Addysg gynhwysol: sut rydym yn galluogi pob myfyriwr i wireddu ei botensial?
12 Rhagfyr 2022Gan Dr Ceri Morris, Darlithydd mewn Datblygiad Addysg.
Un o’r pethau gorau am arwain y rhaglenni cymrodoriaeth ar ran Academi Dysgu ac Addysgu Prifysgol Caerdydd yw’r sgyrsiau gyda’r rhai sy’n cymryd rhan, lle maent yn ymchwilio i’r cysyniadau sy’n cael eu cyflwyno ac yn eu herio… mae’r cwestiynau’n fy nghadw ar flaenau fy nhraed!
Ym mhob gweithdy, rydym yn cymryd rhan mewn trafodaethau bywiog ynghylch dysgu ac addysgu ar draws disgyblaethau a rolau, sy’n sicrhau ein bod yn parhau i ystyried, esbonio a gwella ein dealltwriaeth o’r cysyniadau a’r materion.
Mewn gweithdy yr wythnos hon, roeddwn yn cyflwyno egwyddorion addysg gynhwysol. Gofynnodd un person: “Beth mae ‘galluogi pob myfyriwr i wireddu ei botensial’ yn ei olygu? A ydym yn credu bod potensial yn rhywbeth na all amrywio?”. Arhosais am funud … beth yw ‘potensial’ myfyriwr? A ydym yn cymryd bod gan fyfyriwr botensial penodol (gradd derfynol, canlyniad penodol)? A oes modd gwybod beth y gallai’r potensial hwnnw fod, pan fydd myfyrwyr yn datblygu ac yn newid cymaint o ganlyniad i’w dysgu a’u profiadau yn y brifysgol?
Drwy ailgyfeirio at lenyddiaeth ar addysg gynhwysol, roedd modd i mi egluro: nid yw galluogi myfyrwyr i wireddu eu potensial, drwy ddatblygu arferion cynhwysol, yn golygu ein bod yn credu bod eu potensial yn rhywbeth na all amrywio, ac nad yw ychwaith yn golygu nad ydym am i fyfyrwyr ddatblygu’n bersonol ac yn eu disgyblaeth, o ran gwybodaeth a sgiliau. Yn hytrach, mae ymchwil a wnaed dros sawl degawd wedi dangos dro ar ôl tro, ym maes addysg uwch, bod dulliau traddodiadol o drefnu, addysgu, rhannu adnoddau ac asesu wedi atal myfyrwyr â nodweddion penodol rhag gwireddu eu potensial.
Mae Hockings (2010: 1) yn rhoi’r diffiniad hwn (wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg):
‘Mae dysgu ac addysgu cynhwysol ym maes addysg uwch yn cyfeirio at sut mae addysgeg, cwricwla ac asesiadau’n cael eu cynllunio a’u cyflwyno er mwyn cael myfyrwyr i ymwneud â dysgu sy’n ystyrlon, yn berthnasol ac yn hygyrch i bawb. Mae’n cefnogi gweld yr unigolyn a’r gwahaniaeth unigol yn ffynhonnell o amrywiaeth a all gyfoethogi bywydau a dysgu pobl eraill.’.
Ni ellir tanbrisio pwysigrwydd y frawddeg olaf honno – yn hytrach nag ystyried amrywiaeth yn her, rydym yn croesawu ac yn dathlu’r cyfoeth a’r amrywiaeth a welir yng nghymuned y brifysgol. Rydym yn gwerthfawrogi’r cyfle i fyfyrwyr (ac aelodau o’r staff) fod yn rhan o broses o gyfnewid syniadau, gwerthoedd, profiadau a diwylliannau, a all gyfoethogi profiad addysgol myfyrwyr a chymdeithas gyfan. Felly, er y gallem roi diffiniad cyfyng i ‘potensial’, sef gallu sicrhau gradd benodol, mae diffiniad Hockings yn ein galluogi i weld ystyr ehangaf y gair, sef datblygu drwy ryngweithio â phobl amrywiol eraill sy’n dod o gefndiroedd addysgol, amgylchiadol, anianol a diwylliannol gwahanol (Thomas a May, 2010).
Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod y potensial hwn yn cael ei wireddu, mae’n rhaid i ni gydnabod bod polisïau, arferion, strwythurau a chyfundrefnau dysgu ac addysgu ym maes addysg uwch yn effeithio ar fyfyrwyr â nodweddion sy’n ymwneud ag anfantais (Lawrie et al., 2017). Felly, er mwyn galluogi pob myfyriwr i wireddu ei botensial, mae angen i ni ystyried ein harferion a’u newid yn ddigonol i sicrhau bod addysg yn gynhwysol a bod pob myfyriwr, ni waeth pa nodweddion sydd ganddynt, yn cael profiad teg – nid dim ond y rhai sy’n gallu llywio ac ymwneud â’n harferion traddodiadol.
Yn rhan o’n rhaglenni cymrodoriaeth a gweithdai cynhwysiant Academi Dysgu ac Addysgu Prifysgol Caerdydd, rydym yn pellhau oddi wrth y gweithdai cynnar, a ymchwiliodd i anghydraddoldeb, allgáu ac egwyddorion addysg gynhwysol, er mwyn dechrau ymchwilio i gynllunio cynhwysol a chyffredinol ar gyfer dysgu, arferion cynhwysol ac asesiadau ac adborth cynhwysol.
Rydym yn cydnabod bod cynhwysiant yn broses ac y gall unrhyw gamau y gallwch eu cymryd, fel trefnu bod adnoddau ar gael ymlaen llaw a recordio sesiynau byw, wneud gwahaniaeth sylweddol i allu pob myfyriwr i wireddu ei botensial.