Skip to main content

Hyrwyddwyr MyfyrwyrYmgysylltu a myfyrwyr

Hyrwyddwyr Myfyrwyr y Mis – Tachwedd

12 Rhagfyr 2022
Portrait
Deepika Khali and Emily Rymer

Llongyfarchiadau i Deepika Khali ac Emily Rymer, sydd wedi cael eu henwi’n Hyrwyddwyr y Mis ar gyfer mis Tachwedd.

Mae Deepika ac Emily wedi dangos ymroddiad amlwg tuag at y cynllun ac wedi rhagori wrth ymgymryd â’r gwaith a gynigir.

Mae Deepika ac Emily wedi rhagori’n benodol yn eu prosiect, ‘Adnoddau Cymorth Dysgu Digidol ar gyfer Cyrsiau Ultra’ ac wedi cael adborth gwych gan Berchennog y Prosiect Allanol (EPO).

Cysylltodd Marianna Majzonova, yr EPO ar gyfer ‘Adnoddau Cymorth Dysgu Digidol ar gyfer Cyrsiau Ultra ‘i ddweud mai pleser pur oedd gweithio gyda nhw, a’u bod yn amlwg yn unigolion annibynnol ond sy’n rhoi’r tîm yn gyntaf ar yr un pryd. Mae hyn yn ymwneud â rheoli amser yn effeithiol, cyfathrebu rhagorol, cwblhau tasgau o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt, gan gynhyrchu adnoddau o ansawdd uchel (fideos a deunydd ysgrifenedig).

Ymunwch â’n tîm o hyrwyddwyr myfyrwyr cyflogedig

Cael eich talu i helpu i lunio profiad y myfyrwyr drwy dod yn hyrwyddwr myfyrwyr. Dyma ragor o wybodaeth am y cynllun a sut gallwch gymryd rhan.