Cydweithio i ategu addysg ddigidol
7 Hydref 2020Mae chwe mis wedi pasio ers i’r Brifysgol ymaddasu ar-lein mewn ymateb i COVID-19, ac ers sylweddoli am y tro cyntaf y byddai gwedd wahanol iawn ar ddysgu ac addysgu yn y dyfodol rhagweladwy. Gwnaeth penderfyniad y Brifysgol i newid i fodel cyfunol o addysgu godi llawer o heriau, ac mewn ymateb, gwnaeth dros 200 o gydweithwyr o ledled y Brifysgol roi eu harbenigeddau at ei gilydd i fynd i’r afael â’r broblem.
Un deilliant a ddaeth i bawb o’r cydweithrediad enfawr hwn oedd Gwasanaeth Cefnogi Addysg Ddigidol i helpu staff academaidd i baratoi ar gyfer eu haddysg ar-lein. Daeth y gwasanaeth ag arbenigwyr technoleg ddysgu o ledled y Brifysgol ynghyd yn un tîm, sydd wedi bod yn gweithio’n rhagweithiol gydag ysgolion i gynghori a chefnogi timau addysgu yn eu paratoad ar gyfer darpariaeth gyfunol. Hefyd, mae’r tîm wedi bod yn cyflwyno hyfforddiant ar y cyd ym mhob un o’r prif adnoddau dysgu digidol, gan gynnwys Dysgu Canolog, Panopto, Zoom a Collaborate. Mae llawer o’r hyfforddiant wedi’i gyflwyno mewn sesiynau cydamserol byw, yn ogystal â thrwy weithdai rhithwir anghydamserol. Gall y staff weithio drwy’r rhain wrth eu pwysau, gyda chyfle i drefnu slot gydag arbenigwr technoleg ddysgu i drafod heriau penodol gallen nhw eu rhagweld.
Rhagor o wybodaeth am y sesiynau hyfforddiant anghydamserol a chydamserol
Ar ben hynny, sefydlwyd “desg wasanaethu” addysg ddigidol i roi cefnogaeth dros y ffôn ac ebost, gyda chydweithwyr yn gwirfoddoli o’r Swyddfa Rheoli Rhaglenni (PMO) a’n Gwasanaethau Llyfrgell i ymateb i geisiadau am gefnogaeth. Gall gwirfoddolwyr y ddesg wasanaethu gyfeirio cleientiaid at adnoddau ar-lein yn ogystal â chyfeirio ymholiadau at naill ai gefnogaeth dechnegol a gynigir gan wasanaethau TG, neu arbenigwr technoleg ddysgu am gyngor ynghylch ymarfer addysgu ac addysgeg. Ers ei lansio ar ddechrau mis Awst, mae’r ddesg wasanaethu wedi delio â thros 200 o geisiadau am gymorth, ac fel y disgwylir, mae’r galw’n cynyddu’n gyflym gan fod y tymor wedi dechrau.
Rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Cefnogi Addysg Ddigidol
Ein camau nesaf yw mynd drwy ddechrau’r tymor gyda chyn lleied o anawsterau â phosibl. Yna, cyn gynted ag y gallwn ni, byddwn yn dadansoddi ein sefyllfa, dysgu o’r hyn weithiodd yn dda ac yn ddrwg, a chynllunio am wasanaeth cynaliadwy tymor hir i gefnogi addysg ddigidol yn y dyfodol, ni waeth sut wedd fydd arno.
Un myfyrdod terfynol i gloi. Mae COVID-19 wedi codi cymaint o heriau personol a sefydliadol, ond os ydym ni’n cofio un peth cadarnhaol o’r chwe mis diwethaf yng Nghaerdydd, y ffordd y mae cydweithwyr ar draws y Brifysgol wedi camu i’r adwy i fynd i’r afael â’r her, cydweithio ar draws pob rôl, gradd a disgybl a datrys problemau a ymddangosai’n anesgynadwy fyddai hynny.
Ysgrifennwyd gan Tony Lancaster, Rheolwr Addysg Ddigidol