Skip to main content

Curriculum development

Ail Symposiwm Ymchwil Cangen Prifysgol Caerdydd o’r Coleg Cymraeg

5 March 2020

O ddyfrgwn i’r gyfraith, o driniaethau meddygol i lên Cymru, cafwyd tystiolaeth ddiymwad yn 2il Symposiwm Ymchwil Cangen Prifysgol Caerdydd o’r Coleg Cymraeg nad oes bellach yr un ddisgyblaeth na ellir ei chyflwyno a’i thrafod yn ddifyr a thrylwyr yn y Gymraeg. Agorwyd y prynhawn gan Dr Huw Williams, Deon y Gymraeg, a fu’n trafod pwysigrwydd parhad a datblygiad y ddealltwriaeth ysgolheigaidd cyfrwng Cymraeg a Chymreig.

Y cyflwyniad cyntaf oedd “Meddyginiaethau newydd i drechu canser: Sut i gael y ddeilen i ddisgyn?” gan Yr Athro Arwyn T Jones, Ysgol Fferylliaeth. Mae gan Arwyn y ddawn o gyflwyno pwnc gwyddonol mewn ffordd ddealladwy a difyr iawn, mae’n amlwg yn hen law ar drafod a chyflwyno ei faes arbenigol yn Gymraeg ac i gynulleidfaoedd amrywiol. Nid oedd pawb yn y gynulleidfa yn wyddonwyr, ond daliodd Arwyn sylw pawb. Hyfryd clywed terminoleg megis fflwroleuol, fectorau a gwrthgorff yn llifo’n naturiol gan brofi fod y Gymraeg yn berthnasol.

Dyma fraslun o’r cyflwyniadau eraill a gafwyd.

Mae Astudiaethau Geiriau a Cherddoriaeth wedi hen sefydlu yn Lloegr a thu hwnt, ond er ein traddodiad cynganeddol, prin yw’r astudiaethau ffurfiol yn y Gymraeg yn ôl Dr Elen Ifan, Ysgol y Gymraeg.

Bu Dr Heulyn Jones o Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Newydd yn trafod syndrom ‘Fragile X’, anhwylder genetig a nodweddir gan anabledd deallusol.

Dyfrgwn oedd pwnc papur Nia Thomas o Ysgol y Biowyddorau. Da clywed fod dyfrgwn yn dychwelyd i afonydd Tâf ac Elái, ond trist wedyn clywed fod llifogydd fel a gafwyd yn ddiweddar yn adegau peryglus iawn iddynt.

I gloi, Dr Huw Pritchard o Ysgol y Gyfraith fu’n trafod ‘Trawsblannu’r Gyfraith’. Yn ei gyflwyniad, a ysgogwyd gan ei ymweliad diweddar â chynhadledd yng Ngwlad y Basg, cawsom drosolwg o astudiaethau cymharol diwylliannau cyfreithiol.

Prynhawn difyr a digon o drafodaeth a chwestiynau ar ôl pob cyflwyniad. Edrychwn ymlaen at y 3edd Symposiwm Ymchwil flwyddyn nesaf. Cynhelir hon ar Brynhawn Llun 1 Mawrth 2021, yn dilyn cinio Dathlu Dewi Sant – rhowch y dyddiad yn eich dyddiaduron nawr!

Awdur: Elliw Iwan, Swyddog Cangen Caerdydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol