Skip to main content

Ymgysylltu a myfyrwyr

Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer cyfathrebu â myfyrwyr

4 Chwefror 2021
Image of happy asian woman 20s wearing white shirt smiling and w

Mae’r ffordd rydych chi’n siarad â myfyrwyr yn dylanwadu ar y ffordd maen nhw’n derbyn eich negeseuon

Mae cyfathrebu, sy’n hanfodol ar gyfer ymgysylltiad cadarnhaol â myfyrwyr, yn digwydd gyda’r derbynnydd, nid yr anfonwr – felly sut allwch chi sicrhau eich bod chi’n cyrraedd myfyrwyr mewn gwirionedd?


Cadwch bopeth yn syml

Ysgrifennwch negeseuon clir, byr. Defnyddiwch frawddegau clir a byr.

Edrychwch ar ein canllawiau ar gyfathrebu mewn cyfnodau o newid.

Siaradwch yn bersonol

Y ffordd gyflymaf a mwyaf effeithiol o gyfathrebu â myfyrwyr yw siarad â nhw, p’un ai trwy alwad fideo neu sesiwn all-lein lle rydych chi’n cwrdd wyneb yn wyneb.

Gwahodd ymateb

Efallai eich bod chi’n meddwl eich bod wedi cyfathrebu rhywbeth yn glir, ond oni bai eich bod chi’n gofyn i’r person rydych chi wedi rhannu’r wybodaeth ag ef, nid ydych chi’n gwybod yn sicr a ydyw wedi deall eich neges.

  • Gwnewch yn siŵr eu bod nhw’n gallu rhoi gwybod i chi a ydyn nhw wedi deall y neges.
  • Gwnewch yn siŵr ei bod hi’n hawdd iddynt gysylltu â chi os oes ganddyn nhw ymholiadau.

Cofiwch ei rannu

Rhowch negeseuon allweddol ar wahanol blatfformau. Nid ydych chi’n gwybod pa mor llwyddiannus yw unrhyw sianel unigol. Os ydych chi wedi ebostio neges, soniwch amdani yn y dosbarth hefyd; os yw ar sgrin arddangos, defnyddiwch Dysgu Canolog i’w rhannu eto.

Camau dilynol

Rhowch negeseuon fwy nag unwaith, a dilynwch gydag unrhyw newyddion sy’n cyfeirio at y neges wreiddiol.

Gweler ein canllaw ar sut i gau’r cylch adborth gyda myfyrwyr.

Creu amserlen

Amlinellwch gynllun ar gyfer cyfathrebu rheolaidd – bob dydd Iau, unwaith y mis, unwaith bob pythefnos – a chadwch ato. Hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw newyddion, rhowch neges i ddweud nad oes diweddariadau. Gorffennwch negeseuon trwy ddweud wrth bobl pryd y byddwch yn cysylltu nesaf.

Byddwch yn ddymunol

Byddwch yn fwy calonogol wrth fod yn ddymunol. Darllenwch eich ebyst yn uchel – os nad yw’n debyg i rywbeth y byddech chi’n ei ddweud mewn sgwrs, mae angen i chi ei olygu.

Adnabod eich cynulleidfa

Addaswch eich dull cyfathrebu i bwy bynnag rydych chi’n siarad â nhw. Israddedigion, myfyrwyr newydd, myfyrwyr sy’n dychwelyd, ôl-raddedigion, myfyrwyr ymchwil, myfyrwyr lleoliad: bydd ganddynt bryderon gwahanol.

I gael cefnogaeth gydag ymgysylltu â myfyrwyr a rhoi gwybod am newidiadau, cysylltwch â’r tîm ar studentengagement@caerdydd.ac.uk.