiynol. |
Datblygu priodoleddau personol fel hyder, rheoli amser ac addasrwydd. |
tabl un, cyfleoedd a gynigiwyd gan leoliadau gwaith.
Dewch o hyd i’r posibiliadau
Roedd Charlotte yn hyderus y byddai cyn-fyfyrwyr yn y sector treftadaeth, sydd bellach ar ffyrlo, yn awyddus i gefnogi myfyrwyr presennol gyda llawer yn cael mwy o amser i wneud hyn nag mewn blwyddyn arferol. Wrth adolygu’r hyn yr oedd ei angen a derbyn na ellid ailgreu cyfleoedd technegol ymarferol, daeth yn amlwg y gallai mathau eraill o ddatblygiad proffesiynol ddiwallu’r anghenion y mae lleoliadau wedi’u cynllunio i’w llenwi, neu eu diwallu’n rhannol. Dyfeisiodd Charlotte gynllun mentora gan fanteisio ar gronfa o raddedigion llwyddiannus ac ymroddedig, sydd bellach mewn swyddi technegol neu swyddi rheoli, ac roedd llawer ohonynt a oedd wedi goroesi’r wasgfa gredyd yn 2007 gan ffurfio sylfaen Mentora Cadwraeth Cyfnod Clo Prifysgol Caerdydd.
Cynhaliwyd y cynllun mentora drwy gydol yr haf ac roedd yn cefnogi’r myfyrwyr a gymerodd ran i ddatblygu eu sgiliau, rhwydweithio, dealltwriaeth, ymwybyddiaeth broffesiynol a’r camau nesaf. Cafodd ei gynllunio hefyd i roi yn ôl i fentoriaid gan gynnig cyfleoedd i ymarfer a datblygu eu sgiliau eu hunain ac ehangu eu rhwydweithiau i’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes treftadaeth, gan ddarparu cysylltiad proffesiynol yn ystod cyfnod sydd wedi’i ddatgysylltu.
Sut oedd yn gweithio?
Roedd y cynllun yn anffurfiol, yn ychwanegol at y ddarpariaeth bresennol ac yn canolbwyntio ar ddatblygu cyfranogwyr fel gweithwyr proffesiynol ac unigolion. Roedd ffiniau a disgwyliadau wedi’u nodi’n glir, gyda mentoriaid a mentoreion wedi’u grymuso o’r dechrau i roi’r gorau i fentora ar unrhyw adeg.
Roedd paru mentoriaid a mentoreion yn dda yn gam cyntaf pwysig felly casglodd Charlotte wybodaeth am sgiliau pwysig, arbenigedd a’r uchelgeisiau ar gyfer mentora gan fentoriaid a mentoreion. Gofynnwyd i fentoreion lunio amlinelliad a thrafod eu nodau ar gyfer mentora gyda’u mentor mewn galwad ragarweiniol. Yna, yn annibynnol lluniodd y ddwy ochr sut y byddent yn defnyddio’r tair sesiwn fentora olaf er mwyn iddynt allu elwa orau arnynt. Ni wnaeth pawb a fynegodd ddiddordeb mewn cymryd rhan barhau â’r sesiwn fentora, gan benderfynu cyn neu ar ôl yr alwad ragarweiniol nad oedd hynny ar eu cyfer nhw. Er mwyn i’r sesiwn fentora fod yn llwyddiannus mae’n rhaid iddo gael ei arwain gan y mentorai, rhaid iddo fod yn wirfoddol, a rhaid i’r mentoreion fod yn ymrwymedig i’w ddilyn.
Beth oedd y manteision?
Yn yr ysbryd o roi yn ôl i’r proffesiwn, cadernid academaidd a deall yr hyn sy’n gweithio, roedd y broses o werthuso wedi’i hymgorffori yn y rhaglen gyda’r nod o ystyried yr effaith ar sgiliau, rhwydweithio, dealltwriaeth, ymwybyddiaeth broffesiynol a chamau nesaf y mentoreion.
Dangosodd yr adborth yn y meysydd hyn: –
- Cefnogwyd datblygu sgiliau yn effeithiol gan y rhaglen gyda mentoreion a mentoriaid yn gyson yn adrodd am effeithiau cadarnhaol sylweddol.
‘Fe wnes i fwynhau cael cyfle i deimlo’n fwy cysylltiedig â’r myfyrwyr, a gweld lle y gallaf fod yn ddefnyddiol iddynt yn y dyfodol. Hwn oedd uchafbwynt fy nghyfnod clo!’ Mentor
- Rhwydweithio a datblygu cysylltiad yw’r maes lle cafodd y rhaglen yr effaith leiaf o safbwynt y mentoreion. Mae hyn yn cyd-fynd â thystiolaeth ehangach o’r newid i ddarpariaeth ‘ar-lein’ ac mae’n fwlch y mae angen ei bontio mewn ffordd wahanol.
‘I ddechrau, doeddwn i ddim yn siŵr a oeddwn am ymuno, roedd yn teimlo fel peth arall i’w gynnal drwy alwad fideo ac roeddwn i’n colli gwaith ymarferol ac roeddwn i wedi pwdu ychydig, ac yna newidiais fy ffordd o feddwl, ac roeddwn i’n ddiolchgar iawn bod pobl eraill wedi dewis rhoi eu hamser, eu hymdrech a’u gwybodaeth a’u profiad er mwyn ein helpu ac felly canolbwyntiais ar y pethau cadarnhaol o siarad â mentor, fel gosod nodau nad oeddent yn academaidd a gwnaeth hyn fy helpu i edrych y tu hwnt i’r newidiadau i’r asesiadau a’r traethawd hir.’ Mentoreion
- Cefnogwyd datblygu dealltwriaeth bellach yn effeithiol gan y rhaglen gyda mentoreion a mentoriaid yn gyson yn adrodd am effeithiau cadarnhaol sylweddol.
‘Rwy’n credu bod hon yn rhaglen lwyddiannus iawn i mi a fy mentorai a byddwn wrth fy modd yn ei gweld yn parhau’. Mentor
- Cefnogwyd ymwybyddiaeth broffesiynol yn effeithiol gyda chyfranogwyr yn adrodd effeithiau cadarnhaol sylweddol yn gyson gan gynnwys mewn meysydd gallu uwch fel hunanymwybyddiaeth.
‘Mae’n gynllun gwych, mae cael cynllun mentor un i un rhithwir wedi fy helpu i fagu hyder i ymgeisio am rolau swydd, ac efallai na fyddaf wedi gwneud cais am rai ohonynt hebddo.’ Mentoreion
- Nodwyd bod y camau nesaf yn cael eu cefnogi’n effeithiol gan y rhaglen gyda mentoreion a mentoriaid yn gyson yn adrodd am effeithiau cadarnhaol sylweddol. Amlygodd ymatebion testun rhydd hyn fel maes i’w ddatblygu ymhellach a chredwn y gellir mynd i’r afael ag ef drwy sesiynau briffio mwy strwythuredig ar rôl arweiniol y mentorai.
‘Hoffwn gael cynllun “camau nesaf” mwy strwythuredig neu ryw gyswllt at ymgysylltiad pellach drwy’r berthynas mentora, ond rwy’n credu yn fy achos i roedd hynny’n teimlo’n amherthnasol o gymharu â’r angen mwy brys o ganolbwyntio ar lunio traethawd hir ar gyfer yr MSc’ Mentorai
Gwelwyd manteision y tu hwnt i’r mesurau craidd gyda mentoreion yn gwerthfawrogi cefnogaeth academaidd a bugeiliol, gan gynnwys yr olwg o’r tu mewn ar y newid i gyflogaeth. Roedd y manteision i fentoriaid hefyd yn sylweddol, gan gynnwys cysylltu â’r gymuned, dod i gysylltiad ag egni a brwdfrydedd gweithiwr proffesiynol sy’n dod i’r amlwg a’r boddhad sy’n gysylltiedig â chefnogi eraill i ddatblygu a magu hyder.
Gwersi a ddysgwyd a’r camau nesaf
Roedd mentora yn gallu darparu cefnogaeth mewn cyfnod roeddem i gyd yn teimlo’n ynysig ac yn ansicr. Gall lenwi rhai o’r bylchau i’r rheini mewn hyfforddiant y mae’r cyfnodau clo a dysgu o bell yn eu creu a gall roi’r un faint yn ôl i fentoriaid. Serch hynny, nododd myfyrwyr nad oedd yn disodli profiad ymarferol er ei fod yn ychwanegu at eu profiadau fel myfyrwyr.
Oherwydd bod gwerth ychwanegol clir y cynlluniau, buom yn gweithio gydag ICON, ein corff proffesiynol, i gefnogi a datblygu cynllun ledled y DU ar gyfer mentora myfyrwyr a ariennir gan y corff proffesiynol drwy gyllid torfol (https://www.icon.org.uk/resource/student-mentorship-membership-grant.html ) . Mae bellach yn cael ei gyflwyno’n genedlaethol.
Fel ysgol a fydd yn parhau i ddarparu lleoliadau mewn cadwraeth byddwn yn gweithio’n wahanol gyda’n myfyrwyr. Mae’n amlwg o ddiffyg ymwybyddiaeth gychwynnol y myfyriwr o ddibenion ehangach lleoliadau a’r budd amlwg a ddeilliodd o fentora bod angen i’n mesurau llwyddiant a chyfathrebu ar gyfer y math hwn o ddarpariaeth nodi’r manteision hyn yn fwy penodol. Mae angen i’n haddysgeg ysgogi gallu technegol wrth sicrhau ymgysylltiad â datblygiad personol ehangach.
Cyfeiriadau
Inceoglu Ilke, Eva Selenko, Almuth McDowall, Svenja Schlachter, ‘(How) Do work placements work? Scrutinizing the quantitative evidence for a theory-driven future research agenda’, Journal of Vocational Behavior, Cyfrol 110, Rhan B, 2019, Tudalennau 317-337,
y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Prifysgolion a Busnes (NCUB), ‘What are the benefits of a quality placement?’ https://www.ncub.co.uk/placements-report/the-benefits-of-a-high-quality-placement.html
Little, Brenda a Lee Harvey ‘LEARNING THROUGH WORK PLACEMENTS AND BEYOND’ Awst, 2006 ‘A report for HECSU and the Higher Education Academy’s Work Placements Organisation Forum’ https://hecsu.ac.uk/assets/assets/documents/Learning_through_work_placements_and_beyond.pdf
Ffigur 1
Katherine List ar leoliad gwaith blaenorol ym Mharc Treftadaeth Rhondda, Mai – Mehefin 2019, mae Katherine yn gweithio yn yr oriel yn adfer paent sy’n naddu ar faddon meddygol.
Ffig 2 Charlotte Lester Cynfyfyriwr a chydlynydd prosiect
Ffig 3
Jane Henderson yn addysgu cadwraeth
Bydd y gwaith hwn yn cael ei gyflwyno am 12:15pm ddydd Gwener 2 Gorffennaf yn ystod Cynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021. Cofrestrwch ar gyfer y gynhadledd
Gan Charlotte Lester Jane Henderson a Katherine List